Buddion marwolaeth

Os ydych yn marw tra rydych yn derbyn pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, bydd swm o arian yn daladwy fel grant marwolaeth os ydych yn bodloni’r amodau canlynol:

Os gwnaethoch chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Ebrill 1998 Mae’r rheolau hŷn yma sy’n ymwneud â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn fwy cymhleth. Fe allwn roi amcangyfrif i chi o’r grant marwolaeth ar gais.

Dim ond os ydych chi o dan 75 oed pan rydych yn marw y gall grant marwolaeth fod yn daladwy.

Os gwnaethoch chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhwng 1 Ebrill 1998 a 31 Mawrth 2008
  • Os ydych chi wedi derbyn llai na 5 mlynedd o daliadau pensiwn ar ddyddiad eich marwolaeth ac
  • Os ydych chi o dan 75 oed pan rydych chi’n marw

Bydd y grant marwolaeth bum gwaith eich pensiwn blynyddol heb unrhyw daliadau roeddech eisoes wedi eu derbyn.

Os oeddech wedi rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008
  • Os ydych wedi derbyn llai na 10 mlynedd o daliadau pensiwn ar ddyddiad y farwolaeth ac
  • Os ydych o dan 75 oed pan rydych yn marw

Bydd y grant marwolaeth ddeg gwaith eich pensiwn blynyddol cyn i chi ildio unrhyw bensiwn ar gyfer cyfandaliad, heb gynnwys y pensiwn a’r cyfandaliad roeddech eisoes wedi ei dderbyn.

Caiff hyn ei gyfrifo ychydig yn wahanol ar gyfer unrhyw ran o’ch pensiwn rydych wedi ei gronni cyn 1 Ebrill 2014.

Mae’n rhaid i unrhyw grant marwolaeth gymryd i ystyriaeth os oes gennych chi unrhyw bensiynau eraill mewn cronfeydd eraill o dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Fe fyddwn yn gwirio gyda Chronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr i weld os oes gennych chi:

  • Unrhyw gyfrifon pensiwn gohiriedig gyda nhw: hynny yw nid oeddech yn talu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mwyach ond nid oeddech yn derbyn taliadau pensiwn eto
  • Unrhyw gyfrifon gweithredol gyda nhw: hynny yw, lle rydych yn parhau i dalu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Bydd y grant sy’n daladwy wedyn yr uchaf o’r rhain:

  • Y grant marwolaeth o’ch cyfrif gohiriedig neu gyfrif pensiynwr; neu
  • Y grant marw yn y swydd.

Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd ddisgresiwn ynglŷn â phwy ddylai dderbyn y grant marwolaeth. Os ydych yn llenwi ffurflen mynegi dymuniad yn enwi eich buddiolwyr, mae hyn o gymorth i ni i dalu’r grant marwolaeth i’r bobl gywir.

Fe allant fod yn un neu fwy o aelodau’r teulu, ffrindiau neu elusennau.

Gallwch ddiweddaru eich buddiolwyr drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Aelodau.

Neu gallwch lawrlwytho ffurflen Mynegi Dymuniad o’n gwefan.

Os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, gall eich partner dderbyn pensiwn partner sy’n fyw os ydych yn marw o’u blaenau. Fe fydd angen iddynt anfon copi i ni o’r dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil a llenwi rhai ffurflenni hawlio.

Os ydych yn byw gyda’ch partner ond erioed wedi priodi nac wedi ffurfio partneriaeth sifil gyda nhw, maent yn cael eu hadnabod fel eich partner sy’n cyd-fyw. Os oeddech yn talu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar neu ar ôl 1af Ebrill 2008, fe allai eich partner sy’n cyd-fyw fod yn gymwys am bensiwn partner adeg eich marwolaeth. Byddai’r pensiwn hwn wedi ei seilio ar eich aelodaeth o’r cynllun pensiwn o 6 Ebrill 1988 yn unig oni bai eich bod wedi dewis cyn 1af o Ebrill 2014 i dalu cyfraniadau ychwanegol am aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988 i gyfrif.

Mae’n rhaid i’ch partner sy’n cyd-fyw fod wedi bodloni’r holl amodau hyn am o leiaf 2 flynedd cyn eich marwolaeth i fod yn gymwys:

  • Mae’r ddau ohonoch wedi bod yn rhydd i briodi neu i ffurfio partneriaeth sifil gyda’ch gilydd
  • Rydych wedi byw gyda’ch gilydd fel pe baech yn ŵr a gwraig neu fel partneriaid sifil cofrestredig
  • Nid ydych chi na’ch partner wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel pe baech yn ŵr a gwraig neu’n bartneriaid sifil gyda’r unigolyn arall hwnnw
  • Mae eich partner yn dibynnu arnoch chi yn ariannol, neu ar eich incwm ar y cyd, i gefnogi eich safon byw

Gallai prawf o’r amodau hyn fod yn waith papur yn dangos eich bod wedi bod yn byw mewn aelwyd lle rhennir y gwariant, neu fod gennych chi gyfrif banc neu forgais ar y cyd.

Mae pensiwn partner sy’n fyw yn ganran o’ch pensiwn, cyn ildio unrhyw bensiwn ar gyfer cyfandaliad di-dreth a chyn unrhyw ostyngiad neu gynnydd ar gyfer taliad cynnar neu hwyr. Dyma yw hyn yn gyffredinol:

  • 30.625% o’r pensiwn rydych wedi ei gronni o Ebrill 2014
  • 37.50% o’r pensiwn rydych wedi ei gronni rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2014
  • 50% o’r pensiwn rydych wedi ei gronni cyn Ebrill 2008

Mae pensiwn y partner sy’n fyw yn daladwy am weddill eu hoes.

Nid yw rhai rhannau o’ch pensiwn yn cyfrif tuag at bensiwn partner sy’n fyw. Gallai’r rhain gynnwys:

  • rhai cyfnodau o’ch gwasanaeth pensiynadwy
  • pensiwn ychwanegol rydych wedi ei gronni drwy dalu cyfraniadau ychwanegol

Fe all pensiwn y partner sy’n fyw fod yn is os ydych yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil wedi i chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

I fod yn gymwys am bensiwn plentyn, mae’n rhaid i’r plentyn fod:

  • Yn blentyn naturiol wedi ei eni cyn, ar neu o fewn 12 mis i farwolaeth aelod
  • Yn blentyn wedi’i fabwysiadu sydd wedi ei eni cyn neu ar ddyddiad marwolaeth yr aelod
  • Yn llysblentyn neu blentyn a dderbyniwyd gan yr aelod a fu farw fel aelod o’r teulu a oedd yn ddibynnol ar yr aelod adeg eu marwolaeth

Nid yw plentyn a noddwyd gan yr aelod drwy elusen gofrestredig yn blentyn cymwys.

Mae’n rhaid iddynt hefyd fod:

  • O dan 18 oed, neu
  • O dan 23 oed ac mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol, neu
  • Unrhyw oed ac nad ydynt yn gallu gweithio o ganlyniad i amhariad corfforol neu feddyliol parhaol ac, o ganlyniad, yn ddibynnol ar yr aelod ar adeg eu marwolaeth. Rhaid i feddyg annibynnol gynghori ar p’un ai yw’r amhariad yn debygol o fod yn barhaol

I’r diben hwn, mae gwaith yn golygu gwaith cyflogedig am o leiaf 30 awr yr wythnos, dros flwyddyn o leiaf.

Mae plant yn derbyn rhan o’ch pensiwn. Bydd y swm a gaiff ei dalu yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych chi a ph’un ai yw eich partner yn derbyn pensiwn hefyd.