Talu cyfraniadau ychwanegol

Cynghorwr CPLlL

Os ydych chi am dalu cyfraniadau ychwanegol i roi hwb i werth eich pensiwn pan fyddwch chi’n ymddeol, gallwch drefnu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol neu gontract CGY.

Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) yw cynilion hirdymor y gallwch chi eu cael ar ôl ymddeol yn unig. Mae’n ffordd hyblyg o dalu cyfraniadau ychwanegol, gallwch eu cynyddu, eu gostwng, rhoi’r gorau i’w talu neu eu hailddechrau unrhyw bryd.

Fel eich cyfraniadau safonol, bydd CGY yn dod allan o’ch tâl cyn treth. Felly, os ydych chi’n drethdalwr 20% ac eisiau rhoi £100 yn eich cronfa CGY bob mis, £80 yn unig y bydd yn rhaid i chi ei dalu, oherwydd bydd yr £20 sy'n weddill yn dod o'r gostyngiad yn y dreth.

Chi sy’n dewis faint i’w dalu i’ch pot CGY, a sut i’w fuddsoddi gyda’n darparwr, Prudential. Pan fyddwch yn ymddeol, byddwch yn ei ddefnyddio i:

  • gymryd y cyfan ar ffurf arian parod di-dreth, neu
  • ei ddefnyddio i gynyddu eich pensiwn blynyddol, neu
  • gymryd ychydig ohono fel arian parod di-dreth a defnyddio’r gweddill i gynyddu eich pensiwn blynyddol

Os byddwch chi’n dechrau cymryd eich pensiwn cyn yr oedran pensiwn arferol, bydd eich pensiwn ac unrhyw bensiwn ychwanegol yr ydych chi wedi'i brynu drwy CGY yn lleihau am dalu’n fuan.

I sefydlu eich CGY, cysylltwch â Prudential: www.pru.co.uk/localgov (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) neu 0345 6000 343. Dywedwch wrthyn nhw eich bod yn aelod o Gyngor CPLlL drwy Gronfa Bensiwn Clwyd a byddant yn eich helpu i sefydlu cyfrif CGY sy’n gysylltiedig â’r pensiwn sydd gennych gyda ni.

Os byddwch chi’n marw yn y swydd, bydd eich pot CGY yn daladwy i’r buddiolwyr ar eich ffurflen mynegi dymuniad fel grant marwolaeth ychwanegol. Os na fyddwch wedi cwblhau ffurflen mynegi dymuniad, bydd y grant marwolaeth yn mynd i’ch ystâd.