Dyma ganllaw cam wrth gam sy’n egluro beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymddeol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL i Gynghorwyr).
Cam 1: Camu i lawr fel cynghorydd
Bydd eich cyngor yn cadarnhau eich dyddiad gadael ac yn trosglwyddo eich manylion tâl i Gronfa Bensiynau Clwyd ar ôl i chi gamu i lawr a derbyn eich tâl ffioedd olaf.
Cam 2: Byddwn yn cyfrifo gwerth eich pensiwn
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth ar y ffurflen ymadael i gyfrifo gwerth eich buddion pensiwn. Yna caiff y ffigurau hyn eu gwirio eto cyn cael eu hanfon atoch chi.
Cam 3: Derbyn eich pecyn ymddeol
Byddwn wedyn yn anfon eich pecyn ymddeol atoch. Os ydych chi’n defnyddio’r Hunanwasanaeth Aelodau (HWA), byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda chyfarwyddiadau sut i gael gafael ar y pecyn. Fel arall fe wnawn ei bostio i’ch cyfeiriad cartref.
Bydd y pecyn ymddeol yn cynnwys:
- Eich ffigyrau pensiwn a’ch opsiynau
- Ffurflenni i chi eu llenwi a’u hanfon yn ôl
Bydd ffigyrau eich pensiwn yn dangos eich prif bensiwn blynyddol, yn ogystal ag unrhyw gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGYau) yr ydych wedi eu talu.
Bydd angen i chi ddefnyddio’r ffigyrau yn y pecyn i benderfynu a ydych am droi rhywfaint o’ch pensiwn blynyddol yn gyfandaliad unwaith yn unig ai peidio.
Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.
Ni allwch droi eich holl bensiwn blynyddol yn lwmp swm di-dreth. Bydd y pecyn yn dangos y lwmp swm di-dreth mwyaf y gallwch ei gael (yn cynnwys CGY) a swm y pensiwn blynyddol y byddai gennych ar ôl wedyn.
Cam 4: Gwneud dewisiadau a llenwi’r ffurflenni
Darllenwch eich llythyr opsiynau yn ofalus a dewiswch yr un yr ydych ei ffafrio. Bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y canlynol:
- Ffurflen Opsiynau Ymddeol
- Ffurflen Manylion Personol
- Ffurflen manylion banc
- Ffurflen datgan buddion pensiwn blaenorol
Mae’n rhaid i chi hefyd anfon unrhyw dystysgrifau perthnasol atom. Er enghraifft, eich tystysgrif geni, tystysgrif geni eich partner, eich tystysgrif priodas, tystysgrif partneriaeth sifil neu eich gorchymyn terfynol. Sylwer: roedd gorchymyn terfynol yn arfer cael ei alw’n archddyfarniad absoliwt. Fel prawf o’ch dyddiad geni gallwn dderbyn copi o’ch trwydded yrru neu eich pasbort yn lle tystysgrif geni.
Os ydych yn defnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth gallwch (HWA) lwytho eich ffurflenni a’ch tystysgrifau i’ch cyfrif.
Mae’n rhaid i ni dderbyn yr holl ffurflenni a thystysgrifau angenrheidiol cyn y gallwn ddechrau talu eich pensiwn.
Cam 5: Prosesu eich pensiwn
Ar ôl derbyn eich ffurflenni cyflawn, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn cyfrifo eich pensiwn yn seiliedig ar y dewis yr ydych wedi’i nodi ar eich ffurflen opsiynau.
Os ydych chi wedi talu CGY, mae hyn yn cymryd yn hirach gan fod yn rhaid i’r darparwr CGY gymryd yr arian o lle mae wedi’i fuddsoddi cyn y gallwn ni dalu unrhyw bensiwn i chi.
Efallai y byddwch eisiau stopio talu’r cyfraniadau ychwanegol yn y mis cyn dyddiad eich ymddeoliad, gallai hyn helpu i gyflymu’r broses ddad-fuddsoddi.
Cam 6: Talu’r buddion pensiwn i chi
Byddwn yn talu eich pensiwn ac unrhyw gyfandaliad mewn i’r banc gan ddefnyddio manylion y cyfrif yr ydych wedi’u rhoi i ni.
Byddwch yn derbyn unrhyw gyfandaliad o fewn 7-10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn ein llythyr terfynol.
Ar gyfer eich taliad pensiwn cyntaf, byddwn yn talu unrhyw ôl-ddyledion o fewn pythefnos i ddyddiad eich llythyr terfynol.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Ar ôl eich taliad pensiwn cyntaf, byddwch yn cael eich pensiwn ar yr 28ain o bob mis, neu ar y dydd Gwener cynt os yw ar benwythnos neu Ŵyl Banc.
Efallai y byddwch yn talu treth ar eich incwm pensiwn. Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn rhoi gwybod i ni beth yw’r cod treth newydd y dylem ei ddefnyddio ar gyfer eich pensiwn. Bydd y cod treth hwn yn rhoi gwybod i ni faint o dreth i’w gymryd o’ch taliadau pensiwn misol.
Byddwch yn cael eich pensiwn bob mis am weddill eich oes.
Os ydych yn defnyddio’r cyfleuster Hunanwasanaeth Aelodau, byddwn yn llwytho’r holl lythyrau, slipiau pensiwn a ffurflenni P60 yn y dyfodol i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Aelodau i chi eu gweld. Mewngofnodwch drwy fynd i yma.
Sicrhewch eich bod yn gadael i ni wybod os bydd eich manylion personol yn newid, megis eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc.
Gallwn dalu eich pensiwn mewn i gyfrif banc tramor os ydych yn symud dramor. Mae angen i chi gysylltu i ofyn am y ffurflen berthnasol.