Strwythur llywodraethu

Adolygodd Cyngor Sir y Fflint ei drefniadau Llywodraethu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd yn 2014. Cyn y dyddiad hwn, y Pennaeth Cyllid oedd yn gyfrifol am Gronfa Bensiynau Clwyd a adroddodd i Banel Cronfa Bensiynau Clwyd a oedd yn cynnwys aelodau etholedig o Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Yn ogystal, roedd gan y panel aelodau heb bleidlais gan gynnwys ymgynghorydd annibynnol a chynrychiolydd oedd yn aelod o'r cynllun.

Casgliad adolygiad annibynnol gan CIPFA yn 2010 oedd bod y Gronfa’n cael ei llywodraethu’n dda iawn ond nad oedd y strwythur llywodraethu hwn yn bodloni arfer gorau. Yn benodol, argymhellwyd:

  • Y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb am reoli Cronfa Bensiynau Clwyd o’r Pennaeth Cyllid i Bwyllgor newydd
  • Y dylid cael cynrychiolaeth ehangach o randdeiliaid ar y pwyllgor newydd, gyda hawl pleidleisio gan bob un o’r aelodau.

O ganlyniad i hyn, ym mis Mai 2014, adolygwyd trefniadau llywodraethu'r Gronfa a sefydlodd y Cyngor Bwyllgor Cronfa Bensiynau ffurfiol, wedi’i gefnogi gan Banel Cynghori ar Bensiynau. Y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yw’r Swyddog Adran 151 a chanddynt gyfrifoldeb statudol dros faterion ariannol priodol Cyngor Sir y Fflint, sy'n cynnwys materion Cronfa Bensiynau Clwyd.

Mae’r Cyngor hefyd wedi dirprwyo cyfrifoldebau penodol i Bennaeth Cronfa Bensiynau Clwyd. Cafodd y strwythur llywodraethu hwn ei ehangu ddechrau 2015 yng ngoleuni’r gofyniad yn Neddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 i gyflwyno bwrdd pensiynau lleol i gynorthwyo â chydymffurfiad mewn perthynas â materion cysylltiedig â’r gronfa bensiynau. Ehangwyd y strwythur eto fyth ym Mawrth 2017 pan sefydlwyd Pwyllgor Cyd Lywodraethu Cronfeydd Buddsoddi Cymru a Gweithgor Swyddogion er mwyn hwyluso’r gwaith o gyfuno asedau cronfeydd pensiynau yr wyth Cronfa Bensiynau Llywodraeth Leol yng Nghymru. Dangosir strwythur llywodraethu'r Cyngor ar gyfer materion cronfa bensiynau isod: