Absenoldebau o’r gwaith

Os ydych yn absennol o’r gwaith am dymor hir, gall hyn gael effaith ar y pensiwn y byddwch yn ei dderbyn pan fyddwch yn ymddeol.

Mae’r ffordd y mae eich absenoldeb yn effeithio ar eich pensiwn yn dibynnu ar pa bryd ddigwyddodd yr absenoldeb. Mae hyn oherwydd newidiadau i reolau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) o 1 Ebrill 2026. Caiff absenoldebau cyn ac ar ôl y dyddiad hwn eu trin yn wahanol, gan gynnwys sut fyddwch chi’n prynu pensiwn a gollwyd yn ôl.

O 1 Ebrill 2026 (rheolau presennol)

Sut mae gwahanol fathau o absenoldeb yn effeithio ar eich pensiwn o 1 Ebrill 2026

Mae’r tabl hwn yn dangos sut y bydd gwahanol resymau dros absenoldeb yn effeithio ar eich pensiwn.

Absenoldeb salwch

Os ydych ar gyfnod o absenoldeb salwch, yr ydych yn talu cyfraniadau pensiwn ar ba bynnag dâl yr ydych yn ei dderbyn. Er enghraifft, cyflog llawn, hanner cyflog neu dâl salwch.

Os ydych yn mynd am gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl, byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, mae rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yn trin yr absenoldeb hwn yn yr un modd â phe baech wedi talu eich cyfraniadau pensiwn yn llawn.

Golyga hyn y byddwch yn parhau i gronni pensiwn drwy gydol eich absenoldeb salwch, yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig. Ni fyddwch yn colli unrhyw bensiwn.

Os ydych yn talu cyfraniadau 50:50 ac yna’n mynd am gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl, byddwch yn symud yn awtomatig i brif adran y cynllun o ddechrau’r cyfnod tâl nesaf. Felly, o’r adeg hynny ymlaen byddwch yn cronni pensiwn CPLlL cyfradd lawn, er nad ydych yn talu cyfraniadau.

Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu

Yn ystod unrhyw gyfnodau o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir, rydych yn talu cyfraniadau pensiwn ar ba bynnag dâl yr ydych yn ei dderbyn. Er enghraifft, tâl llawn neu dâl statudol. Os ydych yn mynd am gyfnod o absenoldeb di-dâl, byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, mae rheolau CPLlL yn trin yr absenoldeb hwn yn yr un modd â phe baech wedi talu eich cyfraniadau pensiwn yn llawn.

Golyga hyn y byddwch yn parhau i gronni pensiwn drwy gydol eich absenoldeb â thâl a’ch absenoldeb di-dâl, yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig. Ni fyddwch yn colli unrhyw bensiwn.

Os ydych yn talu cyfraniadau 50:50 ac yn mynd am gyfnod di-dâl yn ystod absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu cyffredin (sydd fel arfer y 26 wythnos gyntaf), neu absenoldeb tadolaeth, byddwch yn symud yn awtomatig i brif adran y cynllun o ddechrau’r cyfnod tâl nesaf. Felly, o’r adeg hynny ymlaen byddwch yn cronni pensiwn CPLlL cyfradd lawn, er nad ydych yn talu cyfraniadau.

Absenoldeb di-dâl awdurdodedig (gan gynnwys absenoldeb gofal newyddenedigol di-dâl)

Caiff absenoldebau di-dâl awdurdodedig ac absenoldeb gofal newyddenedigol di-dâl eu trin yr un fath at ddibenion pensiwn.

Yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, ni fyddwch yn derbyn cyflog. Mae a fyddwch yn cronni pensiwn yn ystod y cyfnod hwn yn dibynnu ar hyd a math yr absenoldeb di-dâl.

  • Mae absenoldeb di-dâl awdurdodedig o hyd at 14 diwrnod yn bensiynadwy yn awtomatig. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni pensiwn ar gyfer y cyfnodau byr yma. Bydd y ffordd y byddwch yn talu’r cyfraniadau hyn yn fater i’w gytuno arno gyda’ch cyflogwr.
  • Os yw’ch cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig yn 15 diwrnod neu hirach, ni fyddwch yn talu cyfraniadau. Mae hynny’n golygu na fyddwch yn cronni pensiwn yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig o 15 diwrnod neu fwy. Fodd bynnag, bydd gennych chi ddewis i dalu cyfraniadau ar gyfer y pensiwn a gollwyd drwy Drefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys.

(O 6 Ebrill 2025, mae absenoldeb gofal newyddenedigol ar gael os oes ei angen. Mae hwn ar gyfer rhieni cyflogedig sydd â phlentyn/plant sy’n cael gofal newydd-anedig yn dechrau o fewn 28 diwrnod ar ôl yr enedigaeth ac sy’n mynd ymlaen i dreulio saith diwrnod yn olynol neu fwy mewn gofal. Tra byddwch ar absenoldeb gofal newyddenedigol â thâl, byddwch yn dal i gasglu pensiwn drwy gydol eich absenoldeb â thâl, yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig.

Cynnwys streiciau

Os ydych chi ar streic, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn gan nad ydych chi’n cael unrhyw gyflog. Fe allwch chi ddewis talu cost lawn y pensiwn coll drwy CPY ‘Coll’ (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Ni fydd eich cyflogwr yn gwneud unrhyw gyfraniad. Nid oes terfyn amser i benderfynu prynu’r pensiwn coll. Fodd bynnag, fe ddylech chi benderfynu cyn gynted â phosibl oherwydd defnyddir ffactorau oed i gyfrifo cost prynu pensiwn coll yn ôl.

Gwasanaeth rheithgor

Os ydych yn derbyn cyflog yn ystod gwasanaeth rheithgor, yr ydych yn talu cyfraniadau pensiwn ac yn parhau i gronni pensiwn yn ôl yr arfer.

Os na fyddwch chi’n cael unrhyw gyflog yn ystod cyfnod o wasanaeth rheithgor, hyd eich gwasanaeth rheithgor fydd yn penderfynu a fyddwch chi’n cronni pensiwn yn ystod y cyfnod hwn.

  • Mae cyfnodau o wasanaeth rheithgor di-dâl o hyd at 14 diwrnod yn cronni pensiwn yn awtomatig. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau pensiwn a chronni pensiwn ar gyfer y cyfnodau byr yma. Bydd y ffordd y byddwch yn talu’r cyfraniadau hyn yn fater i’w gytuno arno gyda’ch cyflogwr.
  • Os bydd eich gwasanaeth rheithgor di-dâl yn para mwy na 14 diwrnod, ni fyddwch yn talu cyfraniadau. Mae hynny’n golygu na fyddwch yn cronni pensiwn yn ystod cyfnod o absenoldeb di-dâl awdurdodedig o 15 diwrnod neu fwy. Fodd bynnag, bydd gennych chi ddewis i dalu cyfraniadau ar gyfer y pensiwn a gollwyd drwy Drefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys.
Absenoldeb y lluoedd wrth gefn

Os ydych ar gyfnod o absenoldeb y lluoedd wrth gefn, byddwch yn parhau i gronni pensiwn yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig. Ni fyddwch yn colli unrhyw bensiwn tra%apos;r ydych i ffwrdd.

Mae’n rhaid i’ch cyflogwr CPLlL ddweud y canlynol wrthych:

  • swm y cyfraniadau pensiwn y mae’n rhaid i chi a’r Weinyddiaeth Amddiffyn eu talu;
  • unrhyw gyfraniadau ychwanegol yr ydych yn eu talu; ac
  • eich tâl pensiynadwy tybiedig, ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hyn.

Dylech roi’r wybodaeth hon i’r Weinyddiaeth Amddiffyn a fydd wedyn yn cymryd y cyfraniadau pensiwn ac yn eu talu i Gronfa Bensiynau Clwyd, ynghyd â chyfraniadau’r cyflogwr.

Yn ystod y cyfnod hwn o absenoldeb, ni fyddwch yn talu cyfraniadau pensiwn o unrhyw gyflog yr ydych yn ei dderbyn gan eich cyflogwr CPLlL.

Absenoldeb di-dâl heb awdurdod

Os byddwch chi’n cymryd absenoldeb di-dâl heb awdurdod, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn ac ni fydd modd i chi ei brynu’n ôl.

Prynu pensiwn a gollwyd yn ôl (rheolau presennol)

Sut ydych chi’n prynu pensiwn a gollwyd yn sgil absenoldeb di-dâl awdurdodedig?

Fe allwch chi dalu cyfraniadau ar gyfer y pensiwn a gollwyd drwy Drefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys. Bydd eich cyflogwr yn siarad efo chi am hyn pan fyddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith. Mae Trefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys yn seiliedig ar y canlynol:

  • eich bod yn talu’r cyfraniadau y byddech chi wedi’u talu petaech heb fod yn absennol
  • eich cyflogwr yn talu’r cyfraniadau y byddai wedi’u talu petaech heb fod yn absennol

Mae hyn yn golygu bod y gost o brynu’r pensiwn coll yn ôl yr un fath â’r gost petaech wedi bod yn gweithio yn ystod y cyfnod hwnnw.

Bydd gennych chi flwyddyn ar ôl dychwelyd i’r gwaith i roi gwybod i’ch cyflogwr bod arnoch chi eisiau Trefniant Pensiwn Ychwanegol Cymwys. I fod yn gymwys ar gyfer trefniant o’r fath mae’n rhaid eich bod chi’n dal yn talu cyfraniadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gyfer yr un swydd.

Bydd unrhyw bensiwn coll rydych chi’n ei brynu’n ôl yn cyfrif tuag at bensiwn eich goroeswyr, ac ni fydd yn lleihau os ydych chi’n ymddeol ar ôl colli’ch swydd neu fel rhan o drefniadau effeithlonrwydd.

Sut mae modd prynu pensiwn a gollwyd yn ôl ar ôl cyfnod o streic?

I brynu’ch pensiwn yn ôl ar ôl cyfnod o streic, bydd arnoch chi angen canfod faint o’ch cyflog pensiynadwy rydych chi wedi’i golli pan oeddech chi ar streic. Eich cyflogwr sy’n gyfrifol am roi’r wybodaeth hon i chi.

Fe ddylech chi wedyn ddefnyddio’r gyfrifiannell CPY (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) ar-lein i ganfod cost prynu’ch pensiwn coll yn ôl.

Ni fydd unrhyw bensiwn coll rydych chi’n ei brynu’n ôl yn cyfrif tuag at bensiwn eich goroeswyr, a bydd yn lleihau os ydych chi’n ymddeol ar sail colli’ch swydd neu fel rhan o drefniadau effeithlonrwydd.

Os oes arnoch chi eisiau prynu eich pensiwn coll yn ôl, llenwch y ffurflen gais ar y gyfrifiannell CPY ac anfon copi ohoni i adran gyflogau eich cyflogwr a chopi i Gronfa Bensiynau Clwyd.

Gallwch brynu eich pensiwn coll yn ôl mewn sawl ffordd:

  • fel taliad cyfandaliad drwy’r adran gyflogau fel bod eich taliad yn denu rhyddhad treth
  • fel taliad cyfandaliad yn uniongyrchol i Gronfa Bensiynau Clwyd, ond bydd arnoch chi angen cysylltu â Chyllid a Thollau EF eich hun i dderbyn eich rhyddhad treth
  • yn fisol dros gyfnod o un flwyddyn o leiaf drwy’r adran gyflogau, fel bod eich taliadau yn denu rhyddhad treth

Os ydych chi’n dewis talu bob mis, efallai y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig (chi fydd yn gorfod talu am hyn) i gadarnhau bod eich iechyd yn weddol dda.

Hyd at 31 Mawrth 2026 (hen reolau)

Sut mae gwahanol fathau o absenoldeb yn effeithio ar eich pensiwn hyd at 31 Mawrth 2026

Mae’r tabl hwn yn dangos sut y gwnaeth gwahanol resymau dros absenoldeb effeithio ar eich pensiwn.

Absenoldeb salwch

Pan oeddech ar gyfnod o absenoldeb salwch, roeddech yn talu cyfraniadau pensiwn ar ba bynnag dâl wnaethoch chi ei dderbyn. Er enghraifft, cyflog llawn, hanner cyflog neu dâl salwch.

Os aethoch am gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl, fe wnaethoch roi’r gorau i dalu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, mae rheolau CPLlL yn trin yr absenoldeb hwn yn yr un modd â phe baech wedi talu eich cyfraniadau pensiwn yn llawn.

Golyga hyn eich bod wedi parhau i gronni pensiwn drwy gydol eich absenoldeb salwch, yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig. Ni wnaethoch golli unrhyw bensiwn.

Os oeddech yn talu cyfraniadau 50:50 ac yna wedi mynd am gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl, cawsoch eich symud yn awtomatig i brif adran y cynllun o ddechrau’r cyfnod tâl nesaf. Felly, o’r adeg hynny ymlaen fe wnaethoch gronni pensiwn CPLlL cyfradd lawn, er nad oeddech yn talu cyfraniadau.

Absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu ac absenoldeb rhiant a rennir

Yn ystod unrhyw gyfnodau o absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb rhiant a rennir fe wnaethoch dalu cyfraniadau pensiwn ar ba bynnag dâl wnaethoch ei dderbyn. Fe wnaethoch barhau i gronni pensiwn drwy gydol eich absenoldeb â thâl, yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig.

Os aethoch am gyfnod o absenoldeb di-dâl, ni wnaethoch dalu cyfraniadau. Yn ystod yr amser hwn, wythnosau 39 i 52 fel arfer, ni fyddwch wedi cronni unrhyw bensiwn. Mae gennych y dewis o brynu’r pensiwn ydych wedi ei golli yn ôl trwy CPY coll (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

Os oeddech yn talu cyfraniadau 50:50 ac wedi mynd am gyfnod di-dâl yn ystod absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu cyffredin (sydd fel arfer y 26 wythnos gyntaf), neu absenoldeb tadolaeth, fe wnaethoch symud yn awtomatig i brif adran y cynllun o ddechrau’r cyfnod tâl nesaf. Felly, o’r adeg hynny ymlaen fe wnaethoch gronni pensiwn CPLlL cyfradd lawn, er nad oeddech yn talu cyfraniadau.

Absenoldeb di-dâl awdurdodedig (gan gynnwys absenoldeb gofal newyddenedigol di-dâl)

Yn ystod cyfnodau o absenoldeb di-dâl awdurdodedig, ni wnaethoch dderbyn cyflog. Golyga hyn na wnaethoch dalu unrhyw gyfraniadau na chronni unrhyw bensiwn tra’r oeddech i ffwrdd. Mae gennych y dewis o brynu’r pensiwn ydych wedi ei golli yn ôl trwy CPY coll (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

O 6 Ebrill 2025, mae absenoldeb gofal newyddenedigol ar gael os oes ei angen. Mae hwn ar gyfer rhieni cyflogedig sydd â phlentyn/plant sy’n cael gofal newyddenedigol yn dechrau o fewn 28 diwrnod ar ôl yr enedigaeth ac sy’n mynd ymlaen i dreulio saith diwrnod yn olynol neu fwy mewn gofal. Caiff gofal newyddenedigol ei drin fel absenoldeb awdurdodedig. Ar gyfer gofal newyddenedigol a gymerwyd cyn 1 Ebrill 2026, fe wnaethoch ddal i gronni pensiwn trwy gydol eich absenoldeb â thâl yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig. During unpaid neonatal care leave, you have the option to buy back the pension you have lost trwy CPY coll (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

Seibiant streic

Os oeddech chi ar streic, ni wnaethoch gronni unrhyw bensiwn gan nad oeddech chi’n cael unrhyw gyflog. Fe allwch chi ddewis talu cost lawn y pensiwn coll drwy CPY ‘Coll’ (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Ni fydd eich cyflogwr yn gwneud unrhyw gyfraniad. Nid oes terfyn amser i benderfynu prynu’r pensiwn coll. Fodd bynnag, fe ddylech chi benderfynu cyn gynted â phosibl oherwydd defnyddir ffactorau oed i gyfrifo cost prynu pensiwn coll yn ôl.

Gwasanaeth rheithgor

Os wnaethoch dderbyn cyflog yn ystod gwasanaeth rheithgor, fe wnaethoch dalu cyfraniadau pensiwn a pharhau i gronni pensiwn yn ôl yr arfer.

Os na wnaethoch dderbyn unrhyw gyflog yn ystod gwasanaeth rheithgor, ni wnaethoch dalu unrhyw gyfraniadau na chronni unrhyw bensiwn tra’r oeddech i ffwrdd. Mae gennych y dewis o brynu’r pensiwn ydych wedi ei golli yn ôl trwy CPY coll (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

Absenoldeb y lluoedd wrth gefn

Os oeddech ar gyfnod o absenoldeb y lluoedd wrth gefn, fe wnaethoch barhau i gronni pensiwn yn seiliedig ar eich tâl pensiynadwy tybiedig. Ni wnaethoch golli unrhyw bensiwn tra’r oeddech i ffwrdd.

Dylai eich cyflogwr CPLlL fod wedi dweud wrthych chi:

  • swm y cyfraniadau pensiwn y mae’n rhaid i chi a’r Weinyddiaeth Amddiffyn eu talu;
  • unrhyw gyfraniadau ychwanegol yr ydych yn eu talu; ac
  • eich tâl pensiynadwy tybiedig, ar gyfer cyfrifo’r cyfraniadau hyn.

Dylech fod wedi rhoi’r wybodaeth hon i’r Weinyddiaeth Amddiffyn a fyddai wedyn wedi cymryd y cyfraniadau pensiwn a’u talu i Gronfa Bensiynau Clwyd, ynghyd â chyfraniadau’r cyflogwr.

Yn ystod y cyfnod hwn o absenoldeb, ni ddylech fod wedi talu cyfraniadau pensiwn o unrhyw gyflog yr ydych wedi ei dderbyn gan eich cyflogwr CPLlL.

Absenoldeb di-dâl heb awdurdod

Os wnaethoch chi gymryd absenoldeb di-dâl heb awdurdod, ni wnaethoch gronni unrhyw bensiwn ac nid oes modd i chi ei brynu’n ôl.

Prynu pensiwn a gollwyd yn ôl (hen reolau)

Os ydych wedi stopio cronni pensiwn ar unrhyw adeg yn ystod eich absenoldeb, gellwch ei brynu’n ôl drwy dalu cyfraniadau pensiwn ychwanegol, gelwir hyn yn CPY coll.

I ganfod faint ydych angen ei dalu, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein ar gyfer CPY coll (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Bydd angen i chi ofyn i’ch cyflogwr faint o gyflog pensiynadwy gros y gwnaethoch ei golli tra’r oeddech i ffwrdd.

Os oedd eich absenoldeb oherwydd streic, mae’n rhaid i chi dalu’r holl gyfraniadau ychwanegol i brynu’r pensiwn a gollwyd yn ôl.

Ar gyfer mathau eraill o absenoldeb di-dâl:

  • Os ydych yn trefnu i dalu cyfraniadau ychwanegol o fewn 30 niwrnod o ddychwelyd i’r gwaith, byddwch yn gorfod talu traean o’r cyfraniadau yn unig, a bydd eich cyflogwr yn talu’r ddau draean arall.
  • Os ydych yn trefnu i dalu’r cyfraniadau ychwanegol ar ôl 30 niwrnod wedi dychwelyd i’r gwaith, mae’n rhaid i chi dalu’r holl gyfraniadau ychwanegol eich hun. Gall eich cyflogwr ddewis i ymestyn y terfyn amser 30 niwrnod hwn.

Ni fydd unrhyw bensiwn coll rydych chi’n ei brynu’n ôl yn cyfrif tuag at bensiwn eich goroeswyr, a bydd yn lleihau os ydych chi’n ymddeol ar sail colli’ch swydd neu fel rhan o drefniadau effeithlonrwydd

Os oes arnoch chi eisiau prynu eich pensiwn coll yn ôl, llenwch y ffurflen gais ar y gyfrifiannell CPY ac anfon copi ohoni i adran gyflogau eich cyflogwr a chopi i Gronfa Bensiynau Clwyd.

Gallwch brynu eich pensiwn coll yn ôl mewn sawl ffordd:

  • fel taliad cyfandaliad drwy’r adran gyflogau fel bod eich taliad yn denu rhyddhad treth
  • fel taliad cyfandaliad yn uniongyrchol i Gronfa Bensiynau Clwyd, ond bydd arnoch chi angen cysylltu â Chyllid a Thollau EF eich hun i dderbyn eich rhyddhad treth
  • yn fisol dros gyfnod o un flwyddyn o leiaf drwy’r adran gyflogau, fel bod eich taliadau yn denu rhyddhad treth

Os ydych chi’n dewis talu bob mis, efallai y bydd yn rhaid i chi gael archwiliad meddygol gan Ymarferydd Meddygol Cofrestredig (chi fydd yn gorfod talu am hyn) i gadarnhau bod eich iechyd yn weddol dda.

Ar gyfer unrhyw fath arall o absenoldeb di-dâl heb awdurdod, ni fyddwch yn cronni unrhyw bensiwn ac ni fydd modd i chi ei brynu’n ôl.

Tâl pensiynadwy tybiedig

Yn dibynnu ar y rheswm dros eich absenoldeb, bydd eich cyflogwr yn cyfrifo ffigwr cyflog i seilio eich pensiwn arno fel nad effeithir arno. Dyma eich tâl pensiynadwy tybiedig.

Mae’n seiliedig ar y tri mis diwethaf o gyflog llawn a dderbyniwyd gennych. Os ydych yn derbyn tâl yn wythnosol, bydd yn seiliedig ar y 12 wythnos ddiwethaf.

Enghraifft

Mae aelod ar gyfnod o absenoldeb salwch di-dâl rhwng 1 Gorffennaf ac 31 Rhagfyr.

Telir i’r aelod yn fisol, a derbyniodd y cyflog llawn canlynol ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin:

  • Cyflog pensiynadwy mis Ebrill = £1,600
  • Cyflog pensiynadwy mis Mai = £1,600
  • Cyflog pensiynadwy mis Mehefin = £1,800

Cyfartaledd y tri mis hyn yw:

£1,600 + £1,600 + £1,800 = £5,000

£5,000 ÷ 3 = £1,666.67 ar gyfartaledd bob mis

Yr oedd yr aelod ar gyfnod o absenoldeb salwch am chwe mis, felly:

£1,666.67 x 6 = £10,000 o dâl pensiynadwy tybiedig yn gyfan gwbl ar gyfer 1 Gorffennaf i 31 Rhagfyr.