Trosglwyddo pensiynau

Pan fyddwch yn ymuno â Chronfa Bensiynau Clwyd cewch 12 mis i ddechrau trosglwyddo unrhyw bensiynau blaenorol. Mae gan eich cyflogwr ddisgresiwn i ymestyn y dyddiad cau hwn, ond does dim rhaid iddynt wneud hynny.

Yn gyntaf, dylech lenwi Ffurflen Awdurdodi Trosglwyddiad ar gyfer pob pensiwn yr ydych eisiau eu trosglwyddo atom. Gallwch weld y ffurflen yn yr adran ffurflenni ac adnoddau ar ein gwefan. Mae’n rhaid i chi lofnodi’r ffurflen â llaw, gan na ellir derbyn llofnodion electronig.

Bydd derbyn eich ffurflen wedi’i llofnodi yn ein caniatáu i siarad â’ch darparwyr pensiwn eraill a gofyn iddynt am werth trosglwyddo’r pensiwn sydd gennych gyda hwy. Wedi i ni gael y gwerth, gallwn roi gwybod i chi faint o bensiwn blynyddol y byddai’n ei brynu i chi yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).

Yna bydd rhaid i chi lenwi rywfaint o waith papur i ni os ydych eisiau bwrw ymlaen â hyn.

Byddwn wedyn yn holi eich cyn-ddarparwr pensiwn i dalu’r gwerth trosglwyddo i ni. Ar ôl i hyn ddigwydd, ni fydd gennych unrhyw hawliad at fuddion pensiwn gyda’ch cyn-ddarparwr pensiwn. Yn hytrach bydd y pensiwn yn rhan o fuddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda Chronfa Bensiynau Clwyd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y trosglwyddiad wedi’i gwblhau.

Cofiwch nad oes rhaid i chi barhau gyda’r trosglwyddiad os nad ydych yn teimlo mai hwn yw’r dewis gorau i chi.

Gallwch ond trosglwyddo eich buddion pensiwn i gynllun pensiwn arall os ydych wedi stopio talu cyfraniadau i Gronfa Bensiynau Clwyd. Y prif fathau o drosglwyddo allan yw:

  • Cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall
  • cynllun pensiwn sector cyhoeddus arall (er enghraifft, Athrawon, GIG)
  • cynllun pensiwn personol neu breifat

Os ydych eisiau trosglwyddo allan, mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf 12 mis cyn eich oedran ymddeol arferol yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Eich oedran ymddeol arferol yw naill ai eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65 oed, pa un bynnag yw’r hynaf.

Dyma’r camau tuag at drefnu trosglwyddiad:

  1. Gwiriwch gyda’ch darparwr pensiwn newydd y byddant yn derbyn trosglwyddiadau a’ch bod o fewn unrhyw ddyddiad cau sydd ganddynt ar gyfer eu derbyn.
  2. Os felly, rhowch wybod i’ch darparwr pensiwn newydd i gysylltu â Chronfa Bensiynau Clwyd ar eich rhan, i gael dyfynbris trosglwyddo. Efallai bod ganddynt broses ar-lein neu ffurflen i chi wneud hyn.
  3. Byddwn yn cyfrifo’r dyfynbris ac yn ei roi i’ch darparwr pensiwn newydd. Byddant hwy yn rhoi gwybod i chi pa fuddion pensiwn y byddai’r trosglwyddiad yn ei brynu yn eu cynllun.

Bydd ein dyfynbris trosglwyddo yn cael ei warantu am dri mis: hynny yw, os yw tri mis wedi mynd heibio cyn i chi wneud y trosglwyddiad, bydd arnoch angen dyfynbris newydd cyn bwrw ymlaen yn ddiweddarach.

Os ydych yn ystyried a ddylech drosglwyddo ai peidio, gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl wybodaeth yr ydych eu hangen am y ddau gynllun pensiwn i’w cymharu:

  • beth yw gwerth eich pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • beth fyddai gwerth eich pensiwn yn y cynllun newydd os byddwch yn trosglwyddo

Wrth gymharu’r ddau ffigur, cofiwch bydd eich pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cael cynyddiadau mewn costau byw.

Cofiwch nad yw gofyn am ddyfynbris yn golygu bod rhaid i chi fwrw ymlaen gyda’r trosglwyddiad. Rhowch ystyriaeth i’ch opsiynau’n ofalus, a throsglwyddwch dim ond os ydych yn sicr mai dyma’r cam cywir i chi. Dylech ofyn am gyngor os byddwch ei angen.

Fodd bynnag, os ydych yn trosglwyddo eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda Chronfa Bensiynau Clwyd i ddarparwr pensiwn arall, ni fydd gennych hawl i unrhyw fuddion Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn y dyfodol ar eich cyfer chi, eich partner neu unrhyw blant.

Nid yw trosglwyddo eich pensiwn bob amser yn ddewis hawdd i wneud. Efallai byddwch angen ceisio cyngor yn gyntaf.

Ni all unrhyw un sydd yn ymwneud â Chronfa Bensiynau Clwyd roi cyngor personol ac ariannol i chi: mae’n rhaid i chi siarad ag ymgynghorydd ariannol cymwys, awdurdodedig ac annibynnol.

Mae cael cyngor ariannol yn bwysig iawn os ydych yn ystyried trosglwyddo eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol i gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn budd-ddeiliaid, polisi yswiriant prynu allan, neu i gynllun prynu arian. Mae hyn oherwydd bod y mathau hyn o gynlluniau yn cynnwys risg buddsoddi, a allai leihau gwerth eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Sylwch:Os yw gwerth trosglwyddo eich pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn fwy na £30,000, mae’n rhaid i chi gael cyngor ariannol annibynnol yn ôl y gyfraith cyn y gallwch ei drosglwyddo i gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr y gallwch weld y rhybuddion am dwyll pensiynau. Mae rhai tactegau’r twyllwyr yn cynnwys:

  • Cynnig adolygiadau pensiwn neu wiriadau iechyd am ddim
  • Gaddo gwell enillion ar arbedion
  • Awgrymu eich bod yn tynnu eich buddion pensiwn cyn i chi droi’n 55 oed
  • Hyrwyddo bylchau treth, benthyciadau pensiwn neu arian parod
  • Eich gorfodi i weithredu’n gyflym i derfynau amser tynn neu gynigion unwaith yn unig.
  • Cysylltu â chi’n annisgwyl.

Yn benodol, mae galw di-wahoddiad ynghylch pensiynau yn erbyn y gyfraith. Ni ddylai unrhyw gwmni gysylltu â chi ynghylch eich pensiwn oni bai eich bod wedi gofyn iddynt wneud.

Unwaith y byddwch wedi trosglwyddo eich pensiwn i gronfa dwyllodrus yna bydd hi’n rhy hwyr. Gallech golli eich holl arbedion pensiwn. Mewn rhai achosion, efallai byddwch yn wynebu bil treth sy’n 55% o werth y pensiwn yr ydych wedi’i drosglwyddo.

I wneud yn siŵr nad ydych yn cael eich twyllo, dilynwch y pedwar cam syml canlynol:

Cam 1: Gwrthod unrhyw gynigion annisgwyl

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl ynghylch cyfle pensiwn, mae’n debygol ei fod yn risg uchel neu’n dwyll.

Os cewch alwad di-wahoddiad ynghylch eich pensiwn, y peth mwyaf diogel i wneud yw rhoi’r ffôn i lawr. Mae’n anghyfreithlon ac yn debygol iawn o fod yn dwyll. Anwybyddwch unrhyw negeseuon testun neu e-byst annisgwyl. Rhowch wybod am negeuon a galwadau niwsans i’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: ICO (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).

Gwyliwch allan am gynigion i gynnal adolygiadau pensiwn am ddim. Nid yw cyngor proffesiynol am bensiynau am ddim.

Peidiwch â gadael i rywun yr ydych yn ei adnabod, hyd yn oed ffrind neu aelod o’r teulu eich perswadio i wneud unrhyw beth. Efallai eu bod hwy yn cael eu twyllo. Gwiriwch bopeth eich hun.

Cam 2: Gwiriwch pwy rydych yn delio â hwy

Gwiriwch fod unrhyw un sydd yn cynnig cyngor neu wasanaethau ariannol arall ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Golyga hyn bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, neu’r FCA wedi eu hawdurdodi i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Os ydych angen cymorth i wirio, gallwch ffonio llinell gymorth FCA ar 0800 111 6768.

Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw gwmni yr ydych yn ymwneud â hwy yn ffug: sef, eu bod yn honni i fod yn gwmni awdurdodedig gwirioneddol gyda’r FCA. Defnyddiwch fanylion cyswllt y Gofrestr Gwasanaeth Ariannol bob amser, ac nid y manylion y mae’r cwmni yn ei ddarparu.

Gwiriwch enw’r cyfarwyddwyr ac a yw’r cwmni wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) neu beidio. Chwiliwch am enw’r cwmni ac enw’r cyfarwyddwyr i weld a yw eraill wedi lleisio unrhyw bryderon.

Hefyd gallwch wirio’r rhestr rybuddio FCA (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) o gwmnïau i’w hosgoi: maent wedi cael eu riportio yn cynnig gwasanaethau ariannol yn y DU heb gymeradwyaeth gan y FCA.

Cam 3: Peidiwch â chael eich brysio na’ch rhoi dan bwysau

Cymrwch eich amser i wneud yr holl wiriadau yr ydych angen eu gwneud. Byddwch yn wyliadwrus o bensiynau gwerth uwch sydd yn rhy dda i fod yn wir.

Cam 4: Cael gwybodaeth neu gyngor diduedd

Dylech feddwl am gael arweiniad neu gyngor ariannol cyn gwneud unrhyw beth gyda’ch pensiwn.