Ystyried ymuno â’r CPLlL ar gyfer Cynghorwyr

  1. Byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol sy’n daladwy am oes ar ôl i chi ymddeol, a bydd yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â chostau byw.
  2. Byddwch yn gwneud cyfraniadau tuag at eich pensiwn. Bydd y cyfraniadau’n cael eu tynnu o’ch cyflog cyn treth, felly mae’r gost wirioneddol i chi yn llai (gelwir hyn yn rhyddhad treth).
  3. Bydd eich Cyngor yn gwneud cyfraniadau hefyd.
  4. Gallwch dalu cyfraniadau ychwanegol os ydych chi’n dymuno cynyddu eich pensiwn blynyddol neu gyfandaliad ar ôl i chi ymddeol.
  5. Nid oes unrhyw ffioedd cudd na ffioedd gweinyddol.
  6. Ar hyn o bryd, gallwch ymddeol rhwng 50 a 75 mlwydd oed. Mae’n rhaid i’r Cyngor gytuno ar eich ymddeoliad cyn eich bod yn 55 oed. Bydd yr oedran isaf yn codi i 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.
  7. Pan fyddwch chi’n ymddeol, gallwch gyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn am gyfandaliad untro. Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer ac yn seiliedig ar derfynau lwfansau cyfandaliadau Cyllid a Thollau EF. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.
  8. Byddwch yn derbyn budd-daliadau os bydd rhaid i chi roi’r gorau i weithio oherwydd salwch waeth beth fo’ch oedran.
  9. Bydd eich anwyliaid yn derbyn grant yn dilyn eich marwolaeth.
  10. Byddai eich partner a’ch plant (os ydyn nhw’n gymwys) hefyd yn derbyn pensiynau yn dilyn eich marwolaeth.

Bydd y cyfraniadau’n cael eu tynnu o’ch ffioedd cyn unrhyw dreth. Mae eich cyfraniad yn 6% o’r ffioedd rydych chi’n eu derbyn.

Bydd eich Cyngor hefyd yn gwneud cyfraniadau er mwyn sicrhau bod digon o arian i dalu eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Bob tair blynedd, mae ein Hactiwari yn cyfrifo beth ddylai canran y cyfraniadau fod ar gyfer eich Cyngor.

Mae eich buddion pensiwn yn seiliedig ar:

  • Gyfradd gronni o 1/80,
  • Cyflog cyfartalog eich gyrfa, a
  • Chyfanswm eich aelodaeth yn y CPLlL i Gynghorwyr

Yn yr enghraifft hon, mae’r Cynghorydd wedi bod yn aelod o’r CPLlL i Gynghorwyr ers 5 mlynedd. Mae cyflog cyfartalog eu gyrfa yn seiliedig ar yr holl ffioedd neu gyflog y maent wedi talu cyfraniadau pensiwn ar eu cyfer, yn ogystal â chynnydd mewn costau byw, yn unol â mesur chwyddiant, sef y Mynegai Prisiau Manwerthu.

Mae cyfnod yr aelodaeth yn dechrau o’r amser yr ydych yn dechrau talu cyfraniadau pensiwn tan y byddwch yn rhoi’r gorau i wneud hynny.

Enghraifft

Enillion Blwyddyn 1 £9,400 x cynnydd mewn costau byw 1.12 = £10,528
Enillion Blwyddyn 2 £9,600 x cynnydd mewn costau byw 1.08 = £10,368
Enillion Blwyddyn 3 £9,900 x cynnydd mewn costau byw 1.05 = £10,395
Enillion Blwyddyn 4 £10,400 x cynnydd mewn costau byw 1.02 = £10,608
Enillion Blwyddyn 5 £11,000 x cynnydd mewn costau byw 1.00 = £11,000
  Cyfanswm Cronedig = £52,899
  Cyflog Cyfartalog Gyrfa
(£52,899 ÷ 5 Mlynedd)
= £10,579.80

Unwaith y bydd gennym ni ffigyrau ar gyfer cyflog cyfartalog eich gyrfa a’ch aelodaeth, gallwn gyfrifo gwerth y pensiwn:

Pensiwn blynyddol

Blynyddoedd a diwrnodau aelodaeth ÷ 80 x cyflog cyfartalog gyrfa

Cyfandaliad di-dreth untro

1/80 pensiwn blynyddol x 3

Enghraifft

Pensiwn blynyddol

5 mlynedd ÷ 80 x £10,579.80 = £661.24 o 1/80 o bensiwn blynyddol

Cyfandaliad di-dreth untro

£661.24 x 3 = £1,983.72

Pan fyddwch chi’n ymddeol, cewch ddewis i newid rhywfaint o’r pensiwn hwn yn gyfandaliad untro ychwanegol. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.

Mae Cyllid a Thollau EF yn rhoi terfyn ar faint o gyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fydd eich pensiwn yn cael ei dalu i chi. Gelwir y terfyn hwn yn lwfans cyfandaliad. Ar hyn o bryd, y cyfandaliad mwyaf yw’r isaf o’r canlynol:

  • 25% o werth cyfalaf eich buddion
  • £268,275*
  • £268,275* yn llai na chyfanswm y cyfandaliadau rydych chi wedi’u cymryd eisoes

*Os oes gennych chi warchodaeth Lwfans Oes ddilys, o bosibl y gallech gymryd cyfandaliad sy’n fwy na £268,275.

Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer, ond os ewch chi dros derfyn y lwfans cyfandaliad, bydd rhaid i chi dalu treth ar y swm uwchlaw’r terfyn ar eich cyfradd ymylol.

Gallwch ymuno â’r CPLlL i Gynghorwyr os ydych chi o dan 75 oed ac yn gynghorydd ar gyfer unrhyw un o’r canlynol:

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Llenwch ffurflen optio i mewn a’i hanfon at adran gyflogau eich Cyngor. Yna, byddant yn dechrau tynnu cyfraniadau pensiwn o’ch ffioedd.

Mae’r CPLlL i Gynghorwyr yn gynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio. Golyga hyn fod gwerth eich pensiwn CPLlL pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar eich ffioedd dros eich cyfnod fel aelod. Gallwch gadw golwg ar y swm o bensiwn rydych chi’n ei gronni.

(O bosibl eich bod hefyd wedi dod ar draws cynlluniau cyfraniadau diffiniedig, er enghraifft pensiynau personol, lle mae eich buddion yn dibynnu ar y cyfraniadau rydych chi wedi’u gwneud a pherfformiad eich buddsoddiadau).

Mae’r CPLlL i Gynghorwyr ar gael i gynghorwyr Cynghorau Sir neu Gynghorau Bwrdeistref Sirol yng Nghymru. Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn gweinyddu CPLlL i Gynghorwyr ar gyfer:

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

I gael rhagor o wybodaeth fanwl am y CPLlL i Gynghorwyr, ewch i’n tab talu cyfraniadau pensiwn ar hyn o bryd neu lawrlwythwch ein canllaw byr ar gyfer y Cynllun i Gynghorwyr.