Buddion Marwolaeth

Os ydych chi’n marw cyn cyrraedd 75 oed a chyn i chi ddechrau derbyn eich pensiwn gohiriedig o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, efallai y byddwn yn talu swm fel grant marwolaeth, fel a ganlyn:

Os gwnaethoch chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL ar neu cyn 31 Mawrth 2008
  • Teirgwaith gwerth eich pensiwn gohiriedig blynyddol; a
  • Chynnydd mewn costau byw
Os gwnaethoch chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008
  • Pum gwaith gwerth eich pensiwn gohiriedig blynyddol; a
  • Chynnydd mewn costau byw

Os ydych chi wedi talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae gwerth eich cronfa CGY hefyd yn daladwy.

Mae’n rhaid i unrhyw grant marwolaeth ystyried a oes gennych chi unrhyw bensiynau eraill mewn Cronfeydd CPLlL eraill. Byddwn yn gwirio gyda Chronfeydd CPLlL eraill yng Nghymru a Lloegr i wirio a oes gennych:

  • Unrhyw gyfrifon pensiynwr â nhw; hynny ydi, eich bod wedi derbyn taliadau pensiwn o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
  • Unrhyw gyfrifon gweithredol gyda nhw: hynny ydi, lle’r ydych yn parhau i dalu cyfraniadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Yna y grant sy’n daladwy fydd yr uchaf o’r:

  • Grant marwolaeth mewn gwasanaeth
  • Cyfanswm y buddion marwolaeth o’ch cyfrifon gohiriedig neu bensiynwr yn y gronfa hon neu gronfa CPLlL arall.

Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd ddisgresiwn o ran pwy ddylai dderbyn y grant marwolaeth. Os byddwch yn llenwi ffurflenni i nodi eich dymuniadau gan enwi eich buddiolwyr, bydd hyn yn ein cynorthwyo i dalu’r grant marwolaeth i’r unigolion cywir.

Gall hyn fod yn un neu fwy o aelodau o’ch teulu, ffrindiau neu elusennau.

Mae modd diweddaru eich buddiolwyr drwy fewngofnodi i’ch cyfrif Hunanwasanaeth Aelodau.

Neu mae modd lawrlwytho Ffurflen Mynegi Dymuniadau o’n gwefan.

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, gall eich partner dderbyn pensiwn goroeswr os ydych yn marw cyn eich partner. Bydd angen iddynt anfon copi o’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil a llenwi ffurflenni hawlio.

Os ydych yn byw gyda’ch partner ond heb briodi na ffurfio partneriaeth sifil gyda nhw, byddant yn cael eu hadnabod fel partner sy’n cydfyw â chi. Os oeddech yn talu cyfraniadau i’r CPLlL ar neu ar ôl 1 Ebrill 2008, gallai eich partner sy’n cydfyw â chi gymhwyso am bensiwn partner ar ôl eich marwolaeth. Byddai’r pensiwn yn seiliedig ar eich aelodaeth pensiwn o’r 6 Ebrill 1988, yn unig oni bai eich bod wedi dewis talu cyfraniadau ychwanegol cyn 1 Ebrill 2014 er mwyn cyfrif eich aelodaeth cyn 6 Ebrill 1988.

Mae’n rhaid i’ch partner sy’n cydfyw â chi fod wedi diwallu’r holl amodau hyn am o leiaf dwy flynedd cyn eich marwolaeth i fod yn gymwys:

  • Mae’r ddau ohonoch wedi bod yn rhydd i briodi/ffurfio partneriaeth sifil gyda’ch gilydd
  • Rydych chi wedi byw gyda’ch gilydd fel petaech yn briod neu’n bartneriaid sifil cofrestredig
  • Nid ydych chi na’ch partner wedi bod yn byw gyda rhywun arall fel petaech yn briod neu’n bartneriaid sifil gyda’r unigolyn arall hwnnw
  • Mae eich partner yn dibynnu arnoch o safbwynt ariannol, neu ar eich incwm ar y cyd, i gefnogi eich safonau byw

Tystiolaeth o’r amodau hyn fyddai gwaith papur sy’n dangos eich bod wedi byw mewn aelwyd gan rannu gwariant yr aelwyd, neu fod gennych chi gyfrif banc neu forgais gyda’ch gilydd.

Mae pensiwn goroeswr yn ganran o’ch pensiwn, ac yn daladwy am weddill eu hoes. Yn gyffredinol, mae’n:

  • 30.625% o’ch pensiwn a gronnwyd o fis Ebrill 2014
  • 37.50% o’r pensiwn a gronnwyd rhwng mis Ebrill 2008 a mis Mawrth 2014
  • 50% o’ch pensiwn a gronnwyd cyn mis Ebrill 2008

Os ydych yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL cyn ymddeol, ac yn marw cyn derbyn eich pensiwn gohiriedig, y pensiwn goroeswr yw’r canran perthnasol o’ch pensiwn gohiriedig.

Mae rhai elfennau o’ch pensiwn nad ydynt yn cyfrif tuag at bensiwn goroeswr. Gallai’r rhain gynnwys:

  • rhai cyfnodau o’ch gwasanaeth pensiynadwy
  • pensiwn ychwanegol a gronnwyd drwy dalu cyfraniadau ychwanegol

Efallai y bydd pensiwn goroeswr yn is os ydych yn priodi neu ffurfio partneriaeth sifil ar ôl rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL.

I gymhwyso ar gyfer pensiwn plentyn, mae’n rhaid i’r plentyn:

  • Fod yn blentyn naturiol i chi a aned cyn, ar neu o fewn 12 mis o farwolaeth yr aelod
  • Plentyn wedi’i fabwysiadu a anwyd cyn neu ar ddyddiad marwolaeth yr aelod
  • Llys-blentyn neu blentyn a dderbyniwyd gan yr aelod ymadawedig fel aelod o’r teulu a oedd yn ddibynnol ar yr aelod pan fu farw

Nid yw plentyn a noddir gan yr aelod drwy elusen gofrestredig yn blentyn cymwys.

Mae’n rhaid iddynt hefyd fod:

  • O dan 18 oed, neu
  • O dan 23 oed ac mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol neu
  • O unrhyw oedran ac yn methu â gweithio oherwydd amhariad corfforol neu feddyliol parhaol ac, o ganlyniad i hynny, yn ddibynnol ar yr aelod pan fu iddynt farw. Mae’n rhaid i feddyg annibynnol gynghori a yw’r amhariad yn debygol o fod yn barhaol.

At y dibenion hyn, mae gwaith yn golygu cyflogaeth â thâl am o leiaf 30 awr yr wythnos, dros flwyddyn o leiaf.

Mae plant yn derbyn rhan o’ch pensiwn. Bydd y swm yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych ac a yw eich partner hefyd yn derbyn pensiwn.