Mathau o ymddeoliad

Cynghorwr CPLlL

Os oes gennych chi dri mis neu fwy o aelodaeth gyda’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL i Gynghorwyr) byddwch yn derbyn CPLlL i Gynghorwyr pan fyddwch yn ymddeol sy’n daladwy am oes.

Mae’r tabl isod yn dangos y gwahanol fathau o ymddeoliad sy’n berthnasol i Gynghorwyr yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Sylwch: Mae’r tabl yn nodi’r oedran ymddeol isaf ar hyn o bryd, sef 55 oed. (Wrth ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd, cynigir telerau arbennig sy’n golygu y gallech ddechrau derbyn pensiwn ar ôl troi’n 50 oed).

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gallwch dynnu eich pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed o 6 Ebrill 2028. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych angen cymryd eich pensiwn yn gynt oherwydd salwch.

Fe allech gael eich gwarchod rhag y cynnydd hwn os gwnaethoch ymuno â’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Fodd bynnag, dim ond pan fyddwch chi’n tynnu eich pensiwn CPLlL y byddwch chi’n gallu cael eich gwarchod, os yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu ichi dynnu eich pensiwn cyn troi’n 57 oed.

Llywodraeth y DU sy’n gosod rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid yw wedi ei gadarnhau eto os bydd yn caniatáu i aelodau, sy’n gymwys i gael eu gwarchod, gymryd eu pensiwn CPLlL cyn eu bod yn 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.

Ymddeoliad arferol Oedran ymddeol arferol yw 65 oed.

Os byddwch yn dechrau cymryd eich pensiwn pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran ymddeol arferol, byddwch yn derbyn y swm llawn heb unrhyw ostyngiadau.

Ymddeoliad cynnar (Angen caniatâd) Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd rhwng 50 a 55 oed efallai y byddwch yn gallu derbyn eich pensiwn ar unwaith cyn belled â bod eich cyngor yn cytuno.

Bydd eich pensiwn yn cael ei ostwng gan eich bod yn ei gymryd yn gynnar. Y cynharaf y byddwch yn ymddeol, yr isaf fydd eich pensiwn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn eich pecyn ymddeol.

Os bydd eich cyngor yn cytuno i dalu eich buddion cyn 55 oed efallai y bydd tâl treth ar eich buddion pensiwn.

Ymddeoliad cynnar (Ddim angen caniatâd) Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd rhwng 55 a 65 oed efallai y byddwch yn gallu derbyn eich pensiwn ar unwaith. Nid oes angen caniatâd y cyngor arnoch.

Bydd eich pensiwn yn cael ei ostwng gan eich bod yn ei gymryd yn gynnar. Y cynharaf y byddwch yn ymddeol, yr isaf fydd eich pensiwn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn eich pecyn ymddeol.

Nid oes raid i chi gymryd y pensiwn os nad ydych eisiau gwneud hynny. Gallwch ddewis i ohirio’r pensiwn am rŵan a’i dderbyn yn y dyfodol.

Ymddeoliad hwyr Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd ar ôl 65 oed efallai y byddwch yn gallu derbyn eich pensiwn ar unwaith. Bydd y pensiwn ychydig yn uwch gan eich bod yn ei gymryd yn hwyrach na’r disgwyl. Yr hwyraf y byddwch yn ymddeol, yr uchaf fydd eich pensiwn.

Os byddwch yn parhau i fod yn gynghorydd y tu hwnt i’ch pen-blwydd yn 75 oed mae’n rhaid i chi roi’r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL i Gynghorwyr a dechrau derbyn eich pensiwn.

Ymddeol oherwydd afiechyd Os byddwch yn rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd oherwydd afiechyd, efallai y byddwch yn derbyn eich pensiwn ar unwaith.

Bydd eich cyngor yn gofyn i feddyg annibynnol i gadarnhau, oherwydd afiechyd, na allwch barhau i wneud eich rôl bresennol yn barhaol neu nes y byddwch wedi cyrraedd 65 oed.

Mae’n rhaid i’r meddyg fod yn gymwys mewn meddyginiaeth iechyd galwedigaethol ac yn newydd i’ch achos.

Os byddwch yn ymddeol oherwydd afiechyd, ni fydd eich pensiwn a’ch cyfranddaliad yn cael eu lleihau, hyd yn oed os ydych yn eu cymryd nhw allan yn gynnar. Efallai y byddwch hefyd yn derbyn cynnydd, o ran gwasanaeth ychwanegol, i roi pensiwn a chyfranddaliad uwch i chi:

Aelodaeth yr ydych wedi'i adeiladu ar eich pen eich hun a'r cynnydd gwasanaeth ychwanegol y byddech yn ei dderbyn.

  • Llai na 5 mlynedd: Dim cynnydd.
  • Rhwng 5 a 10 mlynedd: Cyfanswm aelodaeth wedi dyblu
  • Rhwng 10 ac 13 1/3 mlynedd: Cyfanswm aelodaeth wedi cynyddu i 20 mlynedd
  • Dros 13 1/3 o flynyddoedd: Cyfanswm aelodaeth wedi cynyddu o 6 2/3 mlynedd

Bydd eich gwasanaeth ychwanegol yn gyfyngedig fel nad yw’n cynyddu eich aelodaeth i fwy na fyddech wedi’i gronni pe baech wedi parhau fel cynghorydd nes eich bod yn 65 oed.

Ni fydd cynnydd yn eich pensiwn os ydych wedi cael eich dyfarnu eisoes â phensiwn oherwydd afiechyd o’r CPLlL.

Os, ar ddyddiad eich ymddeoliad ar sail afiechyd bod gennych ddisgwyliad oes o lai na blwyddyn, efallai y byddwn yn troi eich pensiwn yn gyfranddaliad unwaith ac am byth sydd bum gwaith gwerth eich pensiwn blynyddol.

Os ydych yn optio allan o dalu cyfraniadau ond yn parhau’n gynghorydd ar ôl oedran ymddeol ni allwch dderbyn eich pensiwn ar unwaith. Mae’n rhaid i chi beidio â bod yn gynghorydd rhagor, neu gyrraedd 75 oed os yw hynny’n digwydd yn gynt, i dderbyn eich pensiwn.

Os byddwch yn ymddeol yn gynnar, bydd eich buddion yn gostwng yn unol â’r canrannau canlynol bob blwyddyn cyn eich oedran ymddeol arferol:

Nifer y blynyddoedd y’i telir yn gynnarGostyngiad Pensiwn BlynyddolGostyngiad Cyfandaliad Awtomatig
0 0% 0%
1 4.9% 1.7%
2 9.3% 3.3%
3 13.5% 4.9%
4 17.4% 6.5%
5 20.9% 8.1%
6 24.3% 9.6%
7 27.4% 11.1%
8 30.3% 12.6%
9 33.0% 14.1%
10 35.6% 15.5%

Rheol 85: Os ydych chi’n gymwys ar gyfer Rheol 85 ac yn ymddeol yn gynnar, ni fydd rhywfaint o’ch pensiwn yn cael ei ostwng.

Dim ond os oeddech yn talu cyfraniadau i bensiwn CPLlL i Gynghorwyr cyn 1 Hydref 2006 y byddwch yn bodloni Rheol 85. Rydych yn bodloni Rheol 85 os yw:

Eich oedran pan rydych yn derbyn eich buddion CPLlL
+
Nifer y blynyddoedd rydych chi wedi talu cyfraniadau pensiwn i CPLlL ar eu cyfer
=
yn 85 neu fwy

Os ydych yn bodloni’r Rheol 85, bydd yn berthnasol yn awtomatig os byddwch yn dechrau derbyn eich pensiwn yn 60 oed.

Os ydych chi’n bodloni Rheol 85 ac yn dymuno cymryd eich pensiwn cyn i chi droi’n 60 oed, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd eich cyn-gyflogwr er mwyn iddo fod yn berthnasol. Os nad yw eich cyn-gyflogwr yn fodlon rhoi eu caniatâd, gallwch barhau i gymryd eich pensiwn, ond fe fydd yn is na’r swm y byddech wedi’i dderbyn pe bai’r Rheol 85 yn berthnasol.

Mae Rheol 85 yn gweithio fel hyn:

Dyddiad GeniPensiwn a gronnwyd ar neu cyn 31 Mawrth 2008Pensiwn a gronnwyd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2016Pensiwn a gronnwyd rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2020Pensiwn a gronnwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020
Rhwng 1 Ebrill 1956 a 31 Mawrth 1960. Heb ei ostwng Taprog: hynny yw wedi ei ostwng yn rhannol ar raddfa symudol Taprog Wedi ei ostwng yn llawn
Ar neu ar ôl 1 Ebrill 1960 Heb ei ostwng Wedi ei ostwng yn llawn Wedi ei ostwng yn llawn Wedi ei ostwng yn llawn