Mae’r tabl isod yn dangos y gwahanol fathau o ymddeoliad gan y CPLlL.
Sylwch: Mae’r tabl yn nodi’r oedran ymddeol isaf ar hyn o bryd, sef 55 oed. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gallwch dynnu eich pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed o 6 Ebrill 2028. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych angen cymryd eich pensiwn yn gynt oherwydd salwch.
Fe allech gael eich gwarchod rhag y cynnydd hwn os gwnaethoch ymuno â’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Gallech hefyd fod wedi’ch gwarchod os gwnaethoch drosglwyddo pensiwn blaenorol i’r Cynllun, os yw rhai amodau penodol wedi’u bodloni. Fodd bynnag, dim ond pan fyddwch chi’n tynnu eich pensiwn CPLlL y byddwch chi’n gallu cael eich gwarchod, os yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu ichi dynnu eich pensiwn cyn troi’n 57 oed.
Llywodraeth y DU sy’n gosod rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid yw wedi ei gadarnhau eto os bydd yn caniatáu i aelodau, sy’n gymwys i gael eu gwarchod, gymryd eu pensiwn CPLlL cyn eu bod yn 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.
| Ymddeoliad Arferol |
Mae’r oedran ymddeol arferol rhwng 60 ac oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch weld eich oedran ymddeol arferol ar y datganiadau pensiwn gohiriedig yr ydych yn eu derbyn gan Gronfa Bensiynau Clwyd bob blwyddyn.
Os byddwch yn dechrau cymryd eich pensiwn pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran ymddeol arferol, byddwch yn derbyn y swm llawn heb unrhyw ostyngiadau.
|
| Ymddeoliad Cynnar |
Gallwch ddechrau cymryd eich pensiwn unrhyw bryd rhwng 55 oed a’r oedran ymddeol arferol. Bydd y pensiwn wedi’i ostwng gan eich bod yn ei gymryd yn gynnar. Y cynharaf y byddwch yn ymddeol, yr isaf fydd eich pensiwn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn eich pecyn ymddeol. |
| Ymddeoliad hwyr |
Os gwnaethoch chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau pensiwn ar neu ar ôl 1 Ebrill 1998, mae gennych yr opsiwn i gymryd eich pensiwn unrhyw bryd rhwng yr oedran ymddeol arferol a 75 oed. Bydd y pensiwn ychydig yn uwch gan eich bod yn ei gymryd yn hwyrach na’r disgwyl. Yr hwyraf yw eich ymddeoliad, yr uchaf fydd eich pensiwn. Mae’n rhaid i chi ddechrau cymryd eich pensiwn pan fyddwch yn 75 oed.
Os gwnaethoch chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau pensiwn cyn 1 Ebrill 1998, mae’n rhaid i chi ddechrau cymryd eich pensiwn o’r oedran ymddeol arferol.
|
| Ymddeol oherwydd afiechyd |
Gallwch ymddeol oherwydd afiechyd ar unrhyw bryd, ond byddai’n rhaid i chi ofyn i’ch cyn-gyflogwr a ellir talu eich pensiwn gohiriedig i chi ar sail afiechyd.
Byddant yn gofyn i ddoctor annibynnol am eu barn feddygol ynglŷn â ph’un a ydych yn gymwys am ymddeoliad oherwydd afiechyd. Byddant yn ystyried, er enghraifft, p’un a ydych yn methu â chyflawni eich gwaith gyda nhw yn barhaus neu ddim. Yna, byddant yn rhoi gwybod i chi p’un a oes modd i chi dderbyn eich pensiwn ar unwaith.
Os ydych chi’n gymwys i ymddeol oherwydd afiechyd, bydd eich pensiwn gohiriedig yn daladwy i chi am oes. Ni fydd yn gostwng hyd yn oed os byddwch yn ei gymryd yn gynnar. Fodd bynnag, bydd y swm yr ydych yn ei dderbyn ond yn seiliedig ar y pensiwn a gronnwyd gennych dros y cyfnod yr oeddech yn talu cyfraniadau CPLlL.
|
Os ydych chi dros 55 oed ac wedi optio allan o dalu cyfraniadau, ni allwch dderbyn eich pensiwn ar unwaith. Mae’n rhaid i chi adael y swydd y gwnaethoch optio allan ohoni yn gyntaf, oni bai eich bod yn 75 oed.