Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu nodi arwyddion sgamiau pensiwn. Mae rhai tactegau sgamwyr yn cynnwys:
- Cynnig adolygiadau pensiwn neu wiriadau iechyd am ddim
- Addo gwell enillion ar arbedion
- Awgrymu eich bod chi’n ceisio tynnu eich buddion pensiwn cyn i chi droi’n 55 oed
- Hyrwyddo bylchau treth, benthyciadau pensiwn neu arian parod
- Eich gorfodi chi i weithredu’n gyflym i derfynau amser tynn neu gynigion unwaith yn unig
- Cysylltu â chi yn gwbl annisgwyl.
Yn benodol, mae galwadau diwahoddiad ynghylch pensiynau yn erbyn y gyfraith. Ni ddylai unrhyw gwmni gysylltu â chi ynghylch eich pensiwn oni bai eich bod chi wedi gofyn iddyn nhw wneud.
Pan fyddwch chi wedi trosglwyddo eich pensiwn i gronfa sy’n sgam, bydd hi’n rhy hwyr. Gallwch golli eich arbedion pensiwn i gyd. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch chi hefyd yn wynebu bil treth sy’n 55% o werth y pensiwn yr ydych chi wedi’i drosglwyddo.
I wneud yn siŵr nad ydych chi’n cael eich twyllo, dilynwch y pedwar cam syml canlynol:
Cam 1: Gwrthod unrhyw gynigion annisgwyl
Os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl ynghylch cyfle pensiwn, mae’n debygol ei fod yn risg uchel neu’n dwyll.
Os cewch alwad di-wahoddiad ynghylch eich pensiwn, y peth mwyaf diogel i wneud yw rhoi’r ffôn i lawr. Mae’n anghyfreithlon ac yn debygol iawn o fod yn dwyll. Anwybyddwch unrhyw negeseuon testun neu e-byst annisgwyl. Rhowch wybod am negeuon a galwadau niwsans i’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) - mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg.
Gwyliwch allan am gynigion i gynnal adolygiadau pensiwn am ddim. Nid yw cyngor proffesiynol am bensiynau am ddim.
Peidiwch â gadael i rywun yr ydych yn ei adnabod, hyd yn oed ffrind neu aelod o’r teulu eich perswadio i wneud unrhyw beth. Efallai eu bod hwy yn cael eu twyllo. Gwiriwch bopeth eich hun.
Cam 2: Gwiriwch pwy rydych yn delio â hwy
Gwiriwch fod unrhyw un sydd yn cynnig cyngor neu wasanaethau ariannol arall ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Golyga hyn bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, neu’r FCA wedi eu hawdurdodi i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Os ydych angen cymorth i wirio, gallwch ffonio llinell gymorth FCA ar 0800 111 6768.
Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw gwmni yr ydych yn ymwneud â hwy yn ffug: sef, eu bod yn honni i fod yn gwmni awdurdodedig gwirioneddol gyda’r FCA. Defnyddiwch fanylion cyswllt y Gofrestr Gwasanaeth Ariannol bob amser, ac nid y manylion y mae’r cwmni yn ei ddarparu.
Gwiriwch enw’r cyfarwyddwyr ac a yw’r cwmni wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) neu beidio. Chwiliwch am enw’r cwmni ac enw’r cyfarwyddwyr i weld a yw eraill wedi lleisio unrhyw bryderon.
Hefyd gallwch wirio’r rhestr rybuddio FCA (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) o gwmnïau i’w hosgoi: maent wedi cael eu riportio yn cynnig gwasanaethau ariannol yn y DU heb gymeradwyaeth gan y FCA.
Cam 3: Peidiwch â chael eich brysio na’ch rhoi dan bwysau
Cymrwch eich amser i wneud yr holl wiriadau yr ydych angen eu gwneud. Byddwch yn wyliadwrus o bensiynau gwerth uwch sydd yn rhy dda i fod yn wir.
Cam 4: Cael gwybodaeth neu gyngor diduedd
Dylech feddwl am gael arweiniad neu gyngor ariannol cyn gwneud unrhyw beth gyda’ch pensiwn.