Talu treth ar eich pensiwn

Mae eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn incwm. Felly, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth incwm arno os yw eich incwm hollgynhwysfawr, yn cynnwys pob pensiwn a chyflog, yn fwy na £12,570 y flwyddyn. Byddwn yn cymryd unrhyw dreth sy’n daladwy ar eich pensiwn naill ai drwy:

  • Ddefnyddio’r cod treth ar eich P45; neu
  • Os nad ydym yn derbyn P45 ar eich cyfer, drwy ddefnyddio cod treth 1257L ar sail mis 1.

Byddwn yn gwneud hyn tan i’r Swyddfa Dreth ddweud wrthym pa god treth newydd i’w ddefnyddio. Pan fyddwn yn cael eich cod treth newydd, byddwn yn ad-dalu unrhyw ordaliadau treth neu’n casglu unrhyw dreth sy’n ddyledus.

Pan fyddwch yn dechrau cael eich pensiwn gennym ni, byddwn yn dweud wrth y Swyddfa Dreth. Unwaith mae’r Swyddfa Dreth yn gwybod, eu cyfrifoldeb nhw yw dweud wrthym ni pa god treth newydd i’w ddefnyddio ar gyfer eich pensiwn.

Os ydych eisiau holi ynghylch eich cod treth, cysylltwch â’r Swyddfa Dreth yn uniongyrchol ar 0300 200 1900. Pan fyddwch yn eu ffonio bydd angen i chi roi eich rhif yswiriant gwladol a hefyd roi gwybod iddynt mai cyfeirnod treth Cronfa Bensiynau Clwyd ydi 914/YA14288.

Gallwch hefyd fynd i wefan GOV.UK (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cod treth.

P60

Byddwch yn cael P60 gan Gronfa Bensiynau Clwyd bob mis Mai. Bydd yn dangos i chi faint o bensiwn yr ydych wedi’i gael a faint o dreth y gwnaethoch ei dalu ohono yn y flwyddyn dreth flaenorol. Bydd eich P60 ar gael ar eich cyfrif Hunan-wasanaeth Aelodau, oni bai eich bod yn dweud wrthym eich bod eisiau clywed gennym trwy’r post.