Cael taliadau pensiwn

Rydych yn cael pensiwn gan Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol oherwydd:

  • Roeddech yn arfer talu cyfraniadau CPLlL a nawr wedi dechrau cymryd y pensiwn, neu
  • Rydych yn cael pensiwn partner sy’n fyw, neu
  • Rydych yn cael pensiwn plentyn

Rydych fel arfer yn cael eich pensiwn ar yr 28ain o bob mis, neu ar y dydd Gwener cyn hynny os yw’n benwythnos neu Ŵyl y Banc. Rydym bob amser yn talu pensiwn mis Rhagfyr yn gynt oherwydd y Nadolig.

Os mai newydd ddechrau cael eich pensiwn ydych chi, mae gennym ddyddiadau talu pensiwn ychwanegol trwy gydol bob mis i sicrhau eich bod yn cael eich taliad cyntaf cyn gynted â phosib.

Os ydych chi wedi dewis cael gohebiaeth drwy’r post, byddwch ond yn cael slip cyflog os yw swm eich pensiwn clir yn newid £5 y mis neu fwy. Mae newidiadau yn fwyaf tebygol o ddigwydd bob mis Ebrill a mis Mai pan fo’ch pensiwn yn cael cynnydd blynyddol neu os ydym yn cael cod treth newydd ar eich cyfer.

Os ydych chi wedi dewis cael negeseuon drwy’r Hunan Wasanaeth Aelodau, byddwch yn gallu lawrlwytho slip cyflog bob mis ohono.

Rydym yn adolygu eich pensiwn bob mis Ebrill er mwyn iddo gynyddu yn unol â chostau byw. Mae gwybodaeth am unrhyw gynnydd cyfredol i’ch pensiwn yma.

Cofiwch roi gwybod i ni os ydych yn newid eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn i ni barhau i dalu eich pensiwn i chi. Gallwch ddiweddaru manylion eich cyfrif ar Hunan-Wasanaeth Aelodau neu gallwch lenwi ffurflen Newid Banc.

Os ydych eisiau i ni dalu eich pensiwn i gyfrif banc tramor, llenwch ffurflen mandad banc tramor. Bydd unrhyw daliadau tramor yn dibynnu ar y cyfraddau cyfnewid a byddwch yn eu cael yn arian y wlad honno.

Os oeddech chi’n talu cyfraniadau CPLlL rhwng 6 Ebrill 1978 a 5 Ebrill 1997, roeddech chi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol is. Mae hyn oherwydd nad oeddech yn talu tuag at ail ran pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’r CPLlL yn sicrhau y byddwch yn cael pensiwn sydd o leiaf cyn uched â’r pensiwn y Wladwriaeth y gwnaethoch ei ildio. Gelwir hyn yn Isafswm Pensiwn Gwarantedig (IPG).

Mae eich pensiwn fel arfer yn cael ei wirio ar ‘oedran IPG’, sef 60 i ferched a 65 i ddynion. Os ydych yn ymddeol yn hwyrach na’ch oedran IPG, bydd yn cael ei wirio bryd hynny.

  • Os yw eich pensiwn CPLlL yn uwch na’ch IPG, yna ni fydd eich taliadau pensiwn yn newid.
  • Os yw eich IPG yn uwch na’ch pensiwn CPLlL, byddwch yn dechrau cael swm uwch o daliadau pensiwn.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich pensiwn CPLlL yn uwch na’ch IPG.