Partneriaeth Pensiwn Cymru

I fodloni gofynion y Llywodraeth i leihau costau sy’n gysylltiedig â buddsoddiad, mae’r wyth awdurdod gweinyddol o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, yn cynnwys Cyngor Sir y Fflint, wedi gwneud Cytundeb Rhwng Awdurdodau i gyfuno asedau cronfeydd pensiwn, gyda rhan allweddol a fydd yn cael ei gwneud drwy benodi Gweithredwr Cynllun Cytundebol ag Awdurdod, i wneud y buddsoddiadau ar ran yr awdurdodau sy’n gweinyddu. Cytunwyd ar hyn yng nghyfarfod Cyngor Sir y Fflint 1 Mawrth 2017. Mae modd dod o hyd i’r adroddiad a’r atodiadau yma.

Fel rhan o’r cytundeb cronni hwn, mae’r awdurdodau hefyd wedi sefydlu Pwyllgor Cyd-lywodraethu gyda nifer o gyfrifoldebau, yn cynnwys y canlynol:

  • Monitro perfformiad y Gweithredwr
  • Gwneud penderfyniadau ar is-gronfeydd dosbarth asedau i fod ar gael gan y Gweithredwr i weithredu strategaethau buddsoddi unigol yr wyth Gronfa
  • Darparu atebolrwydd i’r Cronfeydd sy’n cyfranogi o ran rheoli’r Cronfeydd Ariannol a Gyfunir
  • Rhoi adroddiad i Lywodraeth y DU a rhan-ddeiliaid eraill am y Cronfeydd Ariannol a Gyfunir
  • Goruchwylio Gweithgor y Swyddogion

Mae Gweithgor Swyddogion Partneriaeth Pensiwn Cymru wedi’i sefydlu fel rhan o Gytundeb Rhwng Awdurdodau Partneriaeth Pensiwn Cymru, i gefnogi a chynghori’r Pwyllgor Cyd-lywodraethu ar faterion y gall y Pwyllgor ofyn amdanynt o fewn rheswm, neu unrhyw fater sy'n ymwneud â'r cytundeb cyfuno cronfeydd ariannol a godir gan unrhyw Swyddog Adran 151 neu Swyddogion Monitro'r Awdurdod.

Mae pob awdurdod yn dirprwyo swyddogion i’r Gweithgor Swyddogion. Mewn perthynas â Chronfa Bensiynau Clwyd, Pwyllgor y Gronfa Bensiynau sy’n penderfynu pa swyddogion sy'n mynd ar ei Weithgor Swyddogion. Mae Swyddog Adran 151 a Swyddog Monitro pob awdurdod â'r hawl i fynd i Weithgor Swyddogion.