CPLlL blaenorol neu aelodaeth sector cyhoeddus arall

Os ydych wedi talu cyfraniadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) i Gronfa Bensiynau Clwyd neu Gronfa CPLlL arall o’r blaen, mae’n bosibl y byddwn angen cyfuno’r aelodaeth bensiwn honno gyda’ch gwasanaeth presennol. Os yw’r aelodaeth CPLlL gyda Chronfa arall, ni fyddwn yn gwybod amdani oni bai eich bod chi’n dweud wrthym. Gyda hynny mewn cof, os gwelwch yn dda:

  • Dywedwch wrth Gronfa Bensiynau Clwyd fod gennych bensiwn gohiriedig gyda Chronfa CPLlL arall, a rhowch enw’r Gronfa
  • Dywedwch wrth y Gronfa CPLlL arall eich bod wedi dechrau talu cyfraniadau CPLlL eto gyda Chronfa Bensiynau Clwyd.

Mae angen i chi wneud hyn er mwyn i chi dderbyn yr opsiynau cywir ynglŷn â chyfuno eich buddion CPLlL.

Os oes llai na 5 mlynedd wedi bod rhwng amser gadael eich Cronfa CPLlL ddiwethaf ac ymuno â Chronfa Bensiynau Clwyd, byddwch yn cael cadw unrhyw gyswllt cyflog terfynol, hyd yn oed os ydych yn dewis ei drosglwyddo. Mewn geiriau eraill, bydd eich pensiwn o’r Gronfa ddiwethaf yn dal i fod yn seiliedig ar reolau cynllun cyflog terfynol, er gwaethaf y saib yn eich gwasanaeth.

Fodd bynnag, os oes mwy na 5 mlynedd wedi bod, bydd cyswllt cyflog terfynol yn cael ei dorri os ydych yn trosglwyddo, a byddai’r pensiwn yn seiliedig ar enillion cyfartalog gyrfa wedi’u hailbrisio, neu ECGA. Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu trosglwyddo eich aelodaeth CPLlL flaenorol i Gronfa Bensiynau Clwyd.

Byddwch hefyd angen dweud wrth Gronfa Bensiynau Clwyd os oeddech yn aelod o gynllun pensiwn sector cyhoeddus arall cynt, hyd yn oed os ydych wedi derbyn ad-daliad am eich cyfraniadau. Ni fyddwn yn gwybod am y gwasanaeth hwnnw fel arall.

Mae cynlluniau’r sector cyhoeddus yn cynnwys:

  • Gweision Sifil
  • Y Farnwriaeth
  • Y Lluoedd Arfog
  • Gweithwyr Llywodraeth Leol
  • Athrawon
  • Gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd
  • Tân ac Achub
  • Heddluoedd

Mae’r un driniaeth o gyswllt cyflog terfynol, yn seiliedig ar ba un a oes mwy neu lai na 5 mlynedd wedi bod ers eich aelodaeth ddiwethaf, yn berthnasol yma yn yr un modd â’r uchod, ar gyfer gwasanaeth CPLlL yn y gorffennol.

Mae’n rhaid i chi drefnu unrhyw drosglwyddiadau i Gronfa Bensiynau Clwyd o fewn 12 mis o ymuno â ni, oni bai bod eich cyflogwr yn cytuno i ymestyn y terfyn amser hwn.