Hygyrchedd
Os oes gennych anabledd, mae cyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio ar AbilityNet (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).
Datganiad hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r wefan hon a gynhelir gan Gronfa Bensiynau Clwyd a’i gweinyddu gan Gyngor Sir y Fflint:
https://cronfabensiynauclwyd.org.uk
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (2) 2018.
Rydym eisiau i chi gael y defnydd gorau o’r wefan hon. Mae hyn yn golygu y dylech allu:
- chwyddo i mewn heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
- dod o hyd i a chyrraedd cymaint o’r wefan â phosibl gan ddefnyddio’r bysellfwrdd yn unig
- defnyddio rhaglen darllen sgrin
- deall y wybodaeth ar y wefan
Gwyddwn efallai na fydd y rhannau hyn o’r wefan yn gwbl hygyrch:
- newid lliw'r cefndir a ffont. Fodd bynnag, mae lliwiau ein gwefan eisoes yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2 AAA
- nid yw dogfennau PDF yn gwbl hygyrch i raglenni darllen sgrin. Fodd bynnag, os ydych angen fersiwn hygyrch o ddogfen PDF ar y safle, cysylltwch â ni
- efallai na fydd rhaglenni darllen sgrin yn perfformio’n dda neu’n rhoi’r profiad gorau posib i chi
Fodd bynnag, rydym bob amser yn ceisio gwella’r meysydd hyn.
Gwybodaeth adborth a chyswllt
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ar y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille:
E-bost: pensiynau@siryfflint.gov.uk
Ffoniwch: 01352 702912
Byddwn yn cysylltu yn ôl â chi mewn 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydym wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu’n credu bod angen i ni wella hygyrchedd mewn maes arall, cysylltwch â:
Cyfeiriad: Cronfa Bensiynau Clwyd, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewloe, Sir y Fflint, CH5 3FF
E-bost: pensiynau@siryfflint.gov.uk
Ffoniwch: 01352 702912
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn nodi problem ac nid ydych yn hapus gyda’r ffordd rydym yn ymateb, cysylltwch â’r Gwasanaeth Ymgynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol â safon WCAG fersiwn 2.2 yn sgil y pwyntiau a grybwyllwyd yn adran gyntaf y datganiad hwn.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 19 Hydref 2021 a chafodd ei adolygu ddiwethaf ar 7 Ebrill 2025.
Bu i Gronfa Bensiynau Clwyd brofi’r wefan hon ddiwethaf ar 7 Hydref 2025.