Ailymuno â’r CPLlL fel Cynghorydd
Os buoch chi’n gynghorydd yn y gorffennol ac wedi’ch ethol unwaith eto, efallai y bydd modd ichi gyfuno eich pensiwn Cynghorydd blaenorol â’r un newydd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. I wneud hynny mae’n rhaid:
- Bod y naill bensiwn a’r llall yn bensiynau Cynghorydd yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac wedi’u gweinyddu gan Gronfa Bensiynau Clwyd
- Eich bod yn gofyn i gyfuno pensiynau cyn pen deuddeg mis wedi ailymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd.
Mae’ch cyngor yn rhydd i ymestyn y terfyn amser hwn, ond nid oes unrhyw reidrwydd arno i wneud hynny.
Ailymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd ar ôl optio allan
Efallai bod gennych bensiwn gohiriedig â ni wedi ichi optio allan o dalu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol tra’r oeddech chi’n dal yn Gynghorydd.
Os ydych chi wedi optio allan unwaith, gallwch optio’n ôl i mewn i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd ar unrhyw adeg os ydych yn dal yn gynghorydd ac yn iau na 75 oed.
Os ydych chi wedi optio allan o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd ddwywaith (neu fwy), ni chewch ailymuno ond os yw’ch cyngor yn cytuno, oni bai eich bod yn optio yn ôl i mewn i’r cynllun cyn pen tri mis ar ôl dechrau mewn cyngor newydd yng Nghymru.
Gallwch ofyn i’ch cyngor am ei bolisi yn hyn o beth.