Os oes gennych fwy na thri mis o aelodaeth Cynghorydd CPLlL a’ch bod o dan 55 oed (neu o dan 50 oed os ydych yn ymddeol gyda chaniatâd eich cyngor), bydd eich pensiwn fel Cynghorydd CPLlL wedi’i ohirio. Cewch ddarllen sut rydym yn cyfrifo hyn yn cyfrifo eich pensiwn cynghorydd gohiriedig.
Bydd eich buddion pensiwn gohiriedig yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chostau byw.
Eich oedran ymddeol arferol yw 65, er y gallwch ofyn am gael eich pensiwn gohiriedig unrhyw bryd o 55 oed.
Os ydych am gymryd eich pensiwn rhwng 50 a 55 oed, mae angen i chi gael cytundeb ysgrifenedig gan eich cyngor cyn gofyn i Gronfa Bensiynau Clwyd ei dalu i chi. Os bydd eich cyngor yn cytuno, gallai hyn arwain at dâl treth ar eich buddion pensiwn.
Os ydych yn cymryd eich pensiwn cyn i chi gyrraedd oedran ymddeol arferol, bydd y pensiwn yn llai am ei gymryd yn gynnar. Byddwn yn anfon pecyn ymddeol i chi, yn cynnwys ffigyrau eich pensiwn, a manylion unrhyw ostyngiad.
Os oes rhaid i chi roi'r gorau i fod yn gynghorydd oherwydd salwch, gallwch ddechrau eich pensiwn ar unrhyw oedran cyn belled â bod eich cyngor yn cytuno.
Pan fydd y pensiwn yn cael ei dalu, bydd yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yn unol â chostau byw. Bydd y pensiwn yn cael ei dalu i chi am weddill eich oes.
Mae gennych yr opsiwn hefyd o drosglwyddo eich pensiwn gohiriedig i gynllun pensiwn arall.