Os byddwch chi’n marw cyn ichi droi’n 75 a cyn ichi ddechrau derbyn eich pensiwn gohiriedig fel Cynghorydd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, byddwn yn talu swm o arian parod ar ffurf grant marwolaeth.
Bydd y grant marwolaeth hwnnw werth teirgwaith cymaint â’ch pensiwn gohiriedig blynyddol yn ogystal â chynnydd ar sail costau byw.
Os ydych chi wedi talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd, bydd gwerth y cyfraniadau rydych chi wedi’u cronni hefyd yn daladwy.