Talu cyfraniadau ychwanegol

Os ydych chi eisiau talu cyfraniadau ychwanegol i hybu gwerth eich pensiwn pan rydych chi’n ymddeol mae yna ddwy ffordd o wneud hyn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol:

  • Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol
  • Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol

Mae Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn gynilion tymor hir na allwch ond eu cymryd pan fyddwch yn ymddeol. Maent yn ddull hyblyg o dalu cyfraniadau ychwanegol gan y gallwch eu cynyddu, eu lleihau, eu hatal neu eu hail gychwyn ar unrhyw adeg.

Fel eich cyfraniadau safonol, fe ddaw Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol o’ch cyflog cyn treth. Felly os ydych yn drethdalwr 20% ac eisiau rhoi £100 i mewn i’ch cronfa CGY bob mis, dim ond £80 fydd angen i chi dalu, gan y bydd yr £20 sy’n weddill yn dod o’ch rhyddhad treth.

Fe fyddwch yn dewis faint rydych eisiau ei dalu i’ch pot CGY a sut i’w fuddsoddi gyda’n darparwr, Prudential. Pan fyddwch yn ymddeol rydych wedyn yn ei ddefnyddio i’w:

  • gymryd o bosibl i gyd fel arian di-dreth, neu
  • ei ddefnyddio i gynyddu eich pensiwn blynyddol, neu
  • cymryd ychydig ohono fel arian di-dreth a defnyddio’r gweddill i gynyddu eich pensiwn blynyddol.

Os ydych chi’n dechrau cymryd eich pensiwn cyn yr oed ymddeol arferol, bydd eich prif bensiwn ac unrhyw bensiwn ychwanegol rydych wedi ei brynu drwy Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol yn cael ei ostwng ar gyfer ei dalu’n gynnar.

Os ydych yn sefydlu CGY nad yw yn CGY lle rhennir y gost, cysylltwch â Prudential: www.pru.co.uk/localgov (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) neu ffoniwch 0345 6000 343. Dywedwch wrthynt eich bod yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol drwy Gronfa Bensiynau Clwyd ac fe fyddant yn eich helpu chi i sefydlu cyfrif CGY wedi ei gysylltu â’r pensiwn sydd gennych chi gyda ni.

Os ydych yn marw yn y swydd, bydd eich cronfa CGY yn daladwy i’r buddiolwyr ar eich ffurflen mynegi dymuniad fel grant marwolaeth ychwanegol. Os nad ydych wedi mynegi dymuniad, bydd y grant marwolaeth yn mynd i’ch ystâd.

Bydd rhai cyflogwyr yn talu i’ch pot CGY gyda chi os ydych yn cymryd rhan mewn cynllun aberthu cyflog; hynny yw cytundeb lle bydd eich cyflogwr yn talu cyfraniadau ar eich rhan a bydd y ddau ohonoch yn arbed ar yswiriant gwladol.

Gelwir y dewis hwn yn rhannu cost CGY. Bydd angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr i weld os ydynt yn cynnig cynllun rhannu cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol gan eu bod yn cael eu sefydlu’n wahanol. Bydd eich cyflogwr yn egluro beth i’w wneud a sut i ddechrau aberthu ychydig o’ch cyflog i sefydlu un.

Mae CPY yn eich galluogi i brynu cyfanswm ychwanegol o bensiwn blynyddol yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Y swm mwyaf y gallwch gynyddu eich pensiwn ar oed ymddeol ar hyn o bryd yw £8,903 y flwyddyn (ffigwr 2025/2026). Gallwch ddewis prynu’r pensiwn ychwanegol drwy wneud cyfandaliad untro neu drwy ledaenu’r gost dros nifer penodol o flynyddoedd llawn.

IOs ydych yn lledaenu’r gost, bydd y Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol yn dod o’ch cyflog yn yr un ffordd â’ch cyfraniadau pensiwn safonol, felly bydd unrhyw ryddhad treth yn berthnasol i’r CPY yn ogystal. Os ydych yn penderfynu rhoi’r gorau i dalu CPY cyn diwedd y contract y cytunwyd arno, dim ond y swm ychwanegol o bensiwn yr ydych wedi talu amdano hyd at y pwynt hwnnw y byddwch yn ei dderbyn.

Os ydych yn hytrach na hynny yn talu drwy wneud cyfandaliad untro:

  • Bydd y cyfraniadau ychwanegol yn gallu cael eu cymryd o’ch cyflog; neu
  • Gallwch wneud taliad yn uniongyrchol i Gronfa Bensiynau Clwyd.

Os ydych yn talu’n uniongyrchol i’r Gronfa, fe fydd angen i chi siarad â Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi i drefnu i’r rhyddhad treth perthnasol gael ei dalu yn ôl i chi, gan na all Cronfa Bensiynau Clwyd wneud hyn.

Bydd unrhyw bensiwn ychwanegol rydych yn ei brynu gyda’ch Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol yn daladwy pan fyddwch yn ymddeol, gyda’ch pensiwn blynyddol, am oes. Os ydych yn dechrau cymryd eich pensiwn cyn oed ymddeol arferol, bydd eich prif bensiwn a’r pensiwn ychwanegol rydych wedi ei brynu drwy’r Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol yn cael eu gostwng ar gyfer taliad cynnar.

Dim ond cynyddu eich pensiwn eich hun mae Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol. Nid ydynt yn cynyddu gwerth pensiwn eich partner os ydych chi’n marw o’u blaenau.

Gallwch weld faint bydd angen i chi ei dalu mewn Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol i gynyddu eich pensiwn yn ôl y swm yr ydych yn ei ddymuno drwy ddefnyddio ein cyfrifiannell ar-lein. Teipiwch eich manylion er mwyn cael eich dyfynbris:

Cyfrifiannell CPY (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

Cyn y gallwch ddechrau talu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol fe fydd angen i chi gael tystysgrif feddygol wedi ei llofnodi gan eich meddyg, y bydd rhaid i chi dalu amdani eich hun, i gadarnhau eich bod yn rhesymol iach.

Mae gan gyflogwyr ddisgresiwn i dalu Cyfraniadau Pensiwn Ychwanegol gyda chi, er nad yw llawer yn gwneud hynny. Bydd angen i chi wirio gyda’ch cyflogwr a yw hyn yn rhywbeth maent yn ei wneud.

Os ydych i ffwrdd o’r gwaith yn yr hirdymor, fe ddylech siarad gyda’ch cyflogwr neu Gronfa Bensiynau Clwyd ynglŷn â sut bydd hyn yn effeithio unrhyw gyfraniadau ychwanegol rydych yn eu talu.

Roedd trefniadau cynharach ar gyfer talu cyfraniadau ychwanegol mewn grym cyn 1 Ebrill 2014:

  • Blynyddoedd ychwanegol, lle gallech brynu aelodaeth ychwanegol; a
  • Chyfraniadau Rheolaidd Ychwanegol (CRhY), lle gallech brynu pensiwn blynyddol ychwanegol.

Os oes gennych chi unrhyw un o’r rhain, fe fyddwn yn parhau i drefnu i chi dderbyn y buddion hyn pan fyddwch yn ymddeol. Ond ni allwch sefydlu blynyddoedd ychwanegol na threfniadau CRhY newydd.