Trosglwyddo allan

Cynghorwr CPLlL

Gallwch ond trosglwyddo eich buddion pensiwn i gynllun pensiwn arall os ydych wedi stopio talu cyfraniadau i Gronfa Bensiynau Clwyd. Y prif fathau o drosglwyddo allan yw:

  • cynllun pensiwn gwaith arall
  • cynllun pensiwn personol
  • polisi yswiriant prynu allan
  • cynllun pensiwn budd-ddeiliad

Ni allwch drosglwyddo eich pensiwn Cynghorydd CPLlL i Gronfa CPLlL arall yng Nghymru neu Loegr.

Os ydych eisiau trosglwyddo allan, mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf 12 mis cyn eich oedran ymddeol arferol yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Oedran ymddeol arferol yw rhwng 60 a 65 oed. Mae eich oedran ymddeol arferol ar y datganiadau pensiwn gohiriedig yr ydych yn eu derbyn gan Gronfa Bensiynau Clwyd bob blwyddyn.

Dyma’r camau tuag at drefnu trosglwyddiad:

  1. Gwiriwch gyda’ch darparwr pensiwn newydd y byddant yn derbyn trosglwyddiadau a’ch bod o fewn unrhyw ddyddiad cau sydd ganddynt ar gyfer eu derbyn.
  2. Os felly, rhowch wybod i’ch darparwr pensiwn newydd i gysylltu â Chronfa Bensiynau Clwyd ar eich rhan, i gael dyfynbris trosglwyddo. Efallai bod ganddynt broses ar-lein neu ffurflen i chi wneud hyn.
  3. Byddwn yn cyfrifo’r dyfynbris ac yn ei roi i’ch darparwr pensiwn newydd. Byddant yn rhoi gwybod i chi pa fuddion pensiwn y byddai’r trosglwyddiad yn ei brynu yn eu cynllun.

Bydd ein dyfynbris trosglwyddo yn cael ei warantu am dri mis: hynny yw, os yw tri mis wedi mynd heibio cyn i chi wneud y trosglwyddiad, bydd arnoch angen dyfynbris newydd cyn bwrw ymlaen yn ddiweddarach.

Os ydych yn ystyried a ddylech drosglwyddo ai peidio, gwnewch yn siŵr fod gennych yr holl wybodaeth yr ydych ei angen am y ddau gynllun pensiwn i’w cymharu:

  • beth yw gwerth eich pensiwn Cynghorydd CPLlL
  • beth fyddai gwerth eich pensiwn yn y cynllun newydd os byddwch yn trosglwyddo

Wrth gymharu’r ddau ffigur, cofiwch bydd eich pensiwn Cynghorydd CPLlL yn cael cynyddiadau mewn costau byw.

Cofiwch nad yw gofyn am ddyfynbris yn golygu bod rhaid i chi fwrw ymlaen gyda’r trosglwyddiad. Rhowch ystyriaeth i’ch opsiynau’n ofalus, a throsglwyddwch dim ond os ydych yn sicr mai dyma’r cam cywir i chi. Dylech ofyn am gyngor os byddwch ei angen.

Fodd bynnag, os ydych yn trosglwyddo eich pensiwn Cynghorydd CPLlL gyda Chronfa Bensiynau Clwyd i ddarparwr pensiwn arall, ni fydd gennych hawl i unrhyw fuddion Cynghorydd CPLlL yn y dyfodol ar eich cyfer chi, eich partner neu unrhyw blant.

Nid yw trosglwyddo eich pensiwn bob amser yn ddewis hawdd i wneud. Efallai byddwch angen ceisio cyngor yn gyntaf.

Ni all unrhyw un sydd yn ymwneud â Chronfa Bensiynau Clwyd roi cyngor personol ac ariannol i chi: mae’n rhaid i chi siarad ag ymgynghorydd ariannol cymwys, awdurdodedig ac annibynnol.

Mae cael cyngor ariannol yn bwysig iawn os ydych yn ystyried trosglwyddo eich pensiwn Cynghorydd CPLlL i gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn budd-ddeiliaid, polisi yswiriant prynu allan, neu i gynllun prynu arian. Mae hyn oherwydd bod y mathau hyn o gynlluniau yn cynnwys risg buddsoddi, a allai leihau gwerth eich pensiwn pan fyddwch yn ymddeol.

Sylwch: Os yw gwerth trosglwyddo eich pensiwn Cynghorydd CPLlL yn fwy na £30,000, mae’n rhaid i chi gael cyngor ariannol annibynnol yn ôl y gyfraith cyn y gallwch ei drosglwyddo i gynllun pensiwn cyfraniadau diffiniedig.

Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu adnabod arwyddion sgamiau pensiwn. Mae rhai tactegau sgamwyr yn cynnwys:

  • Cynnig adolygiadau pensiwn neu wiriadau iechyd am ddim
  • Addo gwell enillion ar arbedion
  • Awgrymu eich bod chi’n ceisio tynnu eich buddion pensiwn cyn i chi droi’n 55 oed
  • Hyrwyddo bylchau treth, benthyciadau pensiwn neu arian parod
  • Eich gorfodi chi i weithredu’n gyflym i derfynau amser tynn neu gynigion unwaith yn unig
  • Cysylltu â chi yn gwbl annisgwyl.

Yn benodol, mae galwadau diwahoddiad ynghylch pensiynau yn erbyn y gyfraith. Ni ddylai unrhyw gwmni gysylltu â chi ynghylch eich pensiwn oni bai eich bod chi wedi gofyn iddyn nhw wneud.

Pan fyddwch chi wedi trosglwyddo eich pensiwn i gronfa sy’n sgam, bydd hi’n rhy hwyr. Gallwch golli eich arbedion pensiwn i gyd. Mewn rhai achosion, efallai y byddwch chi hefyd yn wynebu bil treth sy’n 55% o werth y pensiwn yr ydych chi wedi’i drosglwyddo.

I wneud yn siŵr nad ydych chi’n cael eich twyllo, dilynwch y pedwar cam syml canlynol:

Cam 1: Gwrthod unrhyw gynigion annisgwyl

Os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n annisgwyl ynghylch cyfle pensiwn, mae’n debygol ei fod yn risg uchel neu’n dwyll.

Os cewch alwad di-wahoddiad ynghylch eich pensiwn, y peth mwyaf diogel i wneud yw rhoi’r ffôn i lawr. Mae’n anghyfreithlon ac yn debygol iawn o fod yn dwyll. Anwybyddwch unrhyw negeseuon testun neu e-byst annisgwyl. Rhowch wybod am negeuon a galwadau niwsans i’r Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) - mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg.

Gwyliwch allan am gynigion i gynnal adolygiadau pensiwn am ddim. Nid yw cyngor proffesiynol am bensiynau am ddim.

Peidiwch â gadael i rywun yr ydych yn ei adnabod, hyd yn oed ffrind neu aelod o’r teulu eich perswadio i wneud unrhyw beth. Efallai eu bod hwy yn cael eu twyllo. Gwiriwch bopeth eich hun.

Cam 2: Gwiriwch pwy rydych yn delio â hwy

Gwiriwch fod unrhyw un sydd yn cynnig cyngor neu wasanaethau ariannol arall ar y Gofrestr Gwasanaethau Ariannol (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg). Golyga hyn bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, neu’r FCA wedi eu hawdurdodi i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Os ydych angen cymorth i wirio, gallwch ffonio llinell gymorth FCA ar 0800 111 6768.

Gwnewch yn siŵr nad yw unrhyw gwmni yr ydych yn ymwneud â hwy yn ffug: sef, eu bod yn honni i fod yn gwmni awdurdodedig gwirioneddol gyda’r FCA. Defnyddiwch fanylion cyswllt y Gofrestr Gwasanaeth Ariannol bob amser, ac nid y manylion y mae’r cwmni yn ei ddarparu.

Gwiriwch enw’r cyfarwyddwyr ac a yw’r cwmni wedi cofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) neu beidio. Chwiliwch am enw’r cwmni ac enw’r cyfarwyddwyr i weld a yw eraill wedi lleisio unrhyw bryderon.

Hefyd gallwch wirio’r rhestr rybuddio FCA (mae’r ddolen yn mynd i wefan allanol felly bydd yn Saesneg) o gwmnïau i’w hosgoi: maent wedi cael eu riportio yn cynnig gwasanaethau ariannol yn y DU heb gymeradwyaeth gan y FCA.

Cam 3: Peidiwch â chael eich brysio na’ch rhoi dan bwysau

Cymrwch eich amser i wneud yr holl wiriadau yr ydych angen eu gwneud. Byddwch yn wyliadwrus o bensiynau gwerth uwch sydd yn rhy dda i fod yn wir.

Cam 4: Cael gwybodaeth neu gyngor diduedd

Dylech feddwl am gael arweiniad neu gyngor ariannol cyn gwneud unrhyw beth gyda’ch pensiwn.