Proses dechreuwyr newydd

Mae’r dudalen hon yn egluro’r canllawiau cam wrth gam i ymuno â’ch Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Canllawiau Cam wrth Gam

Cam 1: Mae eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Os yw eich contract cyflogaeth yn un am dri mis neu fwy a’ch bod yn iau na 75 mlwydd oed, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru i’r CPLlL heb i chi orfod gwneud dim.

Os yw eich contract cyflogaeth yn llai na thri mis neu’ch bod wedi optio allan o’r CPLlL yn y gorffennol, gallwch lenwi ffurflen optio i mewn a’i hanfon at adran gyflogau eich cyflogwr. Yna, byddant yn dechrau tynnu cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog.

Mae’r CPLlL yn rhan werthfawr o’ch pecyn tâl a gwobrwyo. Mae’n nodi eich pensiwn blynyddol sy’n daladwy am oes pan fyddwch yn ymddeol, gostyngiad treth ar eich cyfraniadau, cyfraniadau cyflogwyr, yswiriant salwch a bywyd ac yn cynyddu gyda chostau byw.

Cam 2: Mae eich cyflogwr yn rhoi gwybod i Gronfa Bensiynau Clwyd eich bod wedi ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae eich cyflogwr yn anfon adroddiadau misol i Gronfa Bensiynau Clwyd o unrhyw weithwyr newydd sydd wedi ymuno â’r CPLlL.

Unwaith y byddwn yn derbyn yr adroddiad, byddwn yn creu cofnod pensiwn ar eich cyfer yn ein cronfa ddata pensiynau.

Cam 3: Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn anfon llythyr a phecyn aelodau newydd atoch

Bydd y llythyr yn cadarnhau eich bod wedi ymuno â’r CPLlL, y dyddiad a’ch swydd, eich cyfradd cyfraniadau pensiwn, a phryd i ddisgwyl eich datganiad blynyddol. Bydd Pecyn Aelod Newydd a rhestr wirio o gamau i chi eu cyflawni hefyd. Mae’r camau’n cynnwys:

  • Gwirio bod eich manylion personol yn gywir ar eich cofnod pensiwn.
  • Anfon copi o’ch tystysgrif geni, trwydded yrru, neu basbort atom.

Cam 4: Darllenwch ganllawiau’r cynllun a dychwelyd eich ffurflenni wedi’u llenwi a chopi o’ch tystysgrifau

Mae modd canfod canllaw byr i’r CPLlL ar gyfer gweithwyr yng Nghymru a Lloegr ar ein tudalen ffurflenni ac adnoddau.

Bydd angen i chi ddarllen y canllawiau er mwyn deall sut mae’r CPLlL yn gweithio.

Bydd angen llenwi a dychwelyd y ffurflenni hyn:

  • Pensiynau CPLlL, sector cyhoeddus a phensiynau eraill blaenorol
  • Ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth
  • Ffurflen trosglwyddo awdurdod (dim ond os oes gennych chi bensiynau eraill yr ydych am eu trosglwyddo i ni y dylech lenwi’r ffurflen hon).

Cam 5: Sicrhewch eich bod wedi nodi eich dewis iaith a chyfathrebu ar y ffurflenni yng Ngham 4

Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym sut yr hoffech i ni gyfathrebu â chi fel y gallwn gadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â’ch pensiwn. Gallwch ddewis un o’r ddau ddewis canlynol:

  • Cofrestru ar gyfer Hunanwasanaeth Aelodau: Mae Hunanwasanaeth Aelodau yn eich galluogi; i weld eich datganiad buddion blynyddol, gweld dogfennau pensiwn mewn amser real, diweddaru eich manylion personol, defnyddio ‘Cyfrifianellau Buddion’ i weld amcangyfrifiad o’ch pensiwn, a defnyddio ein ‘Cynlluniwr Ymddeoliad’ i’ch helpu i gyfrifo beth fydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich ymddeoliad yn un hapus. Mae’n gyflym a hawdd cofrestru yma.
  • Os ydych chi’n dymuno derbyn yr holl ohebiaeth drwy’r post, anfonwch e-bost at pensiynau@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01352 702980 gyda’ch enw a rhif yswiriant gwladol i roi gwybod i ni.

Cam 6: Os oes gennych gofnod pensiwn presennol gyda Chronfa Bensiynau Clwyd efallai y byddai gennych y dewis o’u cyfuno. Byddwn yn anfon eich dewisiadau cyfuno ar wahân

Os ydych wedi talu cyfraniadau CPLlL yn flaenorol ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd, efallai bod gennych chi gofnod pensiwn gyda ni eisoes. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod os oes modd cyfuno’r cofnodion pensiwn hyn.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Talu cyfraniadau ychwanegol:

Os ydych chi’n dymuno talu cyfraniadau ychwanegol i roi hwb i werth eich pensiwn pan fyddwch chi’n ymddeol, mae dwy ffordd o wneud hyn yn y CPLlL:

  • Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
  • Cyfraniadau pensiwn ychwanegol

Darllenwch am eich dewisiadau yma.

Safonau Byw mewn Ymddeoliad:

Mae’r Safonau Byw mewn Ymddeoliad (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) wedi’u datblygu i roi darlun o’r math o fywyd y gallech ei fforddio wrth ymddeol. Maent yn dangos sut y gallai ymddeoliad fod ar dair safon wahanol ac maent yn eich cynorthwyo i gynllunio’n ariannol ar gyfer hynny.

Gadael y cynllun cyn ymddeol:

Os ydych chi’n talu cyfraniadau CPLlL am lai na thri mis ac yn penderfynu optio allan, bydd eich cyflogwr yn ad-dalu unrhyw gyfraniadau yr ydych wedi’u talu drwy’ch cyflog.

Os ydych chi’n talu cyfraniadau CPLlL am lai na dwy flynedd (ond dros dri mis), ni fyddech wedi bod yn y cynllun pensiwn am ddigon hir i gronni buddion pensiwn. Fe allech fod yn gymwys am ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn neu drosglwyddo i gynllun pensiwn newydd.

Os ydych chi’n talu cyfraniadau CPLlL am dros ddwy flynedd, fe fydd gennych fuddion gohiriedig yn y cynllun.

Optio allan:

Mae modd dewis rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL drwy lenwi ffurflen optio allan y mae modd ei chanfod yma a’i dychwelyd i adran gyflogau eich cyflogwr.

Cyn optio allan efallai y byddwch eisiau ystyried symud i adran 50:50 y cynllun. Mae’r adran 50:50 yn golygu eich bod yn talu hanner eich cyfraniadau arferol yn gyfnewid am gasglu hanner eich pensiwn arferol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.