Mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar gyfer Cymru a Lloegr yn bensiwn galwedigaethol ac mae’n cael ei redeg gan sawl Cronfa CPLlL ar draws Cymru a Lloegr. Mae Cronfa Bensiwn Clwyd yn gyfrifol am Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. Cyngor Sir y Fflint yw gweinyddwr Cronfa Bensiwn Clwyd.
Rydym yn gofalu am dros 53,000 o bensiynau ar gyfer aelodau’r cynllun:
- sydd ar hyn o bryd yn talu cyfraniadau CPLlL ac yn adeiladu buddion, neu
- nad ydynt bellach yn talu cyfraniadau CPLlL ond yn dechrau eu pensiwn ar ddyddiad arall, neu
- eisoes yn derbyn eu pensiwn gennym ni.
Ar hyn o bryd rydym yn talu dros £125,000,000 mewn pensiynau CPLlL bob blwyddyn.
Rydym yn rheoli’r gronfa yn unol â rheolau CPLlL a chyfreithiau pensiwn eraill, a wneir fel arfer gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi a Thrysorlys Ei Fawrhydi.
Rydym hefyd yn gyfrifol am fuddsoddi cyfraniadau pensiwn, a ddefnyddir i dalu pensiynau aelodau sydd wedi ymddeol.
Rydym yn gweinyddu dwy fersiwn wahanol o’r CPLlL:
CPLlL
Prif fersiwn y CPLlL yw’r un a ddefnyddir gan sefydliadau fel Cynghorau Sir, Cynghorau Bwrdeistref Sirol, Cynghorau Tref a Chymuned, colegau, prifysgolion a sefydliadau heb fod yn rhai llywodraeth leol sydd â chytundeb i gymryd rhan yn y CPLlL.
Os ydych yn gweithio i un o’r sefydliadau hyn ac wedi cael gwybod mai CPLlL yw eich cynllun pensiwn galwedigaethol, gallwch ddod o hyd i fwy yn adran Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) ar ein gwefan.
Sylwch nad yw staff sector cyhoeddus eraill megis Athrawon, Swyddogion Heddlu, Diffoddwyr Tân, staff y GIG a staff y Farnwriaeth yn perthyn i’r CPLlL. Mae ganddyn nhw eu cynlluniau pensiwn eu hunain.
CPLlL Cynghorwyr
Dim ond i Gynghorwyr Cyngor sir neu Gyngor Bwrdeistref Sirol yng Nghymru y mae’r CPLlL Cynghorwyr ar gael. Mae’n rhaid i Gynghorwyr optio i mewn i’w fersiwn nhw o’r CPLlL er mwyn talu cyfraniadau pensiwn a chronni pensiwn. Rydym hefyd yn rheoli’r cynllun pensiwn hwn ar gyfer Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
I ddysgu mwy am y cynllun hwn ewch i’r adran Cynllun Cynghorwyr ar ein gwefan.