Rheoliadau CPLlL

Gwnaed rheoliadau’r cynllun o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 ac hefyd o dan Deddf Cynlluniau Pensiwn y Gwasanaeth Cyhoeddus 2013. Caiff newidiadau i reolau'r cynllun eu trafod ar lefel genedlaethol gan gynrychiolwyr gweithwyr a chyflogwyr, ond dim ond â chymeradwyaeth y Senedd y gellir ei ddiwygio. Mae’n rhaid i Gronfa Bensiwn Clwyd eich hysbysu am unrhyw newidiadau a wneir.

Mae'r CPLlL yn gynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus cofrestredig o dan Bennod 2 Rhan 4 Deddf Cyllid 2004. Cyflawnodd gofrestru awtomatig yn rhinwedd Rhan 1 o Atodlen 36 y Ddeddf honno (oherwydd cyn 6 Ebrill 2006, roedd y cynllun yn gynllun buddiannau ymddeol a gymeradwywyd dan Bennod I Rhan XIV Deddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988 a chynllun statudol perthnasol o dan adran 611A o'r Ddeddf honno). Mae hyn yn golygu eich bod yn derbyn rhyddhad treth ar eich cyfraniadau, ac mae'n cydymffurfio â darpariaethau perthnasol Deddf Cynlluniau Pensiwn 1993, Deddf Pensiynau 1995 a Deddf Pensiynau 2004.

Mae'r CPLlL yn cyrraedd safonau'r llywodraeth dan ddarpariaethau cofrestru awtomatig Deddf Pensiynau 2008.

Fel aelod o'r cynllun, byddwch yn talu cyfraniadau i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Ar hyn o bryd mae eich cyflogwr yn talu gweddill y gost o ddarparu eich buddion ar ôl cymryd i ystyriaeth adenillion buddsoddi.

Bob tair blynedd, mae actwari annibynnol yn cyfrifo faint y dylai’ch cyflogwr ei gyfrannu at y cynllun. Bydd y swm yn amrywio, ond yn gyffredinol y dybiaeth sylfaenol bresennol yw bod gweithwyr yn cyfrannu tua thraean o gostau'r cynllun a'r cyflogwr yn cyfrannu’r gweddill.

Er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y cynllun mae proses rheoli costau bellach ar waith yng Nghynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cymru a Lloegr a fydd yn monitro cost y cynllun i sicrhau ei fod yn aros o fewn paramedrau y cytunwyd arnynt fel y nodir gan Fwrdd Ymgynghorol y Cynllun a Thrysorlys Ei Mawrhydi.

Os bydd costau yn cynyddu y tu allan i’r paramedrau hynny, efallai y bydd angen newidiadau i ddyluniad y cynllun yn y dyfodol. Mae yna gyfrifoldeb i ddiogelu Cronfa Bensiwn Clwyd a’i fuddsoddi mewn modd cyfrifol er mwyn sicrhau bod y Gronfa yn gallu talu pensiynau presennol a'r dyfodol.

Mae rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn datgan bod yna nifer o ddogfennau y mae'n rhaid eu cyhoeddi ac mae’r rhain i’w gweld ar yr adran hon o'r wefan. Mae'r rhain yn cynnwys datganiad strategaeth buddsoddi, datganiad strategaeth a'r datganiad polisi llywodraethu.

Dylai'r adran hon o'r wefan ateb eich holl ymholiadau pensiwn, ond os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani, cysylltwch â Chronfa Bensiwn Clwyd yn uniongyrchol.

Gallwch weld Rheoliadau a diwygiadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol trwy ddefnyddio'r ddolen llinell amser isod:

Rheoliadau CPLlL 2014 (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)

Rheoliadau CPLlL cyn 2014 (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)