Mathau o ymddeoliad

Cynghorwr CPLlL

Gan fod gennych bensiwn gohiriedig yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd, fe gewch chi bensiwn pan fyddwch yn ymddeol, sy’n daladwy am oes.

Mae’r tabl isod yn dangos y gwahanol fathau o ymddeoliad sy’n berthnasol i Gynghorwyr yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Sylwch: Mae’r tabl yn nodi’r oedran ymddeol isaf ar hyn o bryd, sef 55 oed. (Wrth ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol fel Cynghorydd, cynigir telerau arbennig sy’n golygu y gallech ddechrau derbyn pensiwn ar ôl troi’n 50 oed).

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yr oed cynharaf y gallwch dynnu eich pensiwn yn cynyddu o 55 oed i 57 oed o 6 Ebrill 2028. Nid yw hyn yn berthnasol os ydych angen cymryd eich pensiwn yn gynt oherwydd salwch.

Fe allech gael eich gwarchod rhag y cynnydd hwn os gwnaethoch ymuno â’r CPLlL yng Nghymru a Lloegr cyn 4 Tachwedd 2021. Fodd bynnag, dim ond pan fyddwch chi’n tynnu eich pensiwn CPLlL y byddwch chi’n gallu cael eich gwarchod, os yw rheolau’r Cynllun yn caniatáu ichi dynnu eich pensiwn cyn troi’n 57 oed.

Llywodraeth y DU sy’n gosod rheolau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Nid yw wedi ei gadarnhau eto os bydd yn caniatáu i aelodau, sy’n gymwys i gael eu gwarchod, gymryd eu pensiwn CPLlL cyn eu bod yn 57 mlwydd oed o 6 Ebrill 2028.

Ymddeoliad arferol Mae’r oedran ymddeol arferol rhwng 60 a 65 oed. Gallwch weld eich oedran ymddeol arferol ar y datganiadau pensiwn gohiriedig a gewch chi bob blwyddyn gan Gronfa Bensiynau Clwyd.

Os dechreuwch chi gymryd eich pensiwn pan fyddwch yn cyrraedd eich oedran ymddeol arferol, fe gewch chi’r swm cyfan heb unrhyw ostyngiadau.

Ymddeoliad cynnar (Angen caniatâd) Os dymunwch ddechrau cymryd eich pensiwn gohiriedig pan rydych chi rhwng 50 a 55 oed, efallai y gallwch gael eich pensiwn ar unwaith ar yr amod bod eich cyn-gyngor yn cydsynio i hynny.

Bydd swm eich pensiwn yn llai gan eich bod yn ei gymryd yn gynnar. Po gynharaf y dechreuwch chi gymryd eich pensiwn, po leiaf fydd ei swm. Fe gewch chi’r holl fanylion yn eich pecyn ymddeol.

Os bydd eich cyngor yn cytuno i dalu eich buddion cyn ichi droi’n 55 oed, efallai y codir tâl treth ar eich buddion pensiwn.

Ymddeoliad cynnar (heb fod angen caniatâd) Gallwch ddechrau cymryd eich pensiwn unrhyw bryd rhwng 55 oed a’r oedran ymddeol arferol. Bydd swm eich pensiwn yn llai gan eich bod yn ei gymryd yn gynnar. Po gynharaf y dechreuwch chi gymryd eich pensiwn, po leiaf fydd ei swm. Fe gewch chi’r holl fanylion yn eich pecyn ymddeol.
Ymddeol yn hwyr Gallwch ddechrau cymryd eich pensiwn gohiriedig pan rydych chi’n hŷn na’r oedran ymddeol arferol os dymunwch wneud hynny, cyn belled â’ch bod yn ei gymryd cyn ichi droi’n 75 oed. Bydd y pensiwn ychydig yn uwch gan eich bod yn ei gymryd yn hwyrach na’r disgwyl. Po hwyraf y byddwch yn ymddeol, po fwyaf fydd eich pensiwn.
Ymddeol oherwydd afiechyd Gallwch ymddeol oherwydd afiechyd beth bynnag yw eich oedran, ond byddai’n rhaid i chi ofyn i’ch cyn-gyngor a ellid talu eich pensiwn gohiriedig i chi ar sail afiechyd.

Bydd y cyngor yn gofyn i feddyg annibynnol farnu a ydych yn gymwys am ymddeoliad oherwydd afiechyd. Byddant yn ystyried, er enghraifft, p’un a ydych yn barhaol yn methu â chyflawni eich gwaith gyda nhw neu beidio Yna, byddant yn rhoi gwybod i chi a fedrwch chi dderbyn eich pensiwn ar unwaith.

Os ydych chi’n gymwys i ymddeol oherwydd afiechyd, bydd eich pensiwn gohiriedig yn daladwy i chi am oes. Ni fydd yn gostwng hyd yn oed os byddwch yn ei gymryd yn gynnar. Bydd y swm yr ydych yn ei dderbyn, fodd bynnag, yn dibynnu ar y pensiwn a gronnwyd gennych yn ystod y cyfnod y buoch chi’n talu cyfraniadau Cynghorydd i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Os yw eich disgwyliad oes yn llai na blwyddyn ar ddyddiad eich ymddeoliad ar sail afiechyd, efallai y gallwn droi’ch pensiwn yn un cyfandaliad gwerth pum gwaith cymaint â swm eich pensiwn blynyddol.

Os ydych chi’n optio allan o dalu cyfraniadau ond yn dal yn gynghorydd ar ôl yr oedran ymddeol, ni allwch dderbyn eich pensiwn ar unwaith. Mae’n rhaid i chi fod wedi rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd neu droi’n 75 oed, os yw hynny’n digwydd yn gynt, i dderbyn eich pensiwn.

Os byddwch yn ymddeol yn gynnar, bydd eich buddion yn gostwng yn unol â’r canrannau canlynol bob blwyddyn cyn eich oedran ymddeol arferol:

Nifer y Blynyddoedd a Delir yn GynnarGostyngiad yn y Pensiwn BlynyddolGostyngiad yn y Cyfandaliad Awtomatig
0 0% 0%
1 4.9% 1.7%
2 9.3% 3.3%
3 13.5% 4.9%
4 17.4% 6.5%
5 20.9% 8.1%
6 24.3% 9.6%
7 27.4% 11.1%
8 30.3% 12.6%
9 33.0% 14.1%
10 35.6% 15.5%

Rheol 85: Os ydych chi’n gymwys o dan Reol 85 ac yn ymddeol yn gynnar, ni phennir gostyngiad ar gyfran neilltuol o’ch pensiwn.

Ni fyddwch yn gymwys o dan Reol 85 ond os oeddech chi’n talu cyfraniadau pensiwn Cynghorydd i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol cyn 1 Hydref 2006. Rydych yn bodloni Rheol 85 os yw:

Eich oedran pan rydych yn derbyn eich buddion CPLlL
+
Nifer y blynyddoedd y taloch chi gyfraniadau pensiwn i CPLlL ar eu cyfer
+
Nifer y blynyddoedd sydd wedi mynd heibio ers i chi roi'r gorau i dalu cyfraniadau CPLlL
=
85 neu fwy

Os ydych yn bodloni’r Rheol 85, fe’i gweithredir yn awtomatig os byddwch yn dechrau cymryd eich pensiwn yn 60 oed.

Os ydych chi’n bodloni Rheol 85 ac yn dymuno cymryd eich pensiwn cyn i chi droi’n 60 oed, bydd yn rhaid i chi gael caniatâd eich cyn-gyngor er mwyn gweithredu’r rheol. Os nad yw eich cyn-gyngor yn cydsynio, gallwch ddal i gymryd eich pensiwn ond bydd yn llai na’r swm y byddech wedi’i dderbyn pe bai’r Rheol 85 yn berthnasol.

Mae Rheol 85 yn gweithio fel hyn:

Dyddiad GeniPensiwn a gronnwyd ar neu cyn 31 Mawrth 2008Pensiwn a gronnwyd rhwng 1 Ebrill 2008 a 31 Mawrth 2016Pensiwn a gronnwyd rhwng 1 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2020Pensiwn a gronnwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020
Rhwng 1 Ebrill 1956 a 31 Mawrth 1960. Heb ei ostwng Taprog: hynny yw wedi ei ostwng yn rhannol ar raddfa symudol Taprog Wedi ei ostwng yn llawn
Ar neu ar ôl 1 Ebrill 1960 Heb ei ostwng Wedi ei ostwng yn llawn Wedi ei ostwng yn llawn Wedi ei ostwng yn llawn