Y cyfraddau cyfrannu rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027 ar gyfer y brif adran ac adran 50:50 yw:
| Eich cyflog gwirioneddol gros | Cyfradd cyfraniadau ar gyfer y brif adran | Cyfradd cyfraniadau ar gyfer yr adran 50:50 |
| Hyd at £18,400 |
5.50% |
2.75% |
| £18,401 i £29,000 |
5.80% |
2.90% |
| £29,001 i £47,300 |
6.50% |
3.25% |
| £47,301 i £59,800 |
6.80% |
3.40% |
| £59,801 i £84,000 |
8.50% |
4.25% |
| £84,001 i £119,100 |
9.90% |
4.95% |
| £119,101 i £140,400 |
10.50% |
5.25% |
| £140,401 i £210,700 |
11.40% |
5.70% |
| Mwy na £210,701 |
12.50% |
6.25% |
Trwy glicio ar y ddolen isod, gallwch gyfrifo pa gyfraniadau y byddwch chi’n eu talu drwy gofnodi:
- eich cyflog pensiynadwy blynyddol
- amlder eich cyflog; a
- pa unai ydych chi yn y brif adran neu adran 50:50.
Cyfrifiannell Cyfraniadau CPLlL (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)
Beth yw taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel?
Bydd y rhan fwyaf o aelodau yn cael rhyddhad treth yn awtomatig ar eu cyfraniadau pensiwn. Fodd bynnag, nid yw rhai aelodau sydd ar incwm isel yn cael y rhyddhad treth hwn oherwydd bod eu henillon yn rhy isel i dalu treth incwm.
Mae taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel wedi ei gyflwyno i ddatrys hyn. Mae’n daliad i unigolion cymwys sydd ar incwm isel sy’n gyfwerth â’r rhyddhad treth sydd ar gael i aelodau cynlluniau pensiwn, sy’n defnyddio dull gwahanol o roi rhyddhad treth pensiwn.
A allaf fod yn gymwys?
Gallech fod yn gymwys i gael taliad os, o flwyddyn dreth 2024/2025 ymlaen, rydych wedi:
- talu cyfraniadau i Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu gynllun pensiwn gweithle arall sy’n defnyddio trefniant tâl net, a
- ni chawsoch ryddhad treth ar y cyfraniadau hynny oherwydd nad oeddech yn talu treth incwm
Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cadarnhau’r cymhwysedd ar gyfer bob blwyddyn dreth ar wahân, felly gall rhai unigolion fod yn gymwys ar gyfer taliadau am fwy nag un flwyddyn.
Oes angen i mi wneud cais?
Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys, bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Byddant naill ai’n ysgrifennu at unigolion cymwys neu’n cysylltu â nhw trwy eu Cyfrif Treth Personol o fis Awst 2026 ymlaen.
Byddwch yn wyliadwrus o dwyll
Gan y bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn cysylltu â phobl ynglŷn ag arian a allai fod yn ddyledus iddynt, gall twyllwyr geisio cymryd mantais o’r sefyllfa.
Cofiwch:
- Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi byth yn gofyn i chi drosglwyddo arian iddynt i gael taliad
- Ni fydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi byth yn gofyn am eich rhifau PIN neu gyfrineiriau
Os ydych yn ansicr os yw neges yn un ddilys, gallwch glicio ar Gwirio a yw e-bost rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys. Bydd y testun ‘taliad pensiwn i rai sydd ar incwm isel’ yn cael ei gynnwys ar y rhestr o fis Awst 2026.