Bydd eich pensiwn yn codi ar y dydd Llun ar ôl y 6ed o Ebrill bob blwyddyn, sef dechrau’r flwyddyn dreth newydd, er mwyn ei helpu i gadw i fyny â’r cynnydd mewn costau byw. Mae’r codiad yn seiliedig ar fesur o chwyddiant a elwir yn Fynegai Prisiau Defnyddwyr fel yr oedd yn y mis Medi blaenorol.
Ym mis Ebrill 2026 bydd pensiynau’n codi 3.80%.
Byddwch yn cael y codiad llawn dim ond os gwnaethoch roi’r gorau i dalu cyfraniadau pensiwn ar neu cyn 21 Ebrill 2025. Os gwnaethoch roi’r gorau i dalu cyfraniadau ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd y cynnydd yn eich pensiwn yn is. Gweler y tabl isod:
| Dyddiad y daeth eich cyfraniadau pensiwn i ben: | % |
| 23 Mawrth 2025 i 21 Ebrill 2025 |
3.80% |
| 22 Ebrill 2025 i 21 Mai 2025 |
3.48% |
| 22 Mai 2025 i 21 Mehefin 2025 |
3.17% |
| 22 Mehefin 2025 i 21 Gorffennaf 2025 |
2.85% |
| 22 Gorffennaf 2025 i 21 Awst 2025 |
2.53% |
| 22 Awst 2025 i 21 Medi 2025 |
2.22% |
| 22 Medi 2025 i 21 Hydref 2025 |
1.90% |
| 22 Hydref 2025 i 21 Tachwedd 2025 |
1.58% |
| 22 Tachwedd 2025 i 21 Rhagfyr 2025 |
1.27% |
| 22 Rhagfyr 2025 i 21 Ionawr 2026 |
0.95% |
| 22 Ionawr 2026 i 21 Chwefror 2026 |
0.63% |
| 22 Chwefror 2026 i 21 Mawrth 2026 |
0.32% |