Mathau o ymddeoliad

Os oes gennych chi ddwy flynedd neu fwy o aelodaeth yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fe fyddwch yn derbyn pensiwn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol pan fyddwch yn ymddeol, ac fe fydd yn daladwy am oes.

Mae’r tabl isod yn dangos y gwahanol fathau o ymddeoliad gan y CPLlL.

Sylwch: Mae’r tabl yn nodi’r oedran ymddeol isaf ar hyn o bryd, sef 55 oed. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gallwch dynnu eich pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed o 6 Ebrill 2028. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych angen cymryd eich pensiwn yn gynt oherwydd salwch.

Fe allech gael eich gwarchod rhag y cynnydd hwn os gwnaethoch ymuno â’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Gallech hefyd fod wedi’ch gwarchod os gwnaethoch drosglwyddo pensiwn blaenorol i’r Cynllun, os yw rhai amodau penodol wedi’u bodloni. Fodd bynnag, dim ond pan fyddwch chi’n tynnu eich pensiwn CPLlL y byddwch chi’n gallu cael eich gwarchod, os yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu ichi dynnu eich pensiwn cyn troi’n 57 oed.

Llywodraeth y DU sy’n gosod rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid yw wedi ei gadarnhau eto os bydd yn caniatáu i aelodau, sy’n gymwys i gael eu gwarchod, gymryd eu pensiwn CPLlL cyn eu bod yn 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.

Ymddeoliad Arferol Eich oedran ymddeol arferol yw un ai eich Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65 os yw hynny’n hwyrach.

Gallwch ddod o hyd i’ch Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yma (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

O oedran ymddeol arferol fe allwch dderbyn eich pensiwn ar unwaith heb unrhyw ostyngiadau.

Ymddeoliad cynnar Os ydych yn gadael rhwng 55 oed ac oedran ymddeol arferol, fe allwch barhau i dderbyn eich pensiwn ar unwaith.

Bydd y pensiwn yn cael ei ostwng gan eich bod yn ei gymryd yn gynnar. Y cynharaf y byddwch yn mynd, yna yr isaf fydd eich pensiwn. Bydd eich pecyn ymddeol yn rhoi’r manylion i chi.

Does dim rhaid i chi gymryd y pensiwn os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Gallwch ddewis i ohirio’r pensiwn am y tro a’i dderbyn yn y dyfodol.

Ymddeoliad hwyr Os ydych yn gadael rhwng yr oedran ymddeol arferol a 75 oed, fe allwch dderbyn eich pensiwn ar unwaith. Bydd y pensiwn ychydig yn uwch gan eich bod yn ei gymryd yn hwyrach na’r disgwyl. Yr hwyraf y byddwch yn mynd, yna yr uchaf fydd eich pensiwn.

Os ydych yn parhau i weithio y tu hwnt i’ch pen-blwydd yn 75 oed, mae’n rhaid i chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a dechrau derbyn eich pensiwn.

Dileu swydd neu Effeithlonrwydd y Gwasanaeth Os ydych chi dros 55 oed a bod eich swydd yn cael ei dileu neu os ydych chi’n gadael o ganlyniad i effeithlonrwydd y gwasanaeth, mae’n rhaid i chi dderbyn eich pensiwn ar unwaith. Ar hyn o bryd, ni fydd y pensiwn yn cael ei ostwng ar gyfer tâl cynnar.

Er na fydd y pensiwn yn cael ei ostwng, ni fydd yn cynyddu chwaith i roi’r pensiwn i chi y gallech fod wedi ei gronni pe baech wedi parhau i dalu cyfaniadau tan eich oedran ymddeol arferol.

Os ydych wedi talu cyfraniadau ychwanegol i wella gwerth eich pensiwn, bydd y rhan hwn o’ch pensiwn yn cael ei ostwng os ydych yn gadael cyn oedran ymddeol arferol.

Mae rheolau newydd yn debygol o ddod i rym a fydd yn cyfyngu ar gyfanswm y gost y gall eich cyflogwr ei dalu i chi i ymddeol ar sail dileu swydd neu effeithlonrwydd. Os ydych chi yn ymddeol ar sail dileu swydd neu effeithlonrwydd ar ôl i’r rheolau newydd hyn ddod i rym, mae’n bosibl y bydd eich pensiwn yn cael ei ostwng os ydych yn ei gymryd yn gynnar.

Byddwn yn diweddaru ein gwefan gyda’r manylion pan fydd mwy o wybodaeth ar gael.

Ymddeoliad Hyblyg Mae ymddeoliad hyblyg yn eich galluogi chi i ddechrau derbyn y pensiwn rydych eisoes wedi ei gronni a pharhau i weithio ar gyfer yr un cyflogwr ac ennill cyflog. Fe fyddech yn parhau i dalu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac yn cronni ail bensiwn llai ar gyfer pan fyddwch yn ymddeol yn llawn.

Mae’n rhaid i chi fodloni amodau penodol cyn y gallwch wneud hyn:

  • Mae’n rhaid i chi fod yn 55 oed neu’n hŷn;
  • Mae’n rhaid i chi un ai leihau eich oriau gwaith neu symud i swydd gyda chyflog is, ac
  • Mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich cyflogwr. (Mae’n rhaid i’ch cyflogwr fod â pholisi ymddeol hyblyg cyn cytuno).

Bydd y pensiwn yn cael ei leihau os ydych yn ymddeol yn hyblyg cyn oed ymddeol arferol. Y cynharaf y byddwch yn mynd, yr isaf fydd eich pensiwn. Bydd eich pecyn ymddeol yn rhoi’r manylion i chi.

Ymddeol ar Sail Afiechyd Os oes angen i chi adael eich swydd o ganlyniad i afiechyd, fe allech dderbyn eich pensiwn ar unwaith.

Bydd eich cyflogwr yn gofyn i feddyg annibynnol i gadarnhau:

  • Eich bod nawr yn analluog yn barhaol i wneud eich swydd gyfredol
  • Nad ydych yn gallu cymryd unrhyw waith cyflogedig ar unwaith. Mae hyn yn golygu gwaith cyflogedig am 30 awr yr wythnos neu fwy, am o leiaf blwyddyn lawn.

Mae yna dair haen o ymddeoliad ar sail afiechyd, yn dibynnu ar gyflwr yr afiechyd. Ym mhob un o’r tair haen ni fyddai eich pensiwn yn cael ei ostwng ar gyfer taliad cynnar.

Haen 1
  • Rydych yn annhebygol o fod yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig cyn oedran ymddeol arferol.
  • Bydd eich pensiwn yn cynyddu i gynnwys y gwasanaeth y gallech fod wedi ei gronni i oedran ymddeol arferol.
  • Mae’r pensiwn yn daladwy am oes.
Haen 2
  • Rydych yn annhebygol o fod yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd o adael, ond yn debygol o fod yn gallu cyn oedran ymddeol arferol.
  • Bydd eich pensiwn yn dal i gynyddu, ond o 25% o’r swm ychwanegol y byddai Haen 1 wedi ei ychwanegu.
  • Mae’r pensiwn yn daladwy am oes.
Haen 3
  • Rydych yn debygol o fod yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig o fewn 3 blynedd o adael.
  • Byddai eich cyn-gyflogwr yn adolygu eich pensiwn ar ôl 18 mis.
    • Os ydych yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig, bydd y pensiwn yn dod i ben.
    • Os nad ydych yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig o hyd ond y byddwch yn gallu yn y 18 mis nesaf, fe fydd pensiwn Haen 3 yn parhau am 18 mis arall neu hyd nes y byddwch yn gallu gweithio eto.
    • Os nad ydych yn gallu ymgymryd â gwaith cyflogedig, a bod eich afiechyd wedi gwaethygu, fe all eich cyn-gyflogwr gynyddu’r pensiwn i Haen 2 o ddyddiad yr adolygiad.

Os ydych yn derbyn pensiwn Haen 3 ac yna yn dod i allu ymgymryd â gwaith cyflogedig eto, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’ch cyn-gyflogwr.

Unwaith y bydd eich taliadau pensiwn Haen 3 wedi dod i ben, fe allwch ddechrau eu derbyn eto ar unrhyw bwynt o 55 oed. Bydd eich pensiwn yn cael ei ostwng os ydych yn dechrau ei dderbyn eto cyn oedran ymddeol arferol.

Os ydych dros 55 oed ac yn optio allan o dalu cyfraniadau, ni allwch dderbyn eich pensiwn ar unwaith. Mae’n rhaid i chi adael y swydd yr ydych wedi optio allan ohoni yn gyntaf, oni bai eich bod yn 75 oed.

Os ydych yn ymddeol yn gynnar, bydd eich buddion yn cael eu gostwng fesul canran ar gyfer pob blwyddyn cyn oedran ymddeol arferol:

Y Nifer o Flynyddoedd a Dalwyd yn GynnarGostyngiad i’r Pensiwn BlynyddolGostyngiad i’r Cyfandaliad Awtomatig
0 0% 0%
1 4.9% 1.7%
2 9.3% 3.3%
3 13.5% 4.9%
4 17.4% 6.5%
5 20.9% 8.1%
6 24.3% 9.6%
7 27.4% 11.1%
8 30.3% 12.6%
9 33.0% 14.1%
10 35.6% 15.5%
11 39.5% Amh
12 41.8% Amh
13 43.9% Amh

Rheol 85: Os ydych yn gymwys am Reol 85 ac yn ymddeol yn gynnar, ni fydd ychydig o’ch pensiwn yn cael ei ostwng.

Dim ond os oeddech chi’n talu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Hydref 2006 y byddwch yn gymwys am Reol 85. Byddwch yn bodloni Rheol 85 os yw:

Eich oed pan rydych yn cymryd eich buddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
+
Y nifer o flynyddoedd rydych wedi talu cyfraniadau pensiwn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
=
85 neu fwy

Os ydych yn bodloni Rheol 85 fe fydd yn dod yn weithredol yn awtomatig os ydych yn cychwyn eich pensiwn o 60 oed.

Os ydych yn bodloni Rheol 85 ac eisiau cymryd eich pensiwn cyn eich bod yn 60 oed, mae’n rhaid i chi gael caniatâd eich cyflogwr iddo ddod yn weithredol. Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi caniatâd fe allwch barhau i gymryd eich pensiwn ond fe fydd yn is na phe bai Rheol 85 wedi bod yn weithredol.

Mae Rheol 85 yn gweithio fel hyn:

Dyddiad GeniPensiwn a gronnwyd ar neu cyn 31 Mawrth 2008Pensiwn a gronnwyd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2016Pensiwn a gronnwyd rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2020Pensiwn a gronnwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020
Rhwng 1 Ebrill 1956 a 31 Mawrth 1960. Heb ei ostwng Taprog: hynny yw wedi ei ostwng yn rhannol ar raddfa symudol Taprog Wedi ei ostwng yn llawn
Ar neu ar ôl 1 Ebrill 1960 Heb ei ostwng Wedi ei ostwng yn llawn Wedi ei ostwng yn llawn Wedi ei ostwng yn llawn

Amddiffyn cyflog: I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i’r dudalen cyfrifo eich pensiwn ar ein gwefan.

Tanategiad McCloud: I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â hyn ewch i dudalen unioni McCloud ar ein gwefan.