Ar hyn o bryd mae’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gynllun pensiwn ‘Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi’u Hailbrisio’, neu ECGA wedi’i dalfyrru. Yn y cynllun ECGA, byddwch yn cronni pensiwn blynyddol ar gyfer ymddeol.
Pan fyddwch yn ymddeol cewch ddewis i newid rhywfaint o’r pensiwn hwn yn gyfandaliad untro. Am bob £1 o bensiwn blynyddol rydych chi’n ei ildio, fe gewch chi gyfandaliad o £12.
Mae Cyllid a Thollau EF yn rhoi terfyn ar faint o gyfandaliad di-dreth y gallwch ei gymryd pan fydd eich pensiwn yn cael ei dalu i chi. Gelwir y terfyn hwn yn lwfans cyfandaliad. Ar hyn o bryd, y cyfandaliad mwyaf yw’r isaf o’r canlynol:
- 25% o werth cyfalaf eich buddion
- £268,275*
- £268,275* yn llai na chyfanswm y cyfandaliadau rydych chi wedi’u cymryd eisoes
*Os oes gennych chi warchodaeth Lwfans Oes ddilys, o bosibl y gallech gymryd cyfandaliad sy’n fwy na £268,275.
Bydd yn gyfandaliad di-dreth fel arfer, ond os ewch chi dros derfyn y lwfans cyfandaliad, bydd rhaid i chi dalu treth ar y swm uwchlaw’r terfyn ar eich cyfradd ymylol.
Bydd eich cyflogwr yn rhoi gwybod i ni beth yw’r cyflog blynyddol rydych chi wedi talu cyfraniadau pensiwn ar ei gyfer o un mis Ebrill i’r nesaf. Cyflog pensiynadwy yw’r enw am hyn.
- Os ydych yn talu cyfraniadau cyfradd lawn yn y brif adran, bydd y pensiwn a gronnir gennych bob blwyddyn yn 1/49 o’ch cyflog pensiynadwy blynyddol.
- Os ydych yn talu cyfraniadau ar hanner cyfradd yn yr adran 50:50, bydd y pensiwn a gronnir gennych bob blwyddyn yn 1/98 o’ch cyflog pensiynadwy blynyddol.
Yna, bydd eich pensiwn yn cynyddu bob blwyddyn er mwyn helpu i gyd-fynd â chostau byw. Rydym yn seilio’r cynnydd ar fesur chwyddiant, sef Mynegai Prisiau Defnyddwyr (MPD).
Enghraifft o brif adran Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
| Blwyddyn y Cynllun | Pensiwn ar ddechrau’r flwyddyn | Cyflog pensiynadwy gros a chyfradd cronni | Pensiwn (ar gyfer y flwyddyn honno) | Pensiwn (wedi’i gronni hyd yma) | Cynnydd o ran chwyddiant | Pensiwn ar ddiwedd y flwyddyn |
| Blwyddyn 1 |
£0.00 |
£19,600 ÷ 49 |
£400.00 |
£400.00 |
1.20% |
£404.80 |
| Blwyddyn 2 |
£404.80 |
£23,129 ÷ 49 |
£472.02 |
£876.82 |
-0.10% |
£875.94 |
| Blwyddyn 3 |
£875.94 |
£25,000 ÷ 49 |
£510.20 |
£1,386.14 |
1.00% |
£1,400.00 |
Byddwch yn parhau i gronni eich pensiwn fel hyn bob blwyddyn, hyd nes y byddwch naill ai’n ymddeol, yn gadael cyflogaeth neu’n optio allan o dalu cyfraniadau pensiwn.
Sylwch: Os ydych yn gymwys ar gyfer Rhwymedi McCloud, bydd y pensiwn rydych wedi’i gronni rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022 wedi seilio’i ar y gorau o gynllun pensiwn ECGA neu bensiwn cyflog terfynol sy’n 1/60 fel yr eglurir isod.