Cyn y cynllun ECGA ym mis Ebrill 2014 roedd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun pensiwn cyflog terfynol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn derbyn ffracsiwn o’ch cyflog pensiynadwy terfynol fel eich pensiwn blynyddol am bob diwrnod y buoch chi’n aelod cyn 31 Mawrth 2014, a chyfandaliad di-dreth awtomatig am bob diwrnod y buoch chi’n aelod cyn 31 Mawrth 2008.
Pan fyddwch chi’n ymddeol, cewch ddewis i newid rhywfaint o’r pensiwn hwn yn gyfandaliad untro ychwanegol. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.
Mae Cyllid a Thollau EF yn rhoi terfyn ar faint o gyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fydd eich pensiwn yn cael ei dalu i chi. Gelwir y terfyn hwn yn lwfans cyfandaliad. Ar hyn o bryd, y cyfandaliad mwyaf yw’r isaf o’r canlynol:
- 25% o werth cyfalaf eich buddion
- £268,275*
- £268,275* yn llai na chyfanswm y cyfandaliadau rydych chi wedi’u cymryd eisoes
*Os oes gennych chi warchodaeth Lwfans Oes ddilys, o bosibl y gallech gymryd cyfandaliad sy’n fwy na £268,275.
Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer, ond os ewch chi dros derfyn y lwfans cyfandaliad, bydd rhaid i chi dalu treth ar y swm uwchlaw’r terfyn ar eich cyfradd ymylol.
Os oeddech yn rhan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Ebrill 2008, golyga hyn y byddwch yn cael cyfandaliad di-dreth yn awtomatig pan fyddwch yn ymddeol hefyd.
Pan fyddwch yn stopio talu cyfraniadau pensiwn, bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i ni:
- yr oriau yr ydych wedi’u gweithio;
- unrhyw absenoldebau a fu gennych; a’r
- ffigur cyflog pensiynadwy terfynol i’w ddefnyddio
i gyfrifo’r rhan hon o’ch pensiwn. Os ydych wedi gweithio’n rhan amser neu yn ystod y tymor, eich cyflog pensiynadwy terfynol oedd yr hyn sy’n gyfystyr â blwyddyn llawn amser. Bydd eich cyflogwr wedi rhoi cyfarwyddyd i ni ddefnyddio un o’r canlynol:
- 365 diwrnod hyd at eich dyddiad gadael; yn yr enghraifft hon, 31 Awst 2023:
- 1 Medi 2022 tan 31 Awst 2023
- Y gorau o’r 3 blynedd diwethaf, pan fydd y flwyddyn yn 365 diwrnod hyd at eich dyddiad gadael. Felly, ar gyfer yr enghraifft hon, y 365 diwrnod gorau o:
- 1 Medi 2022 tan 31 Awst 2023
- 1 Medi 2021 tan 31 Awst 2022
- 1 Medi 2020 tan 31 Awst 2021
- Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd eich cyflogwr wedi cyfrifo eich tâl terfynol fel cyfartaledd o unrhyw 3 blynedd olynol sydd yn dod i ben ar 31 Mawrth. Fel arfer dim ond os yw eich tâl wedi lleihau y cewch yr opsiwn hwn:
- ar ôl i chi newid i swydd gyda llai o gyfrifoldeb (ar wahân i ymddeoliad hyblyg neu ddiwedd secondiad)
- yn dilyn ymarfer gwerthuso swydd neu ymarfer tâl cyfartal.
- oherwydd bod y tâl pensiynadwy a nodwyd yn eich contract wedi newid
- oherwydd bod llai na deng mlynedd cyn i chi stopio talu cyfraniadau pensiwn
Byddwn wedi cyfrifo eich pensiwn cynllun cyflog terfynol mewn un neu ddwy o’r ffyrdd canlynol, yn ddibynnol ar bryd wnaethoch chi ddechrau a rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:
| 1 Ebrill 2008 tan 31 Mawrth 2014 |
Pensiwn Blynyddol yn unig
Aelodaeth mewn blynyddoedd a diwrnodau ÷ 60 x cyflog pensiynadwy terfynol
|
| Ar neu cyn 31 Mawrth 2008 |
Pensiwn blynyddol
Aelodaeth mewn blynyddoedd a diwrnodau ÷ 80 x cyflog pensiynadwy terfynol
Cyfandaliad di-dreth untro
1/80 pensiwn blynyddol x 3
|
Enghraifft
| 1 Ebrill 2008 tan 31 Mawrth 2014 |
Pensiwn Blynyddol yn unig
6 ÷ 60 x £24,833.33 = £2,483.33 pensiwn blynyddol
|
| Ar neu cyn 31 Mawrth 2008 |
Pensiwn blynyddol
10 mlynedd ÷ 80 x £24,833.33 = £3,104.17 pensiwn blynyddol
Cyfandaliad di-dreth untro
£3,104.17 x 3 = £9,312.51 cyfandaliad di-dreth untro
|