Gwefan rheoleiddiwr pensiynau
Sefydlwyd y Rheoleiddiwr Pensiynau o dan Ddeddf Pensiynau 2004 fel corff cyhoeddus anadrannol a noddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, i reoleiddio Pensiynau yn y gwaith. Cyflwynodd ac ehangodd Deddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus 2013 rôl y Rheoleiddiwr o ran goruchwylio'r prif gynlluniau pensiwn yn y gwaith ar gyfer y rhai hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaethau Cyhoeddus ledled y DU. Felly, ers 1 Ebrill 2015, mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, fel Cynllun Pensiwn Gwasanaethau Cyhoeddus yn awr yn destun craffu mwy manwl gan y Rheoleiddiwr Pensiynau y mae ei rôl bellach yn cynnwys goruchwylio gofynion llywodraethu a gweinyddu’r Cynllun.