Ymadael cyn ymddeol neu optio allan

Yr oedran ieuengaf y gallwch ymddeol o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar hyn o bryd yw 55. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gallwch dynnu eich pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed o 6 Ebrill 2028. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych angen cymryd eich pensiwn yn gynt oherwydd salwch.

Fe allech gael eich gwarchod rhag y cynnydd hwn os gwnaethoch ymuno â’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Gallech hefyd fod wedi’ch gwarchod os gwnaethoch drosglwyddo pensiwn blaenorol i’r Cynllun, os yw rhai amodau penodol wedi’u bodloni. Fodd bynnag, dim ond pan fyddwch chi’n tynnu eich pensiwn CPLlL y byddwch chi’n gallu cael eich gwarchod, os yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu ichi dynnu eich pensiwn cyn troi’n 57 oed.

Llywodraeth y DU sy’n gosod rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid yw wedi ei gadarnhau eto os bydd yn caniatáu i aelodau, sy’n gymwys i gael eu gwarchod, gymryd eu pensiwn CPLlL cyn eu bod yn 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.

Ar hyn o bryd, os ydych yn rhoi’r gorau i gyfrannu i’r cynllun pensiwn cyn eich bod yn 55 mlwydd oed, dim ond ychydig o opsiynau fydd gennych i ddewis ohonynt. Efallai eich bod wedi rhoi’r gorau i gyfrannu am eich bod wedi gadael cyflogaeth neu wedi dewis peidio â thalu mwy o gyfraniadau.

Lle mae 55 yn cael ei nodi ar weddill y dudalen hon, cofiwch y bydd hyn yn newid i 57 o 6 Ebrill 2028.

Os ydych wedi talu cyfraniadau CPLlL am lai na dwy flynedd, pa un a ydych dan 55 mlwydd oed neu’n hŷn, ni fyddwch wedi cronni buddion pensiwn.

Cyn belled nad oes gennych unrhyw aelodaeth CPLlL arall yn unlle arall yng Nghymru na Lloegr ac nad ydych wedi trosglwyddo pensiwn blaenorol i ni, gellwch gael ad-daliad am eich cyfraniadau pensiwn, gan dynnu 20% o dreth.

  • Mae’n rhaid i chi hawlio’ch ad-daliad o fewn pum mlynedd i roi’r gorau i dalu eich cyfraniadau CPLlL, neu cyn i chi fod yn 75 mlwydd oed, os yw hynny’n gynt.
  • Os nad ydych yn hawlio’r ad-daliad ac mae gennych aelodaeth CPLlL arall yn rhywle arall, ni ellir talu ad-daliad i chi. Bydd yn cael ei gyfuno gyda’ch cyfrif pensiwn CPLlL arall yn lle hynny.

Os ydych yn dewis optio allan o fewn 3 mis o ymuno â CPLlL, bydd eich cyflogwr yn ad-dalu eich cyfraniadau drwy eich cyflog. Bydd pob ad-daliad arall yn dod gan Gronfa Bensiynau Clwyd.

Os oes gennych fwy na dwy flynedd o aelodaeth CPLlL ac yr ydych dan 55 mlwydd oed, bydd gennych bensiwn gohiriedig yn y CPLlL. Darllenwch am y ffordd yr ydym yn cyfrifo hyn yma: sut mae eich pensiwn gohiriedig yn cael ei gyfrifo.

Bydd eich buddion pensiwn gohiriedig yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chostau byw.

Eich oedran ymddeol arferol yw naill ai oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu 65 oed, pa un bynnag yw’r hynaf.

  • Gellwch ofyn am gael derbyn eich pensiwn gohiriedig unrhyw bryd ar ôl i chi fod yn 55 mlwydd oed. Os ydych yn cymryd eich pensiwn cyn i chi gyrraedd oedran ymddeol arferol, bydd buddion y pensiwn yn llai am eu bod wedi eu cymryd yn gynnar.

    Byddwn yn anfon pecyn ymddeol i chi, yn cynnwys ffigyrau eich pensiwn, a manylion unrhyw ostyngiad.

  • Os ydych yn dioddef o afiechyd, mae’n bosibl y gellwch ddechrau eich pensiwn cyn i chi fod yn 55 mlwydd oed. Ni fyddai pensiwn salwch yn cael ei ostwng am gael ei dalu’n gynnar, ond am y rheswm hwn bydd angen caniatâd eich cyn-gyflogwr arnoch i’w dderbyn.

    Pan fydd y pensiwn yn cael ei dalu, bydd yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yn unol â chostau byw. Bydd y pensiwn yn cael ei dalu i chi am weddill eich oes.

  • Mae gennych yr opsiwn hefyd o drosglwyddo eich pensiwn gohiriedig i gynllun pensiwn arall.

Gellwch drosglwyddo eich buddion pensiwn i gynllun pensiwn arall, pa un a oes gennych fwy na 2 flynedd o aelodaeth CPLlL neu lai. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi drosglwyddo o leiaf 12 mis cyn cyrraedd eich oedran ymddeol arferol. Eich oedran ymddeol arferol yw naill ai oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu 65 oed, pa un bynnag yw’r hynaf.

Mae mwy o wybodaeth am drosglwyddo yma.

Gellwch ddewis peidio â thalu cyfraniadau CPLlL tra’r ydych yn dal i weithio i’ch cyflogwr. Gelwir hyn yn ‘optio allan’. Byddwch yn cael naill ai ad-daliad am eich cyfraniadau, pensiwn gohiriedig, neu drosglwyddo allan, fel yr eglurir uchod.

Os ydych yn dewis peidio â thalu cyfraniadau, ac yna’n dewis gwneud eto’n ddiweddarach, bydd gennych ddau gyfrif pensiwn ar wahân gyda ni. Ni allwn eu cyfuno.

Os ydych dros 55 mlwydd oed pan ydych yn optio allan, ni ellwch dderbyn eich pensiwn yn syth. Mae’n rhaid i chi adael y swydd y gwnaethoch optio allan ohoni yn gyntaf.

Sylwer: mae yna reolau cofrestru awtomatig a fydd yn effeithio arnoch os ydych yn parhau i fod wedi optio allan o’r cynllun:

  • Bydd eich cyflogwr fel arfer yn gorfod eich rhoi’n ôl yn y cynllun pensiwn ymhen rhyw 3 blynedd.
  • Os byddwch yn newid eich swydd bydd eich cyflogwr fel arfer yn eich rhoi yn y cynllun pensiwn ar unwaith.
  • Os oes gennych swydd ychwanegol, efallai bydd eich cyflogwr yn eich rhoi yn y cynllun pensiwn ar gyfer y swydd honno hefyd.

Pan fo hyn yn digwydd, byddwch yn gallu optio allan eto os ydych eisiau gwneud hynny.

Cofiwch, os ydych yn dewis optio allan, bydd eich incwm pensiwn yn is pan fyddwch yn ymddeol, ac ni fyddwch yn gymwys am fuddion ychwanegol ar gyfer marwolaeth mewn gwasanaeth neu ymddeoliad ar sail afiechyd. Os ydych eisiau optio allan, mae ffurflen optio allan yma.

Yn hytrach nag optio allan o CPLlL, gellwch ymuno ag adran 50:50 yn lle hynny. Byddwch yn talu hanner swm y cyfraniadau er mwyn cronni hanner gwerth y pensiwn. Bydd buddion marwolaeth mewn gwasanaeth ac ymddeoliad ar sail afiechyd yn dal i fod yn berthnasol i chi. Os ydych eisiau gwneud hyn, llenwch ffurfflen ymuno ag adran 50:50.