Apeliadau a Chwynion

Os oes gennych chi broblem neu fater, cysylltwch â phwy bynnag wnaeth y penderfyniad sydd wedi ei achosi a gofynnwch iddynt am eglurhad. Efallai mai eich cyflogwr, eich cyn-gyflogwr neu Gronfa Bensiynau Clwyd fydd hyn. Mae’n bosibl bod y broblem wedi deillio o gamddealltwriaeth a bod modd ei datrys yn ddidrafferth.

Os bydd arnoch chi angen mynd â’r mater ymhellach, mae’n rhaid i chi ddilyn y Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol swyddogol. Mae hyn yn cynnwys dau gam.

Cam 1

Mae’n rhaid i chi wneud eich cwyn o fewn chwe mis ar ôl i’r mater godi. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen y weithdrefn i roi gwybod i ni:

  • pam eich bod yn teimlo bod y penderfyniad yn anghywir; a
  • sut mae’n mynd yn groes i reolau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Ni chewch godi anghydfod dim ond am nad ydych yn fodlon â phenderfyniad.

Fe ddylech dderbyn ateb o fewn deufis i anfon y ffurflen fel arfer. Bydd yr unigolyn sy’n ymdrin â’ch cwyn yn rhoi gwybod i chi os yw’r broses yn debygol o gymryd mwy o amser.

Cam 2

Os nad ydych yn hapus â chanlyniad Cam 1, neu os nad ydych yn derbyn ateb mewn da bryd, mae gennych hawl i apelio drwy Gam 2. Dylech glywed yn ôl o fewn deufis.

Gallwch ddod o hyd i’n canllawiau i’r Weithdrefn Datrys Anghydfod Mewnol a ffurflenni Cam 1 a 2 yn yr adran ffurflenni ac adnoddau ar ein gwefan.