Buddion Marwolaeth

Cynghorwr CPLlL

Os byddwch chi’n marw tra’ch bod chi’n cael pensiwn Cynghorydd CPLlL, gall swm o arian parod fod yn daladwy i chi fel grant marwolaeth os:

  • Byddwch chi’n marw yn y bum mlynedd gyntaf o gael eich taliadau pensiwn, ac
  • Os ydych chi’n iau na 75 oed ar adeg eich marwolaeth

Bydd swm y grant marwolaeth bum gwaith eich pensiwn blynyddol, ar ôl tynnu unrhyw daliadau yr ydych chi wedi’u cael eisoes.

Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd ddisgresiwn o ran pwy ddylai dderbyn y grant marwolaeth. Os byddwch chi’n llenwi ffurflen mynegi dymuniad yn enwi eich buddiolwyr, bydd hyn yn ein helpu ni i dalu’r grant marwolaeth i’r unigolion cywir.

Gall hyn fod yn un neu fwy o aelodau o’ch teulu, ffrindiau neu elusennau.

Neu mae modd diweddaru eich buddiolwyr drwy lawrlwytho Ffurflen Mynegi Dymuniad o’n gwefan.

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, gall eich partner dderbyn pensiwn goroeswr os ydych chi’n marw o’u blaenau nhw. Bydd angen iddyn nhw anfon copi o’r dystysgrif briodas neu bartneriaeth sifil i ni a llenwi ffurflenni hawlio.

Mae pensiwn goroeswr yn cael ei dalu fel a ganlyn:

  • Pensiwn tymor byr am dri mis yn dilyn eich marwolaeth. Gellir ei dalu am chwe mis yn lle hynny os yw un neu fwy o blant cymwys yng ngofal y goroeswr. Gwerth y pensiwn tymor byr yw’r uchaf o’r canlynol:
    • Y pensiwn yr oeddech chi’n ei gael; neu’r
    • Pensiwn y byddech chi wedi’i gael, gan anwybyddu:
      • unrhyw ostyngiad yn sgil ymddeoliad cynnar,
      • y cyfandaliad untro a gawsoch chi os gwnaethoch chi ymddeol ar sail afiechyd a bod eich disgwyliad oes chi’n llai na blwyddyn
  • Bydd pensiwn hirdymor yn dechrau ar ôl i’r pensiwn tymor byr ddod i ben. Mae’r pensiwn hirdymor fel arfer yn hanner yr uchaf o’r canlynol:
    • Y pensiwn yr oeddech chi’n ei gael; neu’r
    • Pensiwn y byddech chi wedi’i gael, gan anwybyddu:
      • unrhyw ostyngiad yn sgil ymddeoliad cynnar;
      • unrhyw swm o bensiwn y gwnaethoch chi ei gyfnewid am arian parod di-dreth ychwanegol;
      • y cyfandaliad untro a gawsoch chi os gwnaethoch chi ymddeol ar sail afiechyd a bod eich disgwyliad oes chi’n llai na blwyddyn

Sylwch: Os gwnaethoch chi briodi ar ôl ymddeol o ganlyniad i salwch parhaol, hanner eich pensiwn sylfaenol yn unig fydd pensiwn y partner sy’n goroesi. Er enghraifft, ni fydd yn cynnwys unrhyw swm ychwanegol a gafwyd o ganlyniad i salwch.

Os gwnaethoch chi ffurfio partneriaeth sifil ar ôl ymddeol, bydd pensiwn y partner sy’n goroesi yn hanner eich pensiwn chi.

I fod yn gymwys i gael pensiwn plentyn, mae’n rhaid i’r plentyn fod:

  • Yn blentyn biolegol i chi y cafodd ei eni cyn, ar neu o fewn 12 mis o farwolaeth yr aelod
  • Yn blentyn wedi’i fabwysiadu a anwyd cyn neu ar ddyddiad marwolaeth yr aelod
  • Yn llys-blentyn neu blentyn a dderbyniwyd gan yr aelod ymadawedig fel aelod o’r teulu a oedd yn ddibynnol ar yr aelod pan fu farw

Nid yw plentyn a noddir gan yr aelod drwy elusen gofrestredig yn blentyn cymwys.

Mae’n rhaid iddynt hefyd fod:

  • Dan 18 oed, neu
  • Dan 23 oed ac mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol, neu
  • O unrhyw oedran ac yn methu â gweithio o ganlyniad i amhariad corfforol neu feddyliol parhaol ac, o ganlyniad i hynny, yn ddibynnol ar yr aelod pan fu iddynt farw. Mae’n rhaid i feddyg annibynnol gynghori a yw’r amhariad yn debygol o fod yn barhaol.

Mae plant yn derbyn rhan o’ch pensiwn. Bydd y swm yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych chi ac a yw eich partner hefyd yn cael pensiwn.