Ystyried ymuno â’r CPLlL

  1. Byddwch yn derbyn pensiwn blynyddol sy’n daladwy am oes ar ôl i chi ymddeol, a bydd yn cynyddu bob mis Ebrill yn unol â chostau byw.
  2. Byddwch yn gwneud cyfraniadau tuag at eich pensiwn. Fodd bynnag, bydd yn cael ei dynnu o’ch cyflog cyn treth, felly mae’r gost wirioneddol i chi yn llai (gelwir hyn yn rhyddhad treth).
  3. Bydd eich cyflogwr yn gwneud cyfraniadau hefyd.
  4. Gallwch dalu cyfraniadau ychwanegol os ydych chi’n dymuno cynyddu eich pensiwn blynyddol neu gyfandaliad ar ôl i chi ymddeol.
  5. Nid oes unrhyw ffioedd cudd na ffioedd gweinyddol.
  6. Ar hyn o bryd, gallwch ymddeol rhwng 55 a 75 mlwydd oed. Bydd yr oedran isaf yn codi i 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.
  7. Pan fyddwch chi’n ymddeol, gallwch gyfnewid rhywfaint o’ch pensiwn am gyfandaliad untro. Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer ac yn seiliedig ar derfynau lwfansau cyfandaliadau Cyllid a Thollau EF. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.
  8. Byddwch yn derbyn pensiwn os bydd rhaid i chi roi’r gorau i weithio oherwydd salwch waeth beth fo’ch oedran.
  9. Bydd eich anwyliaid yn derbyn grant yn dilyn eich marwolaeth.
  10. Byddai eich partner ac unrhyw blant sydd gennych (os ydyn nhw’n gymwys) hefyd yn derbyn pensiynau yn dilyn eich marwolaeth.

Fe fyddwch chi’n cyfrannu canran o’ch cyflog gros, gan ddibynnu ar faint rydych chi’n ei ennill.

Mae prif adran ac adran 50:50 i’r CPLlL.

  • Yn y Brif adran, rydych yn talu cyfraniadau ar y gyfradd lawn ac yn cronni eich pensiwn ar y gyfradd lawn.
  • Yn yr adran 50:50, rydych yn talu cyfraniadau ar hanner y gyfradd ac yn cronni eich pensiwn ar hanner y gyfradd.

Dyma gyfradd y cyfraniadau ar gyfer y ddwy adran rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026:

Eich cyflog gwirioneddol grosCyfradd cyfraniadau ar gyfer y brif adranCyfradd cyfraniadau ar gyfer yr adran 50:50
Hyd at £17,800 5.50% 2.75%
£17,801 i £28,000 5.80% 2.90%
£28,001 i £45,600 6.50% 3.25%
£45,601 i £57,700 6.80% 3.40%
£57,701 i £81,000 8.50% 4.25%
£81,001 i £114,800 9.90% 4.95%
£114,801 i £135,300 10.50% 5.25%
£135,301 i £203,000 11.40% 5.70%
Mwy na £203,001 12.50% 6.25%

Bydd eich cyflogwr hefyd yn gwneud cyfraniadau er mwyn sicrhau bod digon o arian i dalu eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Bob tair blynedd, mae ein Hactiwari yn cyfrifo beth ddylai canran y cyfraniadau fod ar gyfer eich cyflogwr.

Bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i ni beth yw’r cyflog blynyddol rydych chi wedi talu cyfraniadau ar ei gyfer o un mis Ebrill i’r nesaf. Caiff hyn ei alw eich cyflog pensiynadwy.

  • Yn y Brif adran, bydd y pensiwn a gronnir gennych bob blwyddyn yn 49fed o’ch cyflog pensiynadwy blynyddol.
  • Yn yr adran 50:50, bydd y pensiwn a gronnir gennych bob blwyddyn yn 98fed o’ch cyflog pensiynadwy blynyddol.

Yna, bydd eich pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn er mwyn helpu i gyd-fynd â chostau byw. Mae’r cynnydd yn seiliedig ar fesur chwyddiant, sef y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD).

Enghraifft o brif adran CPLlL

Blwyddyn y CynllunPensiwn ar ddechrau’r flwyddynCyflog pensiynadwy gros a chyfradd cronniPensiwn (ar gyfer y flwyddyn honno)Pensiwn (wedi’i gronni hyd yma)Cynnydd o ran chwyddiantPensiwn ar ddiwedd y flwyddyn
Blwyddyn 1 £0.00 £19,600 ÷ 49 £400.00 £400.00 1.20% £404.80
Blwyddyn 2 £404.80 £23,129 ÷ 49 £472.02 £876.82 -0.10% £875.94
Blwyddyn 3 £875.94 £25,000 ÷ 49 £510.20 £1,386.14 1.00% £1,400.00

Byddwch yn parhau i gronni eich pensiwn fel hyn bob blwyddyn, nes y byddwch naill ai’n ymddeol, gadael cyflogaeth neu’n optio allan o dalu cyfraniadau pensiwn.

Pan fyddwch chi’n ymddeol, cewch ddewis i newid rhywfaint o’r pensiwn hwn yn gyfandaliad untro ychwanegol. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.

Mae Cyllid a Thollau EF yn rhoi terfyn ar faint o gyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fydd eich pensiwn yn cael ei dalu i chi. Gelwir y terfyn hwn yn lwfans cyfandaliad. Ar hyn o bryd, y cyfandaliad mwyaf yw’r isaf o’r canlynol:

  • 25% o werth cyfalaf eich buddion
  • £268,275*
  • £268,275* yn llai na chyfanswm y cyfandaliadau rydych chi wedi’u cymryd eisoes

*Os oes gennych chi warchodaeth Lwfans Oes ddilys, o bosibl y gallech gymryd cyfandaliad sy’n fwy na £268,275.

Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer, ond os ewch chi dros derfyn y lwfans cyfandaliad, bydd rhaid i chi dalu treth ar y swm uwchlaw’r terfyn ar eich cyfradd ymylol.

Os yw eich contract cyflogaeth yn un am dri mis neu fwy a’ch bod yn iau na 75 mlwydd oed, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru i’r CPLlL heb i chi orfod gwneud dim.

Os yw eich contract cyflogaeth yn llai na thri mis neu’ch bod wedi optio allan o’r CPLlL yn y gorffennol, gallwch lenwi ffurflen optio mewn a’i hanfon at adran gyflogau eich cyflogwr. Yna, byddant yn dechrau tynnu cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog.

Mae’r CPLlL yn rhan werthfawr o’ch pecyn tâl a gwobrwyo.

Mae’n gynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio. Golyga hyn fod gwerth eich pensiwn CPLlL pan fyddwch yn ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog dros eich cyfnod fel aelod. Gallwch gadw golwg ar y swm o bensiwn rydych chi’n ei gronni.

(O bosibl eich bod hefyd wedi dod ar draws cynlluniau cyfraniadau diffiniedig, er enghraifft pensiynau personol, lle mae eich buddion yn dibynnu ar y cyfraniadau rydych chi wedi’u gwneud a pherfformiad eich buddsoddiadau).

Y CPLlL yw un o’r cynlluniau pensiwn sector cyhoeddus mwyaf yn y DU. Mae’n gynllun pensiwn cenedlaethol ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn llywodraeth leol neu'n gweithio i gyflogwyr eraill sy’n defnyddio’r CPLlL fel eu pensiwn gwaith. Caiff y CPLlL yng Nghymru a Lloegr ei weinyddu’n lleol drwy 86 o gronfeydd pensiwn lleol, ac mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn un ohonynt. Mae mwy na 6.5 miliwn o aelodau CPLlL ledled y wlad.

I gael rhagor o wybodaeth fanwl am y CPLlL, ewch i’n tab talu cyfraniadau pensiwn ar hyn o bryd neu lawrlwythwch ein canllaw byr ar gyfer y cynllun.

Canllawiau Cam wrth Gam

Dyma ganllawiau cam wrth gam sy’n egluro beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn ymuno â’r CPLlL.

Cam 1: Mae eich cyflogwr yn eich cofrestru ar gyfer y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Os yw eich contract cyflogaeth yn un am dri mis neu fwy a’ch bod yn iau na 75 mlwydd oed, bydd eich cyflogwr yn eich cofrestru i’r CPLlL heb i chi orfod gwneud dim.

Os yw eich contract cyflogaeth yn llai na thri mis neu’ch bod wedi optio allan o’r CPLlL yn y gorffennol, gallwch lenwi ffurflen optio i mewn a’i hanfon at adran gyflogau eich cyflogwr. Yna, byddant yn dechrau tynnu cyfraniadau pensiwn o’ch cyflog.

Mae’r CPLlL yn rhan werthfawr o’ch pecyn tâl a gwobrwyo. Mae’n nodi eich pensiwn blynyddol sy’n daladwy am oes pan fyddwch yn ymddeol, gostyngiad treth ar eich cyfraniadau, cyfraniadau cyflogwyr, yswiriant salwch a bywyd ac yn cynyddu gyda chostau byw.

Cam 2: Mae eich cyflogwr yn rhoi gwybod i Gronfa Bensiynau Clwyd eich bod wedi ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol

Mae eich cyflogwr yn anfon adroddiadau misol i Gronfa Bensiynau Clwyd o unrhyw weithwyr newydd sydd wedi ymuno â’r CPLlL.

Unwaith y byddwn yn derbyn yr adroddiad, byddwn yn creu cofnod pensiwn ar eich cyfer yn ein cronfa ddata pensiynau.

Cam 3: Mae Cronfa Bensiynau Clwyd yn anfon llythyr a phecyn aelodau newydd atoch

Bydd y llythyr yn cadarnhau eich bod wedi ymuno â’r CPLlL, y dyddiad a’ch swydd, eich cyfradd cyfraniadau pensiwn, a phryd i ddisgwyl eich datganiad blynyddol. Bydd Pecyn Aelod Newydd a rhestr wirio o gamau i chi eu cyflawni hefyd. Mae’r camau’n cynnwys:

  • Gwirio bod eich manylion personol yn gywir ar eich cofnod pensiwn.
  • Anfon copi o’ch tystysgrif geni, trwydded yrru, neu basbort atom.

Cam 4: Darllenwch ganllawiau’r cynllun a dychwelyd eich ffurflenni wedi’u llenwi a chopi o’ch tystysgrifau

Mae modd canfod canllaw byr i’r CPLlL ar gyfer gweithwyr yng Nghymru a Lloegr ar ein tudalen ffurflenni ac adnoddau.

Bydd angen i chi ddarllen y canllawiau er mwyn deall sut mae’r CPLlL yn gweithio.

Bydd angen llenwi a dychwelyd y ffurflenni hyn:

  • Pensiynau CPLlL, sector cyhoeddus a phensiynau eraill blaenorol
  • Ffurflen mynegi dymuniad grant marwolaeth
  • Ffurflen trosglwyddo awdurdod (dim ond os oes gennych chi bensiynau eraill yr ydych am eu trosglwyddo i ni y dylech lenwi’r ffurflen hon).

Cam 5: Sicrhewch eich bod wedi nodi eich dewis iaith a chyfathrebu ar y ffurflenni yng Ngham 4

Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym sut yr hoffech i ni gyfathrebu â chi fel y gallwn gadw mewn cysylltiad â chi ynglŷn â’ch pensiwn. Gallwch ddewis un o’r ddau ddewis canlynol:

  • Cofrestru ar gyfer Hunanwasanaeth Aelodau: Mae Hunanwasanaeth Aelodau yn eich galluogi; i weld eich datganiad buddion blynyddol, gweld dogfennau pensiwn mewn amser real, diweddaru eich manylion personol, defnyddio ‘Cyfrifianellau Buddion’ i weld amcangyfrifiad o’ch pensiwn, a defnyddio ein ‘Cynlluniwr Ymddeoliad’ i’ch helpu i gyfrifo beth fydd ei angen arnoch i sicrhau bod eich ymddeoliad yn un hapus. Mae’n gyflym a hawdd cofrestru yma.
  • Os ydych chi’n dymuno derbyn yr holl ohebiaeth drwy’r post, anfonwch e-bost at pensiynau@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01352 702980 gyda’ch enw a rhif yswiriant gwladol i roi gwybod i ni.

Cam 6: Os oes gennych gofnod pensiwn presennol gyda Chronfa Bensiynau Clwyd efallai y byddai gennych y dewis o’u cyfuno. Byddwn yn anfon eich dewisiadau cyfuno ar wahân

Os ydych wedi talu cyfraniadau CPLlL yn flaenorol ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd, efallai bod gennych chi gofnod pensiwn gyda ni eisoes. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod os oes modd cyfuno’r cofnodion pensiwn hyn.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Talu cyfraniadau ychwanegol:

Os ydych chi’n dymuno talu cyfraniadau ychwanegol i roi hwb i werth eich pensiwn pan fyddwch chi’n ymddeol, mae dwy ffordd o wneud hyn yn y CPLlL:

  • Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
  • Cyfraniadau pensiwn ychwanegol

Darllenwch am eich dewisiadau yma.

Safonau Byw mewn Ymddeoliad:

Mae’r Safonau Byw mewn Ymddeoliad (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) wedi’u datblygu i roi darlun o’r math o fywyd y gallech ei fforddio wrth ymddeol. Maent yn dangos sut y gallai ymddeoliad fod ar dair safon wahanol ac maent yn eich cynorthwyo i gynllunio’n ariannol ar gyfer hynny.

Gadael y cynllun cyn ymddeol:

Os ydych chi’n talu cyfraniadau CPLlL am lai na thri mis ac yn penderfynu optio allan, bydd eich cyflogwr yn ad-dalu unrhyw gyfraniadau yr ydych wedi’u talu drwy’ch cyflog.

Os ydych chi’n talu cyfraniadau CPLlL am lai na dwy flynedd (ond dros dri mis), ni fyddech wedi bod yn y cynllun pensiwn am ddigon hir i gronni buddion pensiwn. Fe allech fod yn gymwys am ad-daliad o’ch cyfraniadau pensiwn neu drosglwyddo i gynllun pensiwn newydd.

Os ydych chi’n talu cyfraniadau CPLlL am dros ddwy flynedd, fe fydd gennych fuddion gohiriedig yn y cynllun.

Optio allan:

Mae modd dewis rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL drwy lenwi ffurflen optio allan y mae modd ei chanfod yma a’i dychwelyd i adran gyflogau eich cyflogwr.

Cyn optio allan efallai y byddwch eisiau ystyried symud i adran 50:50 y cynllun. Mae’r adran 50:50 yn golygu eich bod yn talu hanner eich cyfraniadau arferol yn gyfnewid am gasglu hanner eich pensiwn arferol. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.