Pensiynwyr sy’n cael eu hail-gyflogi
Cynghorwr CPLlL
Wedi i chi ymddeol a dechrau cymryd eich pensiwn gan Gynghorydd CPLlL, dylech ddweud wrth Gronfa Bensiynau Clwyd:
- os ydych yn dechrau gweithio i gyflogwr sy’n defnyddio CPLlL fel eu pensiwn gwaith, neu
- os ydych yn dod yn gynghorydd eto
Dylech ddweud wrthym a ydych yn dewis ail-ymuno â'r cynllun pensiwn ai peidio.
Bydd eich pensiwn Cynghorydd CPLlL yn aros yr un fath oni bai ei fod yn un estynedig. Os gwnaethoch ymddeol oherwydd salwch, a bod eich pensiwn Cynghorydd CPLlL wedi cynyddu gyda gwasanaeth ychwanegol, efallai y bydd yn rhaid i ni ei leihau neu ei atal.