Buddion ar gyfer cyn-bartneriaid

Os byddwch chi’n ysgaru neu os caiff eich partneriaeth sifil ei diddymu, gall y Llysoedd ofyn am werth eich pensiwn. Bydd y Llys wedyn yn ystyried eich buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ochr yn ochr â’ch asedau eraill wrth benderfynu pa setliad i’w roi i’ch cyn-bartner.

Os bydd angen i ni ddarparu ffigurau neu wybodaeth am fuddion, ffoniwch, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch atom ni. Bydd angen i chi roi’r wybodaeth ganlynol i ni:

  • Eich enw
  • Eich rhif yswiriant gwladol
  • Gofynnwch am werth trosglwyddo at ddibenion ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil

Mae hyn o ganlyniad i’r ffaith bod sawl math o werth trosglwyddo: rydym ni’n eu cyfrifo nhw’n wahanol at ddibenion ysgariad nag ar gyfer trosglwyddo eich pensiwn i gynllun pensiwn arall. Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r un cywir i chi.

Dylech chi gael y gwerth trosglwyddo ymhen 3 mis ar ôl gofyn amdano. Weithiau mae’n cymryd mor hir â hyn gan fod angen i ni gasglu gwybodaeth, er enghraifft, gan Gyllid a Thollau ei Fawrhydi neu eich cyflogwr. Dim ond ar ôl i ni gael y wybodaeth hon i gyd y gallwn ni gyfrifo’r gwerth trosglwyddo.

Byddwn ond yn rhoi un gwerth trosglwyddo am ddim bob blwyddyn. Codir tâl am geisiadau ychwanegol a wnewch o fewn yr un cyfnod o 12 mis. Am fanylion o bryd y byddwn yn codi tâl, gweler ein Atodlen daliadau - rhannu pensiwn wrth ysgaru

Gall y Llys rannu eich pensiwn, naill ai drwy Orchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi.

Mae Gorchymyn Rhannu Pensiwn yn rhannu eich pensiwn pan fyddwch chi’n ysgaru neu pan ddiddymir eich partneriaeth sifil, ac felly’n torri’r cysylltiad yn llwyr. Bydd eich cyn-bartner yn cael ‘credyd pensiwn’; hynny yw, cyfran o’r buddion pensiwn yr ydych chi wedi’u cronni. Bydd credyd pensiwn eich cyn-bartner yn eiddo iddynt hwy eu hunain. Bydd yn gwbl ar wahân i’ch buddion chi sy’n weddill.

Fe all eich cyn-bartner drosglwyddo eu credyd pensiwn allan i gynllun pensiwn arall neu fe allant ddechrau tynnu’r pensiwn hwn unrhyw bryd ar ôl troi’n 55 oed, pan fydd yn daladwy am oes.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gall aelod credyd pensiwn dynnu eu pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed o 6 Ebrill 2028.

Fe allent gael eu gwarchod rhag y cynnydd hwn os wnaethant ymuno â’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Fodd bynnag, dim ond pan fyddant yn tynnu eu pensiwn CPLlL y byddant yn cael eu gwarchod, os yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu iddynt gymryd eu pensiwn cyn troi’n 57 oed.

Llywodraeth y DU sy’n gosod rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid yw wedi ei gadarnhau eto os bydd yn caniatáu i aelodau, sy’n gymwys i gael eu gwarchod, gymryd eu pensiwn CPLlL cyn eu bod yn 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.

Mae Gorchymyn Clustnodi yn talu rhan o’ch buddion i’ch cyn-bartner pan fyddwch chi’n dechrau cael eich pensiwn CPLlL. Gall eich cyn-bartner naill ai gael cyfandaliad neu ran o’ch incwm pensiwn rheolaidd. Bydd y taliad hwn wedyn yn dod i ben pan fyddwch chi’n marw neu os bydd eich cyn-bartner chi’n ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd.

  • Ni fydd eich cyn-bartner yn gymwys i gael pensiwn partner sy’n goroesi os byddwch chi’n marw o’u blaenau nhw.
  • Bydd pensiynau plant yn dal i gael eu talu. Nid ydynt yn cael eu heffeithio gan ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil.
  • Pan gaiff eich pensiwn chi ei rannu er mwyn rhoi rhan ohono i’ch cyn-bartner, gelwir y rhan sy’n cael ei ddidynnu o’ch pensiwn chi yn ddebyd pensiwn.
  • Efallai y byddwch chi am dalu cyfraniadau ychwanegol i wneud yn iawn am y pensiwn sydd wedi’i rannu â’ch cyn-bartner.

Cofiwch efallai y byddwch chi am newid eich ffurflen Mynegi Dymuniad neu ddiweddaru eich buddiolwyr drwy eich cyfrif Hunanwasanaeth Aelodau ar ôl ysgaru neu ddiddymu partneriaeth sifil.

Fodd bynnag, noder, os bydd y Llys yn cyhoeddi Gorchymyn Clustnodi, gall ddyfarnu y dylai rhywfaint o’r grant neu’r grant i gyd fynd i’ch cyn-bartner os byddwch chi’n marw o’u blaenau nhw.

Os bydd Gorchymyn Rhannu Pensiwn yn cael ei gyflwyno yn erbyn eich pensiwn CPLlL, bydd unrhyw bensiwn goroeswr sy’n daladwy yn lleihau os byddwch chi’n marw o’u blaenau nhw. Mae hyn oherwydd bod rhannu pensiwn wedi lleihau gwerth eich pensiwn. Bydd hyn yn cael effaith ar werth pensiwn eich partner presennol hefyd.

Os byddwch chi’n ailbriodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil newydd ac yna’n dod â’r berthynas honno i ben, gall y Llys gyhoeddi Gorchymyn Rhannu Pensiwn neu Orchymyn Clustnodi arall yn erbyn eich pensiwn CPLlL sydd ar ôl.

Fodd bynnag, nid yw’n bosibl rhoi Gorchymyn Rhannu Pensiwn arall os yw Gorchymyn Clustnodi eisoes yn berthnasol i’ch pensiwn CPLlL.