Eich cyfraniadau pensiwn
Cynghorwr CPLlL
Fel aelod o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, neu Gynghorydd CPLlL, mae eich cyfraniadau pensiwn yn dod allan o’ch ffioedd cyn i unrhyw dreth gael ei dynnu. Eich cyfraniad yw 6% o’r ffioedd yr ydych yn eu derbyn.
Beth yw taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel?
Bydd y rhan fwyaf o aelodau yn cael rhyddhad treth yn awtomatig ar eu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, nid yw rhai aelodau sydd ar incwm isel yn cael y rhyddhad treth hwn oherwydd bod eu henillon yn rhy isel i dalu treth incwm.
Mae taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel wedi ei gyflwyno i ddatrys hyn. Mae’n daliad i unigolion cymwys sydd ar incwm isel sy’n gyfwerth â’r rhyddhad treth sydd ar gael i aelodau cynlluniau pensiwn, sy’n defnyddio dull gwahanol o roi rhyddhad treth pensiwn.
A allaf fod yn gymwys?
Gallech fod yn gymwys i gael taliad os, o flwyddyn dreth 2024/2025 ymlaen, rydych wedi:
- talu cyfraniadau i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn gweithle arall sy’n defnyddio trefniant tâl net, a
- ni chawsoch ryddhad treth ar y cyfraniadau hynny oherwydd nad oeddech yn talu treth incwm
Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cadarnhau’r cymhwysedd ar gyfer bob blwyddyn dreth ar wahân, felly gall rhai unigolion fod yn gymwys ar gyfer taliadau am fwy nag un flwyddyn.
Oes angen i mi wneud cais?
Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys, bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Byddant naill ai’n ysgrifennu at unigolion cymwys neu’n cysylltu â nhw trwy eu Cyfrif Treth Personol o fis Awst 2026 ymlaen.
Byddwch yn wyliadwrus o dwyll
Gan y bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu â phobl ynglŷn ag arian a allai fod yn ddyledus iddynt, gall twyllwyr geisio cymryd mantais o’r sefyllfa.
Cofiwch:
- Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian iddynt i gael taliad
- Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi byth yn gofyn am eich rhifau PIN neu gyfrineiriau
Os ydych yn ansicr os yw neges yn un ddilys, gallwch glicio ar Gwirio a yw e-bost rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys. Bydd y testun ‘taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel’ yn cael ei gynnwys ar y rhestr o fis Awst 2026.
Cyfraniadau pensiwn y Cyngor
Yn ogystal â’ch cyfraniadau chi, mae eich cyngor hefyd yn cyfrannu er mwyn sicrhau bod digon o arian i dalu eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.
Bob tair blynedd, mae ein Hactiwari’n cyfrifo beth ddylai canran cyfraniadau eich Cyngor fod.