Cyfrifo’ch pensiwn Cynghorydd

Cynghorwr CPLlL

Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau pensiwn am dri mis neu fwy i gael budd pensiwn yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, neu’r CPLlL i Gynghorwyr.

Mae’r CPLlL i Gynghorwyr yn gynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio. Golyga hyn nad yw gwerth eich pensiwn wedi’i seilio ar y cyfraniadau pensiwn yr ydych chi’n eu talu.

Mae eich buddion pensiwn yn seiliedig ar:

  • Gyfradd gronni o 1/80,
  • Cyflog cyfartalog eich gyrfa, a
  • Chyfanswm eich aelodaeth yn y CPLlL i Gynghorwyr

Yn yr enghraifft hon, mae’r Cynghorydd wedi bod yn aelod o’r CPLlL i Gynghorwyr ers 5 mlynedd. Mae cyflog cyfartalog eu gyrfa yn seiliedig ar yr holl ffioedd neu gyflog y maen nhw wedi talu cyfraniadau pensiwn ar eu cyfer, yn ogystal â chynnydd mewn costau byw, yn unol â mesur chwyddiant, sef y Mynegai Prisiau Manwerthu.

Mae cyfnod yr aelodaeth yn dechrau o’r adeg yr ydych chi’n dechrau talu cyfraniadau pensiwn tan y byddwch chi’n rhoi’r gorau i wneud hynny.

Enghraifft

Enillion Blwyddyn 1 £9,400 x cynnydd mewn costau byw 1.12 = £10,528
Enillion Blwyddyn 2 £9,600 x cynnydd mewn costau byw 1.08 = £10,368
Enillion Blwyddyn 3 £9,900 x cynnydd mewn costau byw 1.05 = £10,395
Enillion Blwyddyn 4 £10,400 x cynnydd mewn costau byw 1.02 = £10,608
Enillion Blwyddyn 5 £11,000 x cynnydd mewn costau byw 1.00 = £11,000
  Cyfanswm Cronedig = £52,899
  Cyflog Cyfartalog Gyrfa
(£52,899 ÷ 5 Mlynedd)
= £10,579.80

Pan fydd gennym ni ffigurau ar gyfer cyflog cyfartalog eich gyrfa a’ch aelodaeth, gallwn ni gyfrifo gwerth y pensiwn:

Pensiwn blynyddol

Blynyddoedd a diwrnodau aelodaeth ÷ 80 x cyflog cyfartalog gyrfa

Cyfandaliad di-dreth untro

1/80 pensiwn blynyddol x 3

Enghraifft

Pensiwn blynyddol

5 mlynedd ÷ 80 x £10,579.80 = £661.24 o 1/80 o bensiwn blynyddol

Cyfandaliad di-dreth untro

£661.24 x 3 = £1,983.72

Pan fyddwch chi’n ymddeol, cewch ddewis i newid rhywfaint o’r pensiwn hwn yn gyfandaliad untro ychwanegol. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.

Mae Cyllid a Thollau EF yn rhoi terfyn ar faint o gyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fydd eich pensiwn yn cael ei dalu i chi. Gelwir y terfyn hwn yn lwfans cyfandaliad. Ar hyn o bryd, y cyfandaliad mwyaf yw’r isaf o’r canlynol:

  • 25% o werth cyfalaf eich buddion
  • £268,275*
  • £268,275* yn llai na chyfanswm y cyfandaliadau rydych chi wedi’u cymryd eisoes

*Os oes gennych chi warchodaeth Lwfans Oes ddilys, o bosibl y gallech gymryd cyfandaliad sy’n fwy na £268,275.

Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer, ond os ewch chi dros derfyn y lwfans cyfandaliad, bydd rhaid i chi dalu treth ar y swm uwchlaw’r terfyn ar eich cyfradd ymylol.

Eich lwfans blynyddol yw'r swm y gall gwerth eich buddion pensiwn gynyddu mewn blwyddyn dreth heb i chi orfod talu treth. Os yw gwerth eich cynilion pensiwn chi rhwng 6 Ebrill a 5 Ebrill yn fwy na'ch lwfans blynyddol, bydd y swm dros ben yn cael ei drethu fel incwm.

I gael rhagor o fanylion am lwfans blynyddol, cliciwch yma.