Pensiynwyr sy’n cael eu hail-gyflogi

Os ydych yn dechrau cael eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ac yna’n cael swydd newydd, fe allai effeithio ar eich incwm pensiwn.

Os oes gan eich cyflogwr newydd gynllun gwahanol fel eu pensiwn gwaith, bydd eich pensiwn CPLlL yn aros yr un fath. Nid oes angen i chi roi unrhyw fanylion i ni am eich swydd newydd.

Os yw eich cyflogwr newydd yn defnyddio CPLlL fel eu pensiwn gwaith, rhaid i chi ddweud wrthym am eich swydd newydd, a ydych yn dewis ail-ymuno â’r cynllun pensiwn ai peidio. Bydd eich pensiwn CPLlL yn aros yr un fath oni bai ei fod yn un estynedig. Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael un ai:

  • Blynyddoedd Ychwanegol i Ddigolledu neu aelodaeth neu bensiwn uwch fel rhan o’ch pecyn ymddeoliad; neu
  • Aelodaeth neu bensiwn ychwanegol fel rhan o ymddeol ar sail afiechyd.

Os oedd eich pensiwn CPLlL yn un estynedig, efallai y bydd angen i ni ei ostwng neu ei atal. Byddwn yn canfod ateb i hyn pan fyddwch yn dechrau eich swydd newydd.

Sylwer nad yw cymryd ymddeoliad hyblyg yn golygu eich bod yn bensiynwr a ail-gyflogwyd.