Rhwymedi McCloud

Pan newidiodd y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol y ffordd yr oedd yn gweithio o gyflog terfynol i gyfartaledd gyrfa yn 2014, fe ychwanegodd y cynllun amddiffyniad i aelodau a oedd yn agos i ymddeol a elwir yn danategiad. Roedd y tanategiad hwn yn sicrhau fod y buddion roedd yr aelodau hynny wedi eu cronni hyd at ddyddiad y newid yn aros yr un gwerth o leiaf. Fe wnaeth cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus eraill yr un fath.

Fodd bynnag, canfu’r Llys Apêl fod yr amddiffyniad hwn yn wahaniaethol yng Nghynlluniau Pensiwn Barnwyr a Diffoddwyr Tân gan nad oedd y tanategiad yn berthnasol i aelodau iau. Mae’r dyfarniad hwn yn aml yn cael ei alw’n ddyfarniad McCloud.

O ganlyniad mae pob cynllun pensiwn sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, wedi gwneud newidiadau i ddiddymu’r gwahaniaethu hwn ar sail oed. Daeth newidiadau dyfarniad McCloud i rym ar 1 Hydref 2023 yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nawr mae’r tanategiad yn berthnasol i bob aelod sy’n gymwys ar ei gyfer, waeth faint yw eu hoed.

Rydych yn gymwys ar gyfer y newid hwn os:

  • Roeddech yn talu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn sector cyhoeddus arall ar neu cyn 31 Mawrth 2012;
  • Roeddech hefyd yn talu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022; ac
  • Rydych wedi bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn sector cyhoeddus arall heb fwlch parhaus o fwy na 5 mlynedd.

Bydd y newid, a elwir yn rhwymedi McCloud, yn diddymu gwahaniaethu ar sail oed ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022.

Os ydych yn gymwys:

  • Fe fyddwn yn cyfrifo eich pensiwn yn unol â rheolau McCloud ac yn sicrhau eich bod yn derbyn y swm uchaf o bensiwn yn seiliedig ar ba bynnag reolau sy’n gweithio’n well i chi.
  • Os ydych chi eisoes yn derbyn eich pensiwn, byddwn yn ei gynyddu lle bo angen ac yn ychwanegu taliad â llog ar gyfer unrhyw bensiwn yr ydych wedi ei golli.

Nodwch:

  • Mae yna lawer o gofnodion pensiwn i fynd trwyddynt, ac felly fe fydd y broses hon yn cymryd amser.
  • Nid yw’r tanategiad yn debygol o effeithio ar werth y pensiwn i nifer ohonoch, a bydd unrhyw gynnydd fwy na thebyg yn fach.

Darllenwch fwy am rwymedi McCloud yma:

Taflen ffeithiau rhwymedi McCloud

Gwefan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Cenedlaethol (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)

Beth yw dyfarniad McCloud?

Pan newidiodd cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, o gynlluniau cyflog terfynol i gynlluniau cyfartaledd gyrfa yn 2014 a 2015, cafodd aelodau hŷn eu gwarchod rhag y newidiadau. Bu i’r achos llys, sy’n cael ei adnabod fel y dyfarniad McCloud, ganfod y bu gwahaniaethu yn erbyn aelodau iau.

Newidiodd y Llywodraeth reolau’r CPLlL o 1 Hydref 2023 i gael gwared ar y gwahaniaethu hwn. Caiff y newidiadau hyn eu hadnabod fel y dyfarniad McCloud.

Y camau nesaf

Rydym wrthi’n adolygu cofnodion pensiwn ein pensiynwyr a byddwn yn ysgrifennu atoch cyn 31 Awst 2026 os oes angen cynyddu gwerth eich pensiwn oherwydd dyfarniad McCloud.

Os ydych chi eisoes yn bensiynwr gyda ni, byddwn yn talu unrhyw ôl-ddyledion neu log sy’n ddyledus i chi os bydd angen ailgyfrifo eich pensiwn. Byddwn hefyd yn ysgrifennu atoch gyda rhestr fanwl o’r ffigyrau pensiwn newydd.