Buddion Marwolaeth

Cynghorwr CPLlL

Rydych yn derbyn gwasanaeth marw yn y swydd o’r diwrnod cyntaf y byddwch yn talu cyfraniadau pensiwn. Os ydych yn marw mewn gwasanaeth cyn 75 oed, a’ch bod yn dal i dalu cyfaniadau i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu bensiwn CPLlL i Gynghorwyr, bydd cyfanswm o ddwywaith eich tâl gyrfa ar gyfartaledd yn cael ei dalu fel grant marwolaeth.

Os ydych chi wedi talu Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) drwy’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, mae gwerth eich cronfa CGY hefyd yn daladwy.

Cyfrifo cyfartaledd cyflog gyrfa

Yn yr enghraifft hon, mae’r Cynghorydd wedi bod yn aelod o’r CPLlL i Gynghorwyr ers 5 mlynedd. Mae cyflog cyfartalog eu gyrfa yn seiliedig ar yr holl ffioedd neu gyflog y maen nhw wedi talu cyfraniadau pensiwn ar eu cyfer, yn ogystal â chynnydd mewn costau byw, yn unol â mesur chwyddiant, sef y Mynegai Prisiau Manwerthu.

Mae cyfnod yr aelodaeth yn dechrau o’r adeg yr ydych chi’n dechrau talu cyfraniadau pensiwn tan ddyddiad eich marwolaeth.

Enghraifft

Enillion Blwyddyn 1 £9,400 x cynnydd mewn costau byw 1.12 = £10,528
Enillion Blwyddyn 2 £9,600 x cynnydd mewn costau byw 1.08 = £10,368
Enillion Blwyddyn 3 £9,900 x cynnydd mewn costau byw 1.05 = £10,395
Enillion Blwyddyn 4 £10,400 x cynnydd mewn costau byw 1.02 = £10,608
Enillion Blwyddyn 5 £11,000 x cynnydd mewn costau byw 1.00 = £11,000
  Cyfanswm Cronedig = £52,899
  Cyfartaledd Cyflog Gyrfa
(£52,899 ÷ 5 Mlynedd)
= £10,579.80

Os mai’r cyfartaledd cyflog gyrfa oedd £10,579.80 ar ddyddiad y farwolaeth, byddai’r grant marwolaeth yn:

£10,579.80 x 2 = £21,159.60

Mae gan Gronfa Bensiynau Clwyd ddisgresiwn o ran pwy ddylai dderbyn y grant marwolaeth. Os byddwch yn llenwi ffurflenni i nodi eich dymuniadau gan enwi eich buddiolwyr, bydd hyn yn ein cynorthwyo i dalu’r grant marwolaeth i’r unigolion cywir.

Gall hyn fod yn un neu fwy o aelodau o’ch teulu, ffrindiau neu elusennau.

Neu mae modd diweddaru eich buddiolwyr drwy lawrlwytho Ffurflen Mynegi Dymuniadau o’n gwefan.

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig, gall eich partner dderbyn pensiwn goroeswr os ydych yn marw cyn eich partner. Bydd angen iddynt anfon copi o’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil a llenwi ffurflenni hawlio.

Mae pensiwn goroeswr yn cael ei dalu fel a ganlyn:

  • Pensiwn tymor byr sydd gyfartal i’ch cyfartaledd cyflog gyrfa, am dri mis yn dilyn eich marwolaeth. Gellir ei dalu am chwe mis yn lle os yw un neu fwy o blant cymwys yng ngofal eich goroeswr: gweler Pensiynau Plant isod
  • Os ydych wedi cael tri neu fwy o fisoedd o wasanaeth gyda’r cynllun, bydd pensiwn hirdymor yn dechrau ar ôl i’r pensiwn tymor byr ddod i ben. Bydd hyn fel arfer gyfwerth a hanner y pensiwn y byddech yn ei dderbyn os oeddech wedi ymddeol yn fuan oherwydd salwch ar ddiwrnod eich marwolaeth.

Sylwch: Os ydych yn priodi ar ôl i chi ymddeol oherwydd salwch parhaol, bydd y pensiwn goroeswr ond yn hanner eich pensiwn sylfaenol. Er enghraifft, ni fydd yn cynnwys unrhyw swm ychwanegol a dderbyniwyd oherwydd salwch.

Os ydych yn mynd i bartneriaeth sifil ar ôl ymddeol, bydd y pensiwn goroeswr yn hanner eich pensiwn.

I fod yn gymwys ar gyfer pensiwn plentyn, mae’n rhaid i’r plentyn:

  • Fod yn blentyn naturiol i chi a anwyd cyn, ar neu o fewn 12 mis o farwolaeth yr aelod
  • Fod yn blentyn wedi’i fabwysiadu a anwyd cyn neu ar ddyddiad marwolaeth yr aelod
  • Fod yn llys-blentyn neu blentyn a dderbyniwyd gan yr aelod ymadawedig fel aelod o’r teulu a oedd yn ddibynnol ar yr aelod pan fu farw

Nid yw plentyn a noddir gan yr aelod drwy elusen gofrestredig yn blentyn cymwys.

Mae’n rhaid iddynt hefyd fod:

  • O dan 18 oed, neu
  • O dan 23 oed ac mewn addysg llawn amser neu hyfforddiant galwedigaethol neu
  • O unrhyw oedran ac yn methu â gweithio oherwydd nam corfforol neu feddyliol parhaol ac, o ganlyniad i hynny, yn ddibynnol ar yr aelod pan fu farw. Mae’n rhaid i feddyg annibynnol gynghori a yw’r nam yn debygol o fod yn barhaol.

Mae plant yn derbyn rhan o’ch pensiwn. Bydd y swm yn dibynnu ar faint o blant sydd gennych ac os ydi eich partner hefyd yn derbyn pensiwn.