Hysbysiad Preifatrwydd
Hysbysiad Preifatrwydd Llawn ar gyfer aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiynau Clwyd
Mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol i aelodau a buddiolwyr Cronfa Bensiynau Clwyd (y “Gronfa”). Paratowyd yr hysbysiad hwn gan Gyngor Sir y Fflint (yr “Awdurdod Gweinyddu”, neu “ni”) yn rhinwedd ei swydd fel awdurdod gweinyddu’r Gronfa. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disgrifio sut rydym ni’n casglu a defnyddio data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Mae’n bwysig eich bod yn darllen yr hysbysiad preifatrwydd hwn ynghyd ag unrhyw hysbysiad preifatrwydd arall neu bolisi prosesu teg y gallem eu darparu ar achlysuron penodol pan fyddwn ni’n casglu neu’n prosesu data personol amdanoch chi fel eich bod chi’n llwyr ymwybodol o sut a pham rydym ni’n defnyddio eich data. Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn disodli unrhyw hysbysiad preifatrwydd cyffredinol y gallem fod wedi’i gyhoeddi o’r blaen ac mae’n ategu unrhyw hysbysiadau a pholisïau preifatrwydd eraill rydym ni’n eu cyhoeddi sy’n benodol i weithgareddau casglu / prosesu data penodol.
Pam rydym ni’n darparu’r hysbysiad hwn i chi
Fel Awdurdod Gweinyddu’r Gronfa rydym yn cadw rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi ("data personol") y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi, ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i weinyddu’r Gronfa ac i dalu buddion i chi. Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae gofyn i ni roi gwybodaeth benodol am y data personol sydd gennym amdanoch chi, sut rydym ni’n ei ddefnyddio, eich hawliau chi o ran y data a’r mesurau sydd ar waith i’w ddiogelu. Mae’r hysbysiad hwn wedi’i ddylunio i roi’r wybodaeth honno i chi.
Y darn technegol
Mae’r Awdurdod Gweinyddu yn cadw data personol amdanoch chi yn rhinwedd ei swydd fel rheolydd data i sicrhau yr ymdrinnir yn briodol â phob mater sy’n ymwneud â’r Gronfa, yn cynnwys ei gweinyddu a’i rheoli. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich data er mwyn cysylltu â chi, i gyfrifo, sicrhau a thalu eich buddion, i wneud gwaith modelu ystadegol ac ariannol ac at ddibenion cyfeirio (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd ei angen i ddarparu buddion yr aelodau a’r buddiolwyr a sut y dylai’r arian hwnnw gael ei fuddsoddi), ac i reoli rhwymedigaethau a gweinyddu’r Gronfa yn gyffredinol. Mae mwy o wybodaeth am sut yr ydym yn defnyddio eich data personol wedi’i darparu isod.
Fel arfer, y sylfaen cyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data personol fydd fod angen i ni ei brosesu mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Gweinyddu’r Gronfa. Fodd bynnag, pan nad yw’r sylfaen gyfreithiol honno’n berthnasol, y sylfaen gyfreithiol dros ddefnyddio eich data personol fydd un neu fwy o’r canlynol:
- mae angen i ni brosesu eich data personol er mwyn cyflawn tasg er budd y cyhoedd neu er mwyn arfer awdurdod swyddogol yn ein capasiti fel corff cyhoeddus; a/neu
- mae angen i ni brosesu eich data personol er buddiant dilys gweinyddu a rheoli’r Gronfa a’r rhwymedigaethau dan y gronfa, cyfrifo, sicrhau a thalu buddion, a chyflawni ein rhwymedigaethau ac arfer unrhyw hawliau, dyletswyddau a disgresiynau sydd gan yr Awdurdod Gweinyddu o ran y Gronfa
- mae angen i ni brosesu eich data personol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol i chi o ran y Gronfa (er enghraifft, dan gytundeb y byddwch chi’n talu cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol i’r Gronfa), neu er mwyn cymryd camau, ar eich cais, cyn llofnodi cytundeb
Sylwer, ble rydym yn nodi bod angen i ni brosesu eich data personol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu gymryd camau, ar eich cais chi, i ymrwymo i gontract cyflogaeth gyda chi, neu ei berfformio, ac os byddwch chi’n dewis peidio â rhoi’r data personol perthnasol i ni, mae’n bosibl na fyddwn yn gallu ymrwymo i’r contract â chi, neu barhau â’r contract.
Pa ddata personol yr ydym ni’n ei gadw a sut yr ydym yn ei gael
Gall y math o ddata personol yr ydym yn ei gadw a’i brosesu amdanoch chi (yr Aelod) gynnwys:
- Manylion cyswllt, yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion adnabyddadwy, fel dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhifau gweithiwr ac aelodaeth
- Gwybodaeth a ddefnyddir i gyfrifo ac asesu’r hawl i fuddion, e.e. hyd y cyfnod owasanaeth neu aelodaeth a gwybodaeth am y cyflog
- Gwybodaeth ariannol sydd ei hangen i gyfrifo neu dalu buddion e.e. manylion cyfrif banc a threth
- Gwybodaeth am deulu’r Aelod, dibynyddion neu amgylchiadau personol e.e. statws priodasol a gwybodaeth sy’n berthnasol i ddosbarthu a dyrannu buddion sy’n daladwy ar ôl marwolaeth
- Gwybodaeth am iechyd yr Aelod, er enghraifft, i asesu cymhwyster am fuddion sy’n daladwy pan fydd iechyd rhywun yn wael, neu lle mae iechyd Aelod yn berthnasol i hawliad am fuddion yn dilyn marwolaeth Aelod o’r Gronfa
- Gwybodaeth am gollfarn droseddol, os yw hyn wedi golygu bod yr Aelod mewn dyled i’w gyflogwr neu’r Gronfa, a gallai’r cyflogwr neu’r Gronfa gael eu had-dalu o fuddion yr Aelod.
- Gwybodaeth am unrhyw aelodaeth flaenorol o gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus eraill neu awdurdodau gweinyddu Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol eraill, yn cynnwys dyddiad gadael ac a yw’r cynllun/awdurdod blaenorol wedi asesu eich cymhwysedd am warchodaeth gynhaliol (gweler “Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth” isod).
Rydym yn cadw a phrosesu’r mathau canlynol o ddata personol o ran Buddiolwyr o’r Gronfa:
- Manylion cyswllt, yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion adnabyddadwy, fel dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol
- Gwybodaeth am deulu’r Buddiolwr, dibynyddion neu amgylchiadau personol e.e. statws priodasol a gwybodaeth sy’n berthnasol i ddosbarthu a dyrannu balans buddion sy’n daladwy ar ôl marwolaeth y Buddiolwr dan sylw
- Gwybodaeth a ddefnyddir i gyfrifo ac asesu’r hawl i fuddion, e.e. hyd y cyfnod o wasanaeth neu aelodaeth a gwybodaeth am y cyflog (gan gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r Aelod dan sylw)
- Gwybodaeth ariannol sydd ei hangen i gyfrifo neu dalu buddion e.e. manylion cyfrif banc a threth
Rydym yn cael rhywfaint o’r data personol hwn yn uniongyrchol gennych chi. Gallwn hefyd gael data (er enghraifft, gwybodaeth cyflog) gan eich cyflogwr/cyflogwyr cyfredol neu flaenorol neu’r cwmnïau sydd wedi cymryd eu lle mewn busnes, gan aelod o’r Gronfa (lle ydych chi yn, neu lle gallwch fod yn fuddiolwr y Gronfa oherwydd aelodaeth yr unigolyn hwnnw o’r Gronfa) ac o amrywiaeth o ffynonellau eraill gan gynnwys cronfeydd data cyhoeddus (megis Cofrestr Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau), ein hymgynghorwyr a llywodraeth neu gyrff rheoleiddio, gan gynnwys y rhai ar y rhestr o sefydliadau y gallwn rannu eich data personol gyda nhw, fel y nodir isod.
Pan fyddwn yn cael gwybodaeth am “gategorïau arbennig” penodol o ddata hynod o sensitif, megis gwybodaeth iechyd, mae gwarchodaeth ychwanegol yn berthnasol dan ddeddfwriaeth diogelu data. Dim ond gyda’ch cydsyniad chi y byddwn yn prosesu eich data personol dan un o’r categorïau arbennig, os na allwn brosesu’r data hwn yn gyfreithlon am reswm arall a ganiateir gan y ddeddfwriaeth honno. Mae gennych hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi gwybod i’r Awdurdod Gweinyddu yn ysgrifenedig. Fodd bynnag, os na fyddwch yn cydsynio, neu’n tynnu eich cydsyniad yn ôl, mae’n bosibl na fydd yr Awdurdod Gweinyddu yn gallu prosesu’r wybodaeth berthnasol i wneud penderfyniadau'n seiliedig arni, yn cynnwys penderfyniadau am dalu eich buddion.
Lle’r ydych wedi darparu data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau o’r teulu, dibynyddion neu fuddiolwyr posibl o dan y Gronfa, cofiwch wneud yn siŵr fod yr unigolion hynny’n ymwybodol o’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr hysbysiad hwn.
Sut fyddwn ni’n defnyddio eich data personol
Byddwn yn defnyddio’r data hwn i ddelio â holl faterion yn ymwneud â’r Gronfa, gan gynnwys gweinyddu a rheoli. Gall hyn gynnwys prosesu eich data personol ar gyfer holl neu unrhyw un o’r dibenion canlynol:
- I gysylltu â chi
- I asesu eich cymhwysedd ar gyfer, cyfrifo a’ch darparu chi (ac, os ydych yn aelod o’r Gronfa, eich buddiolwyr ar ôl eich marwolaeth) gyda buddion
- I nodi eich dewisiadau posibl neu wirioneddol o ran buddion a, lle bo’n berthnasol, gweithredu’r dewisiadau hynny
- At ddibenion modelu ystadegol ac ariannol a dibenion cyfeirio (er enghraifft, pan fyddwn yn asesu faint o arian sydd ei angen i ddarparu buddion yr aelodau a’r buddiolwyr a sut y dylai’r arian hwnnw gael ei fuddsoddi)
- I asesu, ac os yw’n briodol, gweithredu cais byddwch chi’n ei wneud i drosglwyddo eich buddion allan o’r Gronfa
- I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddio fel awdurdod gweinyddu’r Gronfa
- I fynd i’r afael ag ymholiadau gan aelodau a buddiolwyr eraill ac i ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl ynglŷn â’r Gronfa
- I reoli atebolrwydd y Gronfa, gan gynnwys mynd i drefniadau yswiriant a dewis buddsoddiadau’r Gronfa
- Yn gysylltiedig â gwerthiant, uno neu ad-drefnu corfforaethol, neu drosglwyddo busnes gan y cyflogwyr sy’n cyfranogi yn y Gronfa a’u cwmnïau grŵp
- I weld os ydych yn gymwys am warchodaeth gynhaliol. I gael mwy o wybodaeth, gweler www.lgpsmember.org/mccloud-remedy(mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg).
Y sefydliadau gallwn rannu eich data personol gyda nhw
O dro I dro, byddwn yn rhannu eich data personol gydag ymgynghorwyr a darparwyr gwasanaeth er mwyn iddynt ein cynorthwyo ni i gyflawni ein dyletswyddau, hawliau a disgresiwn mewn perthynas â’r Gronfa. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny yn prosesu eich data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau, cyfeirir atynt fel proseswyr. Bydd sefydliadau eraill yn atebol i chi yn uniongyrchol ar gyfer defnyddio data personol yr ydym yn ei rannu â nhw; cyfeirir atynt fel rheolyddion. Efallai ei bod yn ofynnol i reolyddion data, o dan y ddeddfwriaeth diogelu data, ddarparu gwybodaeth ychwanegol i chi o ran y data personol maent yn ei gadw amdanoch chi a sut a pham maent yn prosesu’r data hwnnw. Gall rhagor o wybodaeth gael ei darparu i chi mewn hysbysiad ar wahân neu gan ddarparwyr gwasanaeth ac ymgynghorwyr yn uniongyrchol, er enghraifft, drwy eu gwefannau.
Pan fydd un o’n hymgynghorwyr neu ddarparwyr gwasanaeth yn gweithredu fel rheolydd ar y cyd â ni o ran eich data personol, gan ein bod yn penderfynu ar y cyd ar bwrpas a dull prosesu’r data hwnnw, byddwn yn cytuno â nhw sut ydym am gyflawni ein rhwymedigaethau ein hunain a’n rhwymedigaethau cyfun dan y ddeddfwriaeth diogelu data. Os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae trefniant o’r fath yn gweithio, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Gallai’r sefydliadau y byddwn ni’n rhannu eich data personol â nhw gynnwys yr ymgynghorwyr a’r darparwyr gwasanaeth canlynol:
Proseswyr
- Swyddfeydd olrhain ar gyfer sgrinio marwolaethau a lleoli aelodau a buddiolwyr
- Darparwr taliadau tramor i drosglwyddo taliadau i aelodau o’r Gronfa a buddiolwyr sydd â chyfrifon y tu allan i’r DU: (Convera ar hyn o bryd)
- Cwmnïau argraffu: (Adare ar hyn o bryd)
- Darparwr meddalwedd pensiynau: (Heywoods ar hyn o bryd)
- Darparwr Gwasanaeth Integredig Dangosfwrdd Pensiynau: (sef Heywoods ar hyn o bryd), sy’n cynnwys is-broseswyr:
- Service Express Europe Limited
- Amazon Web Services EMEA SARL
- Darparwyr gwasanaethau TG, cynhyrchu a dosbarthu dogfennau
Rheolyddion
- Ymgynghorydd Actiwaraidd: (Mercer Ltd ar hyn o bryd)
- Ymgynghorydd buddion y gronfa: (Mercer Ltd ar hyn o bryd)
- Ymgynghorydd buddsoddi: (Mercer Ltd ar hyn o bryd)
- Darparwyr Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol: (Prudential ac Utmost Life ar hyn o bryd)
- Ymgynghorydd cyfreithiol: (Cyngor Sir y Fflint ac Osborne Clarke LLP ar hyn o bryd)
- Actwari’r Gronfa: (Mercer ar hyn o bryd)
- Archwiliwr allanol: (Swyddfa Archwilio Cymru ar hyn o bryd)
- Archwiliwr mewnol: (Cyngor Sir y Fflint ar hyn o bryd)
- Cronfa ddata Yswiriant Cenedlaethol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol: (Awdurdod Pensiynau De Swydd Efrog)
- Awdurdodau gweinyddu cronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol eraill (neu eu hasiantwyr, megis gweinyddwyr trydydd parti) lle ydych wedi bod yn aelod o gronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol arall ac os oes angen y wybodaeth i benderfynu ar y buddion sydd gennych chi neu eich dibynyddion hawl iddynt
- Gweinyddwyr cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus eraill ble rydych wedi bod yn aelod ac mae angen y wybodaeth er mwyn penderfynu a ydych yn gymwys am warchodaeth gynhaliol
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau
- Adran Actiwari'r Llywodraeth
- Swyddfa'r Cabinet: ar gyfer dibenion Menter Twyll Cenedlaethol
- CThEM
- Llysoedd Cymru a Lloegr: ar gyfer dibenion prosesu gorchmynion rhannu pensiynau wrth ysgaru
Lle byddwn yn gwneud buddsoddiadau Cronfa neu yn ceisio darparu buddion ar gyfer aelodau a buddiolwyr mewn ffyrdd eraill, megis drwy ddefnyddio yswiriant, yna efallai byddwn angen rhannu data personol gyda darparwyr buddsoddiadau, yswiriant a gweithredwyr cynlluniau pensiwn eraill.
O bryd i’w gilydd gallwn roi peth o’ch data i’ch cyflogwr a’u his-gwmnïau perthnasol (a phrynwyr posibl eu busnesau) ac ymgynghorwyr ar gyfer dibenion eu galluogi i ddeall atebolrwydd a rhwymedigaethau’r cyflogwr o ran y Cynllun. Yn gyffredinol, eich cyflogwr fydd rheolydd y data personol a rennir dan yr amgylchiadau hynny. Er enghraifft, os yw eich cyflogaeth yn rhan o ddarparu gwasanaethau sy’n destun trefniadau drwy gontractau allanol, gall yr Awdurdod Gweinyddu ddarparu gwybodaeth am eich buddion pensiwn i’ch cyflogwr ac i ymgeiswyr posibl ar gyfer y contract hwnnw pan ddaw i ben neu pan gaiff ei adnewyddu.
Lle gwneir cais neu os ydym o’r farn fod angen rhesymol am hynny, gallwn hefyd ddarparu’ch data i gyrff llywodraeth a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, yn cynnwys y rhai a rhestrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF). Gallent ddefnyddio’r data i gyflawni eu swyddogaethau.
Gall y sefydliadau a gyfeirir atynt yn y paragraffau uchod ddefnyddio eich data personol i gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas â’r Gronfa yn ogystal â modelu ystadegol ac ariannol (megis cyfrifo cyfartaledd costau buddion a chyfraddau marwolaeth disgwyliedig) ac ar gyfer dibenion cynllunio, gweinyddu busnes a rheoleiddio. Gallent hefyd roi’r data i drydydd parti eraill (er enghraifft, gall yswirwyr basio data personol ymlaen i gwmnïau yswiriant eraill ar gyfer dibenion adyswiriant), i’r graddau maent yn ystyried bod y wybodaeth ei hangen yn rhesymol ar gyfer diben cyfreithiol.
Nid ydym yn defnyddio eich data personol ar gyfer dibenion marchnata ac ni fyddwn yn rhannu’r data hwn gydag unrhyw un ar gyfer dibenion marchnata i chi neu unrhyw fuddiolwyr.
Trosglwyddo data y tu allan i’r DU
Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd pobl sy’n derbyn eich data personol y tu allan i’r DU. Mae hyn yn golygu y gall eich data personol gael ei drosglwyddo tu allan i’r DU i awdurdodaeth na fydd yn cynnig lefel gyfwerth o ddiogelwch fel yr hyn sy’n ofynnol gan Lywodraeth y DU.
Os bydd hyn yn digwydd, mae’n rhaid gweithredu mesurau diogelu ychwanegol â’r bwriad o ddiogelu eich data personol yn unol â chyfreithiau perthnasol. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os hoffech ragor o wybodaeth am y camau diogelu sydd yn eu lle ar hyn o bryd.
Am bah yd rydym yn cadw eich data personol
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyhyd a bod angen er mwyn cyflawni dibenion y casglwyd y wybodaeth a chyhyd yr ystyriwn yn ofynnol i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion a allwn dderbyn am ein gweinyddiad o’r Gronfa, oni bai y byddwn yn pleidleisio i gadw eich data am gyfnod hirach i gydymffurfio gyda’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y caiff eich data personol ei gadw am pa bynnag un sydd hiraf o’r rhain:
- Y cyfnod y byddwch chi (neu unrhyw fuddiolwr sy’n derbyn buddion ar ôl eich marwolaeth) â hawl i fuddion o’r Gronfa ac am gyfnod o 15 mlynedd ar ôl i’r buddion hynny ddod i ben. Ar gyfer yr un rhesymau, gallwn hefyd gadw eich data personol os ydych wedi derbyn trosglwyddiad, neu ad-daliad gan y Gronfa mewn perthynas â’ch hawl i fuddion; neu
- 100 mlynedd o ddyddiad geni aelod; neu
- 100 mlynedd o ddyddiad geni unrhyw fuddiolwr a gafodd fuddion o’r Gronfa ar ôl marwolaeth yr aelod.
Eich hawliau
Mae gennych yr hawl i weld a chael copi o’r data personol a gedwir amdanoch gan yr Awdurdod Gweinyddu ac i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gywiro neu gwblhau eich data personol os oes unrhyw wall neu os oes angen ei ddiweddaru neu lenwi unrhyw fwlch yn yr wybodaeth. Mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, mae'n bosibl y bydd gennych hawl i ofyn i’r Awdurdod Gweinyddu gyfyngu ar brosesu eich data personol, neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, fel lle nad oes angen eich data personol bellach ar gyfer y diben mae’n cael ei brosesu), ddileu eich data personol. Dylech nodi nad oes rheidrwydd i ni ddileu eich data personol os oes angen i ni ei brosesu at ddibenion gweinyddu’r Gronfa.
Mewn rhai amgylchiadau, mae gennych yr hawl i wrthwynebu i brosesu eich data personol; er enghraifft, mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol os yw’r prosesu ar gyfer budd y cyhoedd neu fuddion dilys a nodwyd yn yr adran uchod dan y teitl “Y darn technegol”, neu pan fo’r prosesu ar gyfer dibenion marchnata uniongyrchol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar www.ico.org.uk (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg), neu drwy’r llinell gymorth (0303 123 1113).
Os ydych yn dymuno ymarfer unrhyw un o’r hawliau hyn, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon o ran prosesu eich data personol, cysylltwch â Gweinyddwr y Gronfa fel y nodir isod. Mae gennych hefyd yr hawl i wneud cwyn mewn perthynas â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Awdurdod Gweinyddu gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a gallwch wneud hyn drwy’r wefan uchod neu’r llinell gymorth.
Fel eglurwyd yn yr adran uchod o’r enw “Sut fyddwn yn defnyddio eich data personol”, un o’r rhesymau yr ydym yn casglu ac yn cadw eich data personol yw gweinyddu eich buddion Cronfa. Os na fyddwch yn darparu’r wybodaeth yr ydym yn gofyn amdani, neu os byddwch yn gofyn am i’r data personol yr ydym yn ei gadw yn barod gael ei ddileu neu am gyfyngu’r gwaith o brosesu’r data personol, gallai hyn effeithio ar ein gallu i weinyddu eich budd-daliadau, yn cynnwys talu budd-daliadau o’r Gronfa. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu na all yr Awdurdod Gweinyddu roi eich pensiwn mewn taliad neu bydd angen atal eich pensiwn (os yw eisoes yn cael ei dalu).
Diweddaru
Mae’n bosib y byddwn yn diweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn hysbysu’r aelodau o’r newidiadau a’r dyddiad y bydd y newidiadau yn dod i rym.
Cysylltu â ni
Mae croeso i chi gysylltu â Chronfa Bensiynau Clwyd drwy anfon e-bost at pensiynau@siryfflint.gov.uk am fwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Mae croeso i chi gysylltu â’n tîm diogelu data drwy anfon e-bost at swyddfadiogeludata@siryfflint.gov.uk am fwy o wybodaeth.