Datganiad ar argyfwng Rwsia / Wcráin

Aelodau, dylech wybod bod gwerth eich pensiwn gyda Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn ddiogel. Ni fydd eich pensiwn gyda CPLlL yn cael ei effeithio os bydd buddsoddiadau Cronfa Bensiynau Clwyd yn disgyn mewn gwerth oherwydd yr argyfwng geowleidyddol.

Datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru

Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.

Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.

Y Cynghorydd Clive Lloyd

Ar gyfer ac ar ran Partneriaeth Pensiwn Cymru a'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru