Y broses ymddeol

Mae’r dudalen hon yn egluro beth i’w ddisgwyl yn ystod y broses ymddeol wrth i chi ddod yn bensiynwr newydd gyda Chronfa Bensiynau Clwyd.

Dyma ganllaw cam wrth gam sy’n egluro beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymddeol o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLIL).

Cam 1: Hawlio eich pensiwn gohiriedig

Ffoniwch ni, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom i roi gwybod i ni eich bod eisiau dechrau cymryd eich pensiwn CPLlL. Byddwn eisiau gwybod:

  • Eich enw
  • Eich rhif yswiriant gwladol
  • Y dyddiad yr ydych eisiau dechrau cymryd eich taliadau pensiwn

Cam 2: Derbyn eich pecyn ymddeol

Byddwn wedyn yn anfon eich pecyn ymddeol atoch. Os ydych chi’n defnyddio’r Hunanwasanaeth Aelodau (HWA), byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda chyfarwyddiadau sut i gael gafael ar y pecyn. Fel arall fe wnawn ei bostio i’ch cyfeiriad cartref.

Bydd y pecyn ymddeol yn cynnwys:

  • Eich ffigyrau pensiwn a’ch opsiynau
  • Ffurflenni i chi eu llenwi a’u hanfon yn ôl
  • Dolen at y Canllaw Ymddeol ar ein gwefan

Bydd eich ffigurau pensiwn yn dangos eich prif fuddion pensiwn, yn ogystal ag unrhyw rai o’r canlynol yr ydych wedi eu talu:

  • Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (CGY)
  • Cyfraniadau pensiwn ychwanegol (CPY)
  • Cyfraniadau rheolaidd ychwanegol (CRhY)
  • Blynyddoedd Ychwanegol

Bydd angen i chi ddefnyddio’r ffigyrau yn y pecyn i benderfynu a ydych am droi rhywfaint o’ch pensiwn blynyddol yn gyfandaliad unwaith yn unig ai peidio.

Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.

Ni allwch droi eich holl bensiwn blynyddol yn lwmp swm di-dreth. Bydd y pecyn yn dangos y lwmp swm di-dreth mwyaf y gallwch ei gael (yn cynnwys CGY) a swm y pensiwn blynyddol y byddai gennych ar ôl wedyn.

Cam 3: Gwneud dewisiadau a llenwi’r ffurflenni

Darllenwch eich llythyr opsiynau yn ofalus a dewiswch yr un yr ydych ei ffafrio. Bydd angen i chi lenwi a dychwelyd y canlynol:

  • Ffurflen Opsiynau Ymddeol
  • Ffurflen Manylion Personol
  • Ffurflen manylion banc
  • Ffurflen datgan buddion pensiwn blaenorol

Mae’n rhaid i chi hefyd anfon unrhyw dystysgrifau perthnasol atom. Er enghraifft, eich tystysgrif geni, tystysgrif geni eich partner, eich tystysgrif priodas, tystysgrif partneriaeth sifil neu eich gorchymyn terfynol. Sylwer: roedd gorchymyn terfynol yn arfer cael ei alw’n archddyfarniad absoliwt. Fel prawf o’ch dyddiad geni gallwn dderbyn copi o’ch trwydded yrru neu eich pasbort yn lle tystysgrif geni.

Os ydych yn defnyddio’r cyfleuster hunanwasanaeth gallwch (HWA) lwytho eich ffurflenni a’ch tystysgrifau i’ch cyfrif.

Mae’n rhaid i ni dderbyn yr holl ffurflenni a thystysgrifau angenrheidiol cyn y gallwn ddechrau talu eich pensiwn.

Cam 4: Prosesu eich pensiwn

Ar ôl derbyn eich ffurflenni cyflawn, bydd Cronfa Bensiynau Clwyd yn cyfrifo eich pensiwn yn seiliedig ar y dewis yr ydych wedi’i nodi ar eich ffurflen opsiynau.

Os ydych chi wedi talu CGY, mae hyn yn cymryd yn hirach gan fod yn rhaid i’r darparwr CGY gymryd yr arian o lle mae wedi’i fuddsoddi cyn y gallwn ni dalu unrhyw bensiwn i chi.

Cam 5: Talu’r buddion pensiwn i chi

Byddwn yn talu eich pensiwn ac unrhyw gyfandaliad mewn i’r banc gan ddefnyddio manylion y cyfrif yr ydych wedi’u rhoi i ni.

Byddwch yn derbyn unrhyw gyfandaliad o fewn 7-10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn ein llythyr terfynol.

Ar gyfer eich taliad pensiwn cyntaf, byddwn yn talu unrhyw ôl-ddyledion o fewn pythefnos i ddyddiad eich llythyr terfynol.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Ar ôl eich taliad pensiwn cyntaf, byddwch yn cael eich pensiwn ar yr 28ain o bob mis, neu ar y dydd Gwener cynt os yw ar benwythnos neu Ŵyl Banc.

Efallai y byddwch yn talu treth ar eich incwm pensiwn. Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn rhoi gwybod i ni beth yw’r cod treth newydd y dylem ei ddefnyddio ar gyfer eich pensiwn. Bydd y cod treth hwn yn rhoi gwybod i ni faint o dreth i’w gymryd o’ch taliadau pensiwn misol.

Byddwch yn cael eich pensiwn bob mis am weddill eich oes.

Os ydych yn defnyddio’r cyfleuster Hunanwasanaeth Aelodau, byddwn yn llwytho’r holl lythyrau, slipiau pensiwn a ffurflenni P60 yn y dyfodol i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Aelodau i chi eu gweld. Mewngofnodwch drwy fynd i yma.

Sicrhewch eich bod yn gadael i ni wybod os bydd eich manylion personol yn newid, megis eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc.

Gallwn dalu eich pensiwn mewn i gyfrif banc tramor os ydych yn symud dramor. Mae angen i chi gysylltu i ofyn am y ffurflen berthnasol.

Efallai eich bod yn ymwybodol bod gan aelodau o gynlluniau pensiwn cyfraniadau diffiniedig, lle mae’r buddion yn dibynnu ar faint maen nhw wedi’i gronni yn eu pot pensiwn, opsiynau mwy hyblyg ar gyfer derbyn eu hincwm.

Y dewisiadau yw:

  • Prynu blwydd-dal, neu bensiwn blynyddol, neu bensiwn cynllun os yw’n cael ei gynnig gan y cynllun
  • Hyblygrwydd o ran pryd a faint i’w gymryd o’r pensiwn, sy’n golygu cymryd incwm yn uniongyrchol o gynilion - unrhyw swm ar unrhyw adeg, gan adael y gweddill wedi’i fuddsoddi.
  • Cymryd nifer o symiau arian parod ar adegau gwahanol
  • Cymryd yr holl bot ar unwaith fel arian parod.

Nid yw’r buddion hyn yn berthnasol i gynlluniau pensiwn buddion diffiniedig, yn cynnwys y CPLlL, felly nid ydynt yn berthnasol i’ch buddion pensiwn CPLlL chi.

Weithiau bydd pensiwn blynyddol aelod yn swm mor fach gallant ddewis dderbyn ei werth fel taliad unwaith yn unig. Yr enw ar hyn yw Cymudiad Pitw

Byddwn yn gwirio a ydych yn gymwys am yr opsiwn hwn, ac os ydych, byddwn yn cynnwys y ffigyrau yn eich pecyn.