Bwrdd Pensiynau Lleol

Mae gofyn i bob Awdurdod Gweinyddu Pensiwn Llywodraeth Leol sefydlu Bwrdd Pensiwn lleol i'w cynorthwyo i:

  • sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ac unrhyw ddeddfwriaeth arall sy'n ymwneud â llywodraethu a gweinyddu'r Cynllun, a'r gofynion a osodir mewn perthynas â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gan y Rheoleiddiwr Pensiynau
  • sicrhau y caiff y Gronfa Bensiynau ei llywodraethu a’i gweinyddu’n effeithiol ac effeithlon. Nid yw Byrddau Pensiwn o’r fath yn bwyllgorau awdurdod lleol; nid yw Cyfansoddiad Cyngor Sir y Fflint felly fel y cyfryw yn berthnasol i'r Bwrdd Pensiynau oni bai y cyfeirir yn benodol ato ym Mhrotocol y Bwrdd. Sefydlwyd Bwrdd Pensiwn Clwyd gan Gyngor Sir y Fflint ym mis Mawrth 2015, a gellir gweld Protocol llawn y Bwrdd yng Nghyfansoddiad y Cyngor. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mynediad i Gyfansoddiad Sir y Fflint. Gellir gweld Protocol y Bwrdd Pensiwn ar dudalennau 183 o ddogfen Cyfansoddiad Sir y Fflint.

Dogfen Cyfansoddiad Sir y Fflint (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg)

Mae’r Bwrdd Pensiynau yn darparu trosolwg o'r materion a amlinellir uchod. Fodd bynnag, nid yw’r Bwrdd Pensiynau yn gorff sy'n gwneud penderfyniadau o ran rheoli'r Gronfa Bensiynau, ac mae pwerau a chyfrifoldebau rheoli’r Gronfa Bensiynau sydd wedi eu dirprwyo gan y Cyngor i Bwyllgor y Gronfa Bensiynau neu fel arall yn parhau i fod yn bwerau a chyfrifoldebau i’r Pwyllgor hwnnw yn unig, gan gynnwys, ond heb ei gyfyngu i osod a darparu strategaethau’r Gronfa, dyrannu asedau'r Gronfa a phenodi contractwyr, ymgynghorwyr a rheolwyr y gronfa. Mae’r Bwrdd Pensiynau yn gweithredu’n annibynnol o Bwyllgor y Gronfa Bensiynau.

Mae’r Bwrdd Pensiwn yn cynnwys 5 aelod fel a ganlyn:

  • Dau Gynrychiolydd Cyflogwr
  • Dau Gynrychiolydd Aelod y Cynllun, y caiff un ohonynt ei enwebu gan y cyd undebau llafur, ac un sy’n aelod o Gronfa Bensiynau Clwyd
  • Un Aelod Annibynnol sy'n gweithredu fel cadeirydd y Bwrdd Pensiwn.
SwyddEnwHawliau pleidleisio
Cadeirydd Annibynnol Karen McWilliam Na
Cynrychiolydd Cyflogwyr Steve Jackson - Coleg Cambria Oes
Cynrychiolydd Cyflogwyr Richard Weigh - WCBC Oes
Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun Elaine Williams Oes
Cynrychiolydd Aelodau’r Cynllun Tracey Sutton Postlethwaite – Unison Oes

Mae Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Pensiynau wedi’i gynnwys yn Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiynau Clwyd a gellir ei weld drwy’r ddolen ganlynol.

Adroddiad Blynyddol

Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am gynnal a chadw a chywirdeb gwefan Cronfa Bensiynau Clwyd, nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac felly nid yw archwilwyr yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a all ddigwydd yn y datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae cofnodion y Bwrdd Pensiynau yn cael eu cyhoeddi yng nghofnodion Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd a gellir eu gweld drwy’r ddolen ganlynol:

Tudalen We'r Pwyllgor

Mae gan bob aelod o'r Bwrdd Pensiwn, heb gynnwys yr Aelod Annibynnol, hawliau pleidleisio unigol, ond y disgwyl yw y bydd y Bwrdd Pensiwn, cyn belled ag y bo modd, yn dod i gonsensws.

Ystyrir bod cyfarfod y Bwrdd Pensiwn yn gworwm pan fydd o leiaf tri o'r pum aelod yn bresennol, gan gynnwys o leiaf un Cynrychiolydd y Cyflogwr, un Cynrychiolydd Aelod y Cynllun a'r Aelod Annibynnol.

Mae'n ofynnol i Aelodau'r Bwrdd Pensiwn ddatgan, ar benodiad ac ym mhob cyfarfod, unrhyw fuddiannau a allai arwain at wrthdaro buddiannau mewn perthynas â materion y Gronfa Bensiynau neu eitemau ar y rhaglen.

Mae'r Bwrdd Pensiwn yn cyfarfod o leiaf ddwywaith a dim mwy na phedair gwaith ym mhob blwyddyn galendr yn ystod busnes arferol. Gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Prif Weithredwr, er mwyn hwyluso ei waith.

Os byddwch yn dymuno cysylltu â’r Bwrdd defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: Ble byddwch yn dymuno cysylltu ag aelod penodol o’r Bwrdd enwch nhw yn eich e-bost.

bwrddpensiwn@siryfflint.gov.uk