Buddion marwolaeth

Mae’r buddion marw yn y swydd yn berthnasol i chi o’r diwrnod cyntaf rydych yn talu cyfraniadau pensiwn. Os ydych yn marw yn y swydd cyn eich bod yn 75 oed a’ch bod yn parhau i dalu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae cyfanswm sydd deirgwaith eich cyflog pensiynadwy tybiedig yn daladwy fel grant marwolaeth.

Os ydych chi wedi talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae gwerth eich cronfa CGY hefyd yn daladwy.

Mae’n rhaid i unrhyw grant marwolaeth gymryd i ystyriaeth os oes gennych chi unrhyw bensiynau eraill mewn Cronfeydd eraill o dan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Fe fyddwn yn gwirio gyda Chronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru a Lloegr i weld os oes gennych chi:

  • Unrhyw gyfrifon pensiwn wedi eu gohirio gyda nhw: hynny yw nad oeddech yn talu cyfraniadau’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol mwyach ond nad ydych yn derbyn taliadau pensiwn eto.
  • Unrhyw gyfrifon pensiynwr gyda nhw: hynny yw roeddech yn derbyn taliadau pensiwn gan y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Bydd y grant a fydd yn daladwy wedyn yr uchaf o’r isod:

  • Y swm marw yn y swydd a fyddai deirgwaith eich cyflog pensiynadwy tybiedig a hefyd gwerth unrhyw Gyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol; neu
  • Gyfanswm y buddion marwolaeth o’ch cyfrifon gohiriedig neu bensiynwr yng nghronfeydd eraill y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Cyflog Pensiynadwy Tybiedig

Mae’r grant marwolaeth wedi ei seilio ar deirgwaith eich cyflog pensiynadwy tybiedig, fel y dangosir yn yr enghraifft hon.

Mae aelod yn marw yn y swydd ar 10 Gorffennaf. Mae eu cyflogwr yn cyfrifo eu cyflog pensiynadwy tybiedig fel y cyfartaledd o’r tri mis cyfan o gyflog pensiynadwy yr oeddent wedi ei dderbyn cyn eu marwolaeth. Os ydych yn cael eich talu’n wythnosol, fe fydd wedi ei seilio ar y 12 wythnos diwethaf.

Caiff yr aelod ei dalu’n fisol, ac fe dderbyniodd y cyflog llawn canlynol ym misoedd Ebrill, Mai a Mehefin:

  • Cyflog pensiynadwy mis Ebrill = £1,600
  • Cyflog pensiynadwy mis Mai = £1,600
  • Cyflog pensiynadwy mis Mehefin = £1,800

Cyfartaledd y tri mis hwn yw:

£1,600 + £1,600 + £1,800 = £5,000

£5,000 ÷ 3 = £1,666.67 cyfartaledd pob mis

Lluosi hyn gyda 12 mis i roi’r cyflog pensiynadwy tybiedig blynyddol:

£1,666.67 x 12 = £20,000.04 cyflog pensiynadwy tybiedig

Byddai’r grant marwolaeth wedyn yn 3 x £20,000.04 = £60,000.12

Os oes yna feddyg annibynnol yn cadarnhau eich bod yn gweithio llai o oriau o ganlyniad i afiechyd a arweiniodd at eich marwolaeth, byddai unrhyw gyflog pensiynadwy tybiedig a seiliwyd ar y cyfnod hwnnw yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r cyflog y byddech wedi ei dderbyn pe baech wedi bod yn gweithio eich oriau arferol.

Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd ddisgresiwn ynglŷn â phwy ddylai dderbyn y grant marwolaeth. Os ydych yn llenwi ffurflen mynegi dymuniad yn enwi eich buddiolwyr, mae hyn o gymorth i ni i dalu’r grant marwolaeth i’r bobl gywir.

Fe allant fod yn un neu fwy o aelodau’r teulu, ffrindiau neu elusennau.

Gallwch ddiweddaru eich buddiolwyr drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Aelodau.

Neu gallwch lawrlwytho ffurflen Mynegi Dymuniad o’n gwefan.

Os ydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, bydd eich partner yn derbyn pensiwn partner sy’n fyw yn awtomatig os ydych yn marw o’u blaenau. Fe fydd angen iddynt anfon copi i ni o’r dystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil a llenwi rhai ffurflenni hawlio.

Os ydych yn byw gyda’ch partner ond erioed wedi priodi nac wedi ffurfio partneriaeth sifil gyda nhw, maent yn cael eu hadnabod fel eich partner sy’n cyd-fyw. Mae’n bosibl y byddant yn gymwys i dderbyn pensiwn partner adeg eich marwolaeth. Byddai’r pensiwn hwn wedi ei seilio ar eich aelodaeth o’r cynllun pensiwn o 6 Ebrill 1988 yn unig oni bai eich bod wedi dewis cyn 1af o Ebrill 2014 i dalu cyfraniadau ychwanegol am aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988 i gyfrif.

Mae’n rhaid i’ch partner sy’n cyd-fyw fod wedi bodloni’r holl amodau hyn am o leiaf 2 flynedd cyn eich marwolaeth i fod yn gymwys:

  • Mae’r ddau ohonoch wedi bod yn rhydd i briodi neu i ffurfio partneriaeth sifil gyda’ch gilydd
  • Rydych wedi byw gyda’ch gilydd fel gŵr a gwraig neu fel partneriaid sifil cofrestredig
  • Nid ydych chi na’ch partner wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel pe baech yn ŵr a gwraig neu’n bartneriaid sifil gyda’r unigolyn arall hwnnw
  • Mae eich partner yn dibynnu arnoch chi yn ariannol, neu ar eich incwm ar y cyd, i gefnogi eich safon byw

Gallai prawf o’r amodau hyn fod yn waith papur yn dangos eich bod wedi bod yn byw mewn aelwyd lle rhennir y gwariant, neu fod gennych chi gyfrif banc neu forgais ar y cyd.

Mae pensiwn partner sy’n fyw yn ganran o’ch pensiwn ac yn daladwy am weddill eu hoes. Dyma yw hyn yn gyffredinol:

  • 30.625% o’r pensiwn rydych wedi ei gronni o Ebrill 2014
  • 37.50% o’r pensiwn rydych wedi ei gronni rhwng Ebrill 2008 a Mawrth 2014
  • 50% pensiwn rydych wedi ei gronni cyn Ebrill 2008

Os ydych yn marw yn y swydd, fe fydd y pensiwn yn cynnwys rhan o’r cynnydd y byddech wedi ei dderbyn pe baech wedi ymddeol o ganlyniad i afiechyd.

Nid yw rhai rhannau o’ch pensiwn yn cyfrif tuag at bensiwn partner sy’n fyw. Gallai’r rhain gynnwys:

  • rhai cyfnodau o’ch gwasanaeth pensiynadwy
  • pensiwn ychwanegol rydych wedi ei gronni drwy dalu cyfraniadau ychwanegol

Fe all pensiwn y partner sy’n fyw fod yn is os ydych yn priodi neu’n ffurfio partneriaeth sifil wedi i chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

I fod yn gymwys am bensiwn plentyn, mae’n rhaid i’r plentyn fod:

  • Yn blentyn naturiol wedi ei eni cyn, ar neu o fewn 12 mis i farwolaeth aelod
  • Yn blentyn wedi’i fabwysiadu sydd wedi ei eni cyn neu ar ddyddiad marwolaeth yr aelod
  • Yn llysblentyn neu blentyn a dderbyniwyd gan yr aelod a fu farw fel aelod o’r teulu a oedd yn ddibynnol ar yr aelod adeg eu marwolaeth

Nid yw plentyn a noddwyd gan yr aelod drwy elusen gofrestredig yn blentyn cymwys.

Mae’n rhaid iddynt hefyd fod:

  • O dan 18 oed, neu
  • O dan 23 oed ac mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol, neu
  • Unrhyw oed ac nad ydynt yn gallu gweithio o ganlyniad i amhariad corfforol neu feddyliol parhaol ac, o ganlyniad, yn ddibynnol ar yr aelod ar adeg eu marwolaeth. Rhaid i feddyg annibynnol gynghori ar p’un ai yw’r amhariad yn debygol o fod yn barhaol

I’r diben hwn, mae gwaith yn golygu gwaith cyflogedig am o leiaf 30 awr yr wythnos, dros flwyddyn o leiaf.

Mae plant yn derbyn rhan o’ch pensiwn. Bydd y swm yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych chi a ph’un ai yw eich partner yn derbyn pensiwn hefyd.