Lwfans Blynyddol

Eich lwfans blynyddol yw'r swm y gall eich cynilion pensiwn gynyddu o fewn blwyddyn dreth heb i chi orfod talu tâl treth. Os yw gwerth eich cynilion pensiwn o 6 Ebrill i 5 Ebrill yn fwy na’ch lwfans blynyddol, bydd yr hyn sydd uwchlaw’r terfyn yn cael ei drethu fel incwm.

O 6 Ebrill 2023 fe newidiodd y lwfans blynyddol safonol o £40,000 i £60,000. O ganlyniad nid yw’n effeithio ar y rhan fwyaf o aelodau’r cynllun pensiwn.

Nid yw Cronfa Bensiynau Clwyd yn gwirio eich pensiwn gohiriedig gyda ni yn erbyn y lwfans blynyddol gan nad ydych yn talu cyfraniadau pensiwn iddo mwyach. Fodd bynnag os ydych yn talu i gynllun pensiwn arall, bydd eich darparwr pensiwn presennol yn gwneud gwiriadau lwfans blynyddol ar y pensiwn sydd gennych chi gyda nhw.

Er na fyddwch o bosibl yn mynd dros eich lwfans blynyddol gyda’ch darparwr pensiwn presennol, mae angen i chi gymryd eich holl bensiynau i ystyriaeth, gan gynnwys yr un gyda ni, i weld a ydych wedi mynd dros y lwfans blynyddol.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfrifo eich lwfans blynyddol, lawrlwythwch ein taflen ffeithiau Trethu Pensiynau: Lwfans Blynyddol o’r adran ffurflenni ac adnoddau ar ein gwefan.

Os hoffech chi wirio eich lwfans blynyddol, fe allwch ddefnyddio’r Adnodd i Wirio Lwfans Blynyddol yn Gyflym (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Darllenwch y cyfarwyddiadau cyn defnyddio’r adnodd.