Lwfans blynyddol
Eich Lwfans Blynyddol yw'r swm y gall gwerth eich buddion pensiwn gynyddu mewn blwyddyn dreth heb i chi orfod talu treth. Os yw gwerth eich cynilion pensiwn chi rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill yn fwy na'r Lwfans Blynyddol, bydd y swm dros ben yn cael ei drethu fel incwm.
O 6 Ebrill 2023, fe newidiodd y lwfans blynyddol safonol o £40,000 i £60,000. Yn sgil y newid yma, nid yw’n effeithio ar fwyafrif aelodau Cynllun Pensiwn.
Bob mis Medi, mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn cynnal gwiriad lwfans blynyddol ar y pensiwn sydd gennych chi gyda ni.
Os ydi eich buddion yn agos at, neu wedi mynd dros derfyn y lwfans blynyddol safonol, fe gewch chi Ddatganiad Cynilion Pensiwn gennym ni erbyn 6 Hydref fan bellaf. Mae’r datganiad yma’n dangos y manylion i chi ac yn egluro beth i’w wneud nesaf os oes rhaid i chi dalu treth.
Os ydych eich buddion o dan derfyn y lwfans blynyddol safonol, fyddwn ni ddim yn cysylltu â chi.
Efallai na fyddwch chi wedi mynd dros eich terfyn Lwfans Blynyddol gyda’r pensiwn sydd gennych chi yng Nghronfa Bensiynau Clwyd, ond mae’n rhaid i chi ystyried eich holl bensiynau, gan gynnwys unrhyw bensiynau sydd gennych chi gyda darparwyr eraill, er mwyn gweld a ydych chi wedi mynd dros y terfyn lwfans blynyddol.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyfrifo eich lwfans blynyddol, lawrlwythwch ein taflen ffeithiau Trethiant Pensiynau: Lwfans Blynyddol o’r adran ffurflenni ac adnoddau ar ein gwefan.
Os hoffech chi wirio eich lwfans blynyddol, gallwch ddefnyddio’r Adnodd Gwirio’n Gyflym - Lwfans Blynyddol (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Darllenwch y cyfarwyddiadau cyn defnyddio’r adnodd.