Ailymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Oherwydd bod gennych bensiwn gohiriedig gyda’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL), os byddwch yn dechrau swydd newydd yng Nghymru neu Loegr lle mae CPLlL yn bensiwn gwaith, ac yn dechrau talu cyfraniadau pensiwn eto, bydd angen i chi:

  • Roi gwybod i Gronfa Bensiynau Clwyd gyda pha Gronfa CPLlL rydych bellach wedi ymuno
  • Dweud wrth eich Cronfa CPLlL newydd fod gennych bensiwn gohiriedig gyda Chronfa Bensiynau Clwyd
  • Dweud wrth eich Cronfa CPLlL newydd os ydych wedi bod yn aelod o unrhyw gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus arall (hyd yn oed os ydych wedi cael ad-daliad o’r cyfraniadau ar gyfer yr aelodaeth honno)

Mae angen i chi wneud hyn er mwyn i chi dderbyn yr opsiynau cywir ynglŷn â chyfuno eich buddion CPLlL.

Os oes gennych chi fuddion pensiwn gyda Chronfa CPLlL arall ac os oes llai na 5 mlynedd wedi bod rhwng pan wnaethoch chi adael Cronfa Bensiynau Clwyd ac ymuno â CPLlL arall, byddwch yn cael cadw unrhyw gyswllt cyflog terfynol, hyd yn oed os ydych yn dewis ei drosglwyddo. Mewn geiriau eraill, bydd eich pensiwn o Gronfa Bensiynau Clwyd yn dal i fod yn seiliedig ar reolau cynllun cyflog terfynol, er gwaethaf y saib yn eich gwasanaeth.

Fodd bynnag, os oes mwy na 5 mlynedd wedi bod, bydd cyswllt cyflog terfynol yn cael ei dorri os ydych yn trosglwyddo, a byddai’r pensiwn yn seiliedig ar enillion cyfartalog gyrfa wedi’u hailbrisio, neu ECGA.

Mae’n rhaid i chi gyfuno unrhyw bensiynau CPLlL o fewn 12 mis i ailymuno â’r CPLlL, oni bai bod eich cyflogwr yn cytuno i ymestyn y dyddiad terfyn.

Ailymuno â’r CPLlL ar ôl optio allan

Efallai y bydd gennych bensiwn gohiriedig gyda ni oherwydd eich bod wedi optio allan o dalu cyfraniadau CPLlL, ond rydych wedi parhau i weithio i’ch cyflogwr.

Efallai y bydd modd i chi ailddechrau talu cyfraniadau os ydych yn dal i gael eich cyflogi gan yr un cyflogwr. Gallwch siarad gydag adran gyflogau eich cyflogwr neu Gronfa Bensiynau Clwyd ynglŷn â dewis dechrau talu cyfraniadau pensiwn eto. Os byddwch yn dewis ailddechrau talu cyfraniadau, mae’n debygol na fyddwch yn gallu cyfuno eich pensiwn gohiriedig gyda’r pensiwn newydd. Y cyfan y mae hyn yn ei olygu yw y bydd gennych ddau bensiwn ar wahân gyda Chronfa Bensiynau Clwyd.